RHAN 2Gorfodi

Pwerau ynglŷn â dogfennau

9.  Caiff swyddog gorfodi—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros gynnyrch, unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch ac unrhyw swyddog corfforaethol, cyflogai, gwas neu asiant i unrhyw bersonau o'r fath, ddangos unrhyw ddogfen berthnasol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ynglŷn â'r cynnyrch, ac i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol y bydd y swyddog gorfodi yn gofyn yn rhesymol amdani;

(b)archwilio unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch ac, os yw'n cael ei chadw trwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen berthnasol honno, ei archwilio a gwirio ei weithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau y gwêl y swyddog gorfodi yn dda o unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch a dal ei afael ar y copïau hynny; ac

(ch)atafaelu unrhyw ddogfen berthnasol ynglŷn â chynnyrch y mae gan y swyddog gorfodi le i gredu y gallai fod angen amdani fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a dal ei afael arni, a phan fo unrhyw ddogfen berthnasol yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf y gellir mynd â hi oddi yno.