- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 ac maent yn dod i rym at ddibenion rheoliadau 1, 2, 3 a 8 ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac at bob diben arall ar 1 Medi 2004.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “addysgu” (“teaching”) yw cyflawni gwaith o fath sydd wedi'i bennu drwy reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002(1);
ystyr “coleg dinasol” (“city college”) yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth o dan gontract cyflogi neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau o dan gontract cyflogi a mae cyfeiriadau at bersonau sydd wedi'u cyflogi neu'n cael eu cyflogi i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 8;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “person cymwys” (“competent person”) os sefydliad achrededig yw'r corff argymell, yw'r sefydliad hwnnw, ac mewn unrhyw achos arall mae'n golygu'r person a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(2);
ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(3);
ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(4);
ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993(5));
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(6);
ystyr “safonau penodedig” (“specified standards”) yw'r safonau sy'n gymwys ar yr adeg asesu a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y safonau y mae'n ofynnol i bersonau, sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig, eu cyrraedd;
ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;
ystyr “sefydliad addysg bellach” (“further education institution”) yw sefydliad sy'n darparu addysg bellach ac sy'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu sydd o fewn y sector addysg bellach;
ystyr “sefydliad estron” (“foreign institution”) yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom institution”) yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio un sy'n sefydliad â'i brif fan busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu un sy'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath neu'n ffurfio rhan ohono, ac mae'n cynnwys y Cyngor Cymwysterau Academaidd Cenedlaethol; ac
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly.
(2) Mae cyfeiriad at sefydliad heb ddisgrifiad pellach yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —
(a)Atodlen â Rhif , yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b)rheoliad â Rhif , yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c)paragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos; ac
(ch)is-baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.
4.—(1) Mae'r rheoliadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.
(2) Mae'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i gael effaith.
5. Yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 o Reoliadau 1999, mae personau yn athrawon cymwysedig—
(a)os ydynt yn bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 2, 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2, neu
(b)os ydynt yn bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 5 i 14 o Ran 1 o Atodlen 2 a'u bod wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6.
6.—(1) Rhaid i'r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau 5 i 14 o Atodlen 2 gael eu hysbysu'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), mae personau sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (1) yn gymwysedig o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor yn ei ddarparu yn yr hysbysiad.
(3) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraffau 9, 10, 12 neu 13 o Atodlen 2, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor beidio â darparu i'r personau hynny fod yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y bydd yr asesiad y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny wedi'i gwblhau.
(4) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 11 o Atodlen 2, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor, beidio â darparu i'r personau hynny fod yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y byddant wedi cwblhau'r cyfnod o wasanaeth fel athrawon sydd wedi'u trwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey.
(5) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor ddarparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y byddant wedi ymgymhwyso fel athrawon ysgol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
7.—(1) Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad fel darparydd cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol.
(2) Dim ond sefydliad sy'n bodloni'r meini prawf a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol y caiff Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei achredu.
(3) Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru dynnu'n ôl achrediad sefydliad yn unol â'r meini prawf a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Cyn pennu unrhyw feini prawf o dan baragraffau (2) a (3) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
8.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu cynllun a fyddai'n fodd i ganiatáu i bersonau, sy'n cael eu cyflogi neu sydd wedi'u cyflogi mewn ysgol neu sefydliad addysg arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion, ddod yn athrawon cymwysedig.
(2) Gelwir cynllun a sefydlir o dan baragraff (1) yn gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(3) Caiff cynllun o'r fath ddarparu ar gyfer y rhaglen hyfforddiant y mae'n rhaid i bersonau ymgymryd ag ef.
(4) Caiff cynllun o'r fath ddarparu bod personau, sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a honno'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod fel rhaglen hyfforddiant gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno, yn cael eu hasesu gan berson cymwys i benderfynu a ydynt yn cyrraedd y safonau penodedig heb fod angen iddynt ymgymryd â hyfforddiant pellach.
(5) Rhaid i unrhyw berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth yn rhinwedd y rheoliad hwn ystyried unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno.
9. Yn rheoliadau 11, 12 a 13(1) o Reoliadau 1999, rhodder yn lle'r geiriau “yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3” y geiriau “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: