- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13. Swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 9(2) o'r Ddeddf yw £200 fesul tunnell o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi dros ben lwfans cyfan yr awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.
14.—(1) Ac eithrio pan fydd paragraffau (2) a (4) yn gymwys, £1,000 yw swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.
(2) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff —
(i)yn tanddatgan faint o wastraff trefol a gasglwyd neu faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi; neu
(ii)yn gorddatgan faint o wastraff trefol a ddargyfeiriwyd i gyfleusterau gwastraff eraill,
£200 fesul tunnell o'r gwall yw'r gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w thalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.
(3) At ddibenion paragraff (2), “y gwall” yw faint y mae swm gwirioneddol y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff yn y flwyddyn gynllun yn fwy na swm y gwastraff trefol pydradwy a fyddai wedi'i anfon i safle tirlenwi am y flwyddyn honno petai'r ffigurau a ddatganwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gywir.
(4) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn methu â chyflwyno unrhyw ddychweliad ynglŷn â blwyddyn gynllun yn unol â rheoliad 6(4), mae'r awdurdod hwnnw yn agored i gosb sy'n gyfartal â £400 am bob tunnell o'r lwfans cyfan a ddyrannwyd i'r awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno a'r ffigur hwnnw.
15.—(1) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb, caiff y Cynulliad asesu'r swm sy'n ddyledus o ran cosb a hysbysu'r awdurdod gwaredu gwastraff o'r swm hwnnw.
(2) Mae'r gosb yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod gwaredu gwastraff ei hysbysu gan y Cynulliad o swm y gosb o dan baragraff (1).
(3) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb o dan y Ddeddf ac nad yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2), mae'r awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i dalu llog ar y gosb am y cyfnod sydd—
(a)yn dechrau ar y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2); a
(b)yn dod i ben y diwrnod cyn y diwrnod y mae'r gosb a aseswyd o dan baragraff (1) yn cael ei thalu.
(4) Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR fesul dydd.
(5) At ddibenion paragraff (4), ystyr “LIBOR” yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis ac sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r gosb yn dod yn ddyledus a'r dyddiad y mae'r gosb yn cael ei thalu i'r Cynulliad.
(6) Pan fydd cosb wedi'i hasesu a'i hysbysu i awdurdod gwaredu gwastraff o dan baragraff (1), gellir adennill swm y gosb ac unrhyw log y parwyd ei godi o dan baragraff (3) fel dyled sifil.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fydd llog yn daladwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: