2004 Rhif 1735 (Cy.178)
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
2
Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau2
1
Mae Rheoliadau Adroddiadau Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 20013 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2 mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn nhrefn briodol yr wyddor —
ystyr “absenoldeb heb ei awdurdodi” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 19954) a rhaid dehongli “absenoldeb wedi'i awdurdodi” (“authorised absence”) yn unol â hynny;
ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol y cyhoeddwyd yr wybodaeth ynddi gan y corff llywodraethu;
ystyr “blwyddyn ysgol flaenorol” (“previous school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen blwyddyn adrodd yr ysgol;
ystyr “cwrs byr TGAU” (“GCSE short course”) yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo ac ystyr “arholiad cwrs byr TGAU” (“GCSE short course examination”) yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;
ystyr “cyfnod perthnasol o dair blynedd” (“relevant three year period”) yw'r cyfnod o dair blynedd ysgol sy'n dod i ben pan fydd blwyddyn adrodd yr ysgol yn darfod a'r cyfnod o dair blynedd ysgol sy'n dod i ben pan fydd y flwyddyn ysgol flaenorol yn darfod;
ystyr “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” (“approved external qualification”) yw cymhwyster o fewn ystyr “approved external qualification” yn adran 96(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 20005 ac yn gymhwyster a gafodd ei gymeradwyo, ar yr adeg berthnasol, o dan adran 99 o'r Ddeddf honno at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno;
ystyr “GNVQ” (“GNVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau achrededig gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a Chyngor Gogledd Iwerddon ar gyfer Arholiadau Cwricwlwm ac Asesiadau ac ystyr “lefel NQF” (“NQF level”) yw'r lefel(au) yr achredir y cymwysterau o fewn yr NQF;
ystyr “TAAU” (“AVCE”) yw Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch ac ystyr “TAAUG” (“ASVCE”) yw Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch Gyfrannol;
ystyr “TAG Safon Uwch” (“GCE ‘A’ level”) a “TAG Uwch Gyfrannol” (“GCE 'AS'”) yw Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn y drefn honno; ac
ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.
3
Yn rheoliad 3 yn lle'r geiriau “yr Atodlen” rhodder y geiriau “Atodlenni 1 a 2”.
4
Yn rheoliad 6(1)(a)—
a
yn lle'r geiriau “5 i 7” rhodder y geiriau “5, 6”; a
b
yn lle'r geiriau “o'r Atodlen” rhodder y geiriau “ o Atodlen 1 ac yn rhinwedd Atodlen 2”.
5
Mae'r Atodlen wedi'i hailrifo yn Atodlen 1.
6
Yn lle paragraff 6 o'r Atodlen a ailrifwyd yn Atodlen 1 rhodder—
1
Mynegir nifer yr absenoldebau heb eu hawdurdodi a nifer yr absenoldebau wedi'u hawdurdodi yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.
2
At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosogi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.
7
Hepgorer paragraff 7 o'r Atodlen a ailrifwyd yn Atodlen 1.
8
Ar ôl yr Atodlen a ailrifwyd yn Atodlen 1 rhodder y canlynol —
ATODLEN 2GWYBODAETH AM GANLYNIADAU ARHOLIADAU
RHAN 1Arholiadau TGAU, Cymwysterau Lefel Mynediad NQF a Chymwysterau Galwediagethol: Crynodebau
1
Ar gyfer blwyddyn adrodd yr ysgol, nifer y disgyblion 15 mlwydd oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol.
2
Ar gyfer y flwyddyn honno ac unrhyw flwyddyn gynharach, canran y disgyblion 15 mlwydd oed —
a
a gofrestrwyd ar gyfer un neu ragor o arholiadau TGAU, dau neu ragor o arholiadau cwrs byr TGAU ac un neu ragor o arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2;
b
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn un neu ragor o arholiadau TGAU neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 2;
c
a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn un neu ragor o arholiadau TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2
ch
nad enillasant unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiad ar lefel NQF 1 neu 2;
d
nad enillasant unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2, ond a enillodd unrhyw radd lwyddo mewn cymhwyster lefel mynediad NQF;
dd
nad enillasant unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiad arall ar lefel NQF 1 neu 2 neu unrhyw radd lwyddo mewn cymhwyster lefel mynediad NQF;
e
a gofrestrwyd ar gyfer pump neu ragor o arholiadau TGAU neu a gofrestrwyd ar gyfer nifer gyfatebol o arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2 neu unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2;
f
a gofrestrwyd ar gyfer un neu ragor o arholiadau ar lefel NQF 2 neu odani;
ff
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn pump neu ragor o arholiadau TGAU, neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU neu arholiadau eraill ar lefel NQF 2; ac
g
a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn pump neu ragor o arholiadau TGAU, neu radd gyfatebol mewn arholiadau tebyg ar lefel NQF 1 neu 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2.
3
Am y flwyddyn honno, mewn perthynas â disgyblion y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiadau ar lefel NQF 1 neu 2 heblaw cymwysterau nad ydynt yn cael eu graddio A* i G o fewn lefelau NQF 1 a 2, cyfartaledd y pwyntiau y mae disgyblion 15 mlwydd oed yn eu hennill fel a benderfynir drwy ganfod cyfanswm y pwyntiau a enillwyd gan y disgyblion hynny a rhannu'r ffigur hwnnw â chyfanswm y disgyblion.
4
Pob categori o wybodaeth y cyfeirir ato ym mharagraff 2 uchod, ond am bob cyfnod perthnasol o dair blynedd wedi'i fynegi fel canran gyfartalog dros y cyfnod hwnnw.
5
At ddibenion paragraff 3, mae'r cymwysterau a'r graddau a ganlyn yn cyfateb i'r pwyntiau a ganlyn:
a
TGAU gradd A* = 8 bwynt; gradd A = 7 bwynt; gradd B = 6 phwynt; gradd C = 5 pwynt; gradd D = 4 pwynt; gradd E = 3 phwynt; gradd F = 2 bwynt; a gradd G = 1 pwynt;
b
cwrs byr TGAU; gradd A* = 4 pwynt; gradd A = 3.5 pwynt; gradd B = 3 phwynt; gradd C = 2.5 pwynt; gradd D = 2 bwynt; gradd E = 1.5 pwynt; gradd F = 1 pwynt; a gradd G = 0.5 pwynt;
c
GNVQ llawn, lefel Ganolradd: rhagoriaeth = 30 pwynt; teilyngdod = 24 pwynt; a gradd lwyddo arall = 20 pwynt; a
ch
GNVQ llawn, lefel Sylfaen: rhagoriaeth = 16 pwynt; teilyngdod = 12 pwynt; a phob gradd lwyddo arall = 6 phwynt.
RHAN 2Cymwysterau Safon Uwch a lefel NQF 3: Crynodebau
6
Am flwyddyn adrodd yr ysgol, nifer y disgyblion 16, 17 neu 18 mlwydd oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol.
7
Am y flwyddyn honno, nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mhargraff 6 uchod y rhoddwyd eu henwau i sefyll llai na dau arholiad TAG Safon Uwch neu gymwysterau allanol a gymeradwywyd ar lefel NQF 3.
8
Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 uchod y mae eu graddau yn dod o fewn i bob un o'r ystodau canlynol o bwyntiau, sef: 0 i 4 pwynt, 5 i 9 pwynt a 10 i 15 pwynt.
9
Am y flwyddyn honno, mewn perthynas â'r disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 uchod, y nifer gyfartalog o bwyntiau a enillwyd gan ddisgyblion y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fel a benderfynir drwy ganfod cyfanswm y pwyntiau a enillwyd gan y disgyblion hynny a rhannu'r ffigur hwnnw â chyfanswm y disgyblion.
10
Am y flwyddyn honno, nifer y disgyblion, y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 uchod, a gofrestrwyd ar gyfer dau neu ragor o arholiadau TAG Safon Uwch neu'r cymwysterau allanol cyfatebol a gymeradwywyd ar lefel NQF 3.
11
Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod a enillodd unrhyw radd o A i C mewn dau neu ragor o arholiadau TAG Safon Uwch neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch ac arholiadau TAG Safon Uwch.
12
Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod a enillodd unrhyw radd o A i E mewn dau neu ragor o arholiadau Safon Uwch TAG neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch ac arholiadau TAG Safon Uwch.
13
Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod y mae eu graddau yn dod o fewn pob un o'r ystodau canlynol o bwyntiau, sef: 0 pwynt, 1 i 4 pwynt, 5 i 9 pwynt, 10 i 14 pwynt, 15 i 19 pwynt, 20 i 24 pwynt, 25 i 29 pwynt a 30 pwynt neu drosodd.
14
Am y flwyddyn honno, mewn perthynas â'r disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod, nifer gyfartalog y pwyntiau a enillodd y disgyblion y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fel a benderfynir drwy ganfod cyfanswm y pwyntiau a enillwyd gan y disgyblion hynny a rhannu'r ffigur hwnnw gan gyfanswm y disgyblion.
15
Pob categori o wybodaeth y cyfeirir ati ym mhob un o baragraffau 7 i 9 ac 11 i 14 uchod, ond mewn perthynas â phob cyfnod o dair blynedd wedi'i fynegi fel canran neu rif cyfartalog (yn ôl y digwydd) dros y cyfnod hwnnw.
16
At ddibenion paragraffau 8, 9, 13 a 14 o Ran 2 o'r Atodlen hon, mae'r cymwysterau a'r graddau canlynol yn cyfateb i'r pwyntiau canlynol:
a
TAG Safon Uwch neu TAAU; gradd A = 10 pwynt; gradd B = 8 pwynt; gradd C = 6 phwynt; gradd D = 4 pwynt; a gradd E = 2 bwynt; a
b
TAG Uwch Gyfrannol neu TAAUG: gradd A = 5 pwynt; gradd B = 4 pwynt; gradd C = 3 phwynt; gradd D = 2 bwynt; a gradd E = 1 pwynt.
RHAN 3Crynodebau o Ganlyniadau TGAU mewn Meysydd Pwnc Dethol
17
Am flwyddyn adrodd yr ysgol, canran y disgyblion 15 mlwydd oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol—
a
y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU yn y Saesneg;
b
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU yn y Saesneg;
c
a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU yn y Saesneg;
ch
y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU yn y Gymraeg;
d
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU yn y Gymraeg;
dd
a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU yn y Gymraeg;
e
y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU mewn mathemateg;
f
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn mathemateg;
ff
a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU mewn mathemateg;
g
y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth;
ng
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth;
h
a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth; ac
i
a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU yn y Saesneg neu'r Gymraeg (heblaw Cymraeg Ail Iaith) ac mewn arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth ac arholiad TGAU mewn mathemateg.
18
Pob categori o wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 15 uchod, ond am bob cyfnod perthnasol o dair blynedd wedi'i fynegi fel canran gyfartalog dros y cyfnod hwnnw.
RHAN 4Canlyniadau disgyblion mewn ysgolion yn ardal yr awdurdod addysg lleol ac mewn ysgolion yng Nghymru
19
Y llyfryn diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n dangos canlyniadau cyfartalog disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn ardal yr awdurdod ac yng Nghymru yn yr arholiadau a'r cymwysterau y cyfeirir atynt yn Rhannau 1, 2 a 3 o'r Atodlen hon.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)