Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “addysgu” (“teaching”) yw cyflawni gwaith o fath sydd wedi'i bennu drwy reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 20022;

  • ystyr “coleg dinasol” (“city college”) yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;

  • ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth o dan gontract cyflogi neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau o dan gontract cyflogi a mae cyfeiriadau at bersonau sydd wedi'u cyflogi neu'n cael eu cyflogi i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 8;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “person cymwys” (“competent person”) os sefydliad achrededig yw'r corff argymell, yw'r sefydliad hwnnw, ac mewn unrhyw achos arall mae'n golygu'r person a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 19593;

  • ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 19824;

  • ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 19895;

  • ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 19936);

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 19997;

  • ystyr “safonau penodedig” (“specified standards”) yw'r safonau sy'n gymwys ar yr adeg asesu a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y safonau y mae'n ofynnol i bersonau, sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig, eu cyrraedd;

  • ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;

  • ystyr “sefydliad addysg bellach” (“further education institution”) yw sefydliad sy'n darparu addysg bellach ac sy'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu sydd o fewn y sector addysg bellach;

  • ystyr “sefydliad estron” (“foreign institution”) yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom institution”) yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio un sy'n sefydliad â'i brif fan busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu un sy'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath neu'n ffurfio rhan ohono, ac mae'n cynnwys y Cyngor Cymwysterau Academaidd Cenedlaethol; ac

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly.

2

Mae cyfeiriad at sefydliad heb ddisgrifiad pellach yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

a

Atodlen â Rhif , yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

b

rheoliad â Rhif , yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

c

paragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos; ac

ch

is-baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.