3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “addysgu” (“teaching”) yw cyflawni gwaith o fath sydd wedi'i bennu drwy reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002(1);
ystyr “coleg dinasol” (“city college”) yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth o dan gontract cyflogi neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau o dan gontract cyflogi a mae cyfeiriadau at bersonau sydd wedi'u cyflogi neu'n cael eu cyflogi i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 8;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “person cymwys” (“competent person”) os sefydliad achrededig yw'r corff argymell, yw'r sefydliad hwnnw, ac mewn unrhyw achos arall mae'n golygu'r person a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(2);
ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(3);
ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(4);
ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993(5));
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(6);
ystyr “safonau penodedig” (“specified standards”) yw'r safonau sy'n gymwys ar yr adeg asesu a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y safonau y mae'n ofynnol i bersonau, sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig, eu cyrraedd;
ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;
ystyr “sefydliad addysg bellach” (“further education institution”) yw sefydliad sy'n darparu addysg bellach ac sy'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu sydd o fewn y sector addysg bellach;
ystyr “sefydliad estron” (“foreign institution”) yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom institution”) yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio un sy'n sefydliad â'i brif fan busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu un sy'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath neu'n ffurfio rhan ohono, ac mae'n cynnwys y Cyngor Cymwysterau Academaidd Cenedlaethol; ac
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly.
(2) Mae cyfeiriad at sefydliad heb ddisgrifiad pellach yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —
(a)Atodlen â Rhif , yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b)rheoliad â Rhif , yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c)paragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos; ac
(ch)is-baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.
Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S.2004/ (Cy.), oedd y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y Rheoliadau hyn.
O.S. 1959/364 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1978/1144.
O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.
O.S. 1989/1319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809.
O.S. 1993/543 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584.
O.S.1999/2817(Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy. 158), 2002/2938 (Cy. 279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy. 240) ac fel y'i dirymwyd yn rhannol gan O.S.2004/1744 (Cy.183).