RHAN 9Cynhyrchion a Ddychwelwyd o Drydydd Gwledydd

Ystyr “tystysgrif allforio”48

Yn y Rhan hon ystyr “tystysgrif allforio” yw tystysgrif sy'n ardystio bod y cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â safonau iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, ac a ddyroddwyd i hwyluso allforiad gwreiddiol y cynnyrch hwnnw o diriogaeth dollau'r Gymuned gan yr awdurdod sy'n gyfrifol am fonitro safonau o'r fath yn sefydliad tarddiad Cymunedol y cynnyrch a ddychwelwyd.