- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 2
1. Cig amrwd nad ychwanegwyd unrhyw gynhwysyn ato, nac unrhyw gynhwysyn heblaw ensymau proteolytig.
2. Cig dofednod o fewn cwmpas Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90(1) ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 317/93(2) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 3204/93(3) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1538/91(4)) sy'n cyflwyno rheolau manwl i weithredu Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2891/93(5), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2390/95(6)) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1000/96(7).
3. Unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys braster unrhyw aderyn neu anifail ond ddim unrhyw gig arall.
Rheoliad 4(1) a (2)
| Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | ||
|---|---|---|---|---|
| Enw'r Bwyd | Gofynion Cynnwys Cig neu Gig wedi'i Halltu | Gofynion Ychwanegol | ||
| Nodyn: Cyfrifir y gofynion ar gynnwys cig neu gig wedi'i halltu a bennir yn yr Atodlen hon yn ôl pwysau. Mewn perthynas ag eitemau 1 i 6 a 11 seilir hwy, yn ddarostyngedig i reoliad 4(2)(a)(ii), ar bwysau'r bwyd o dan sylw fel y mae wedi'i labelu neu, yn ôl y digwydd, wedi'i hysbysebu. | ||||
| Rhaid i'r bwyd gynnwys dim llai na'r ganran o gig a ddynodir, pan fydd y cynhwysyn sy'n gig yn cynnwys y canlynol: | ||||
| Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o foch yn unig | Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o adar yn unig, cwningod yn unig, neu gyfuniad o adar chwningod yn unig | Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o rywogaeth arall neu gymysgeddau eraill o gig | ||
1. Burger — boed yn rhan o air arall neu beidio, ond gan eithrio unrhyw enw sy'n dod o fewn eitemau 2 neu 3 o'r Atodlen hon. | 67% | 55% | 62% | 1. Os defnyddir yr enw “hamburger”, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod yn gig eidion, porc neu gymysgedd o'r ddau. 2. Os goleddfir yr enwau “burger” neu “economy burger” gan enw ar fath o gig wedi'i halltu, rhaid i'r bwyd gynnwys canran o gig o'r math y paratoir y cig wedi'i halltu ohono sydd o leiaf yn hafal i'r lleiafswm o gynnwys cig sy'n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 3. Os goleddfir unrhyw un o'r enwau “burger”, “economy burger” neu “hamburger” gan enw ar fath o gig, rhaid i'r bwyd gynnwys canran o'r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i'r lleiafswm o gynnwys cig sy'n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 4. Os defnyddir unrhyw un o'r enwau “burger”, “economy burger” neu “hamburger” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy'n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i'r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai'r cymysgedd cig yn gynnyrch cig y defnyddiwyd ei enw fel enw'r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu. |
2. Economy Burger — p'un a yw “burger” yn ffurfio rhan o air arall neu beidio. | 50% | 41% | 47% | |
3. Hamburger — p'un a yw'n ffurfio rhan o air arall neu beidio. | 67% | Ddim yn gymwys | 62% | |
4. Chopped X, os rhoddir yn lle'r “X” yr enw “meat” neu “cured meat” neu enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu, p'un a chynhwysir yr enw ar y math o gig neu beidio. | 75% | 62% | 70% | Dim gofynion ychwanegol |
5. Corned X, os rhoddir yn lle'r “X” yr enw “meat” neu enw ar fath o gig, oni oleddfir yr enw gan eiriau sy'n cynnwys enw bwyd heblaw cig. | 120% | 120% | 120% | 1. Rhaid i'r bwyd gynnwys cig a gyffeithiwyd yn unig. 2. Os bydd enw'r bwyd yn cynnwys enw ar fath o gig, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod o'r math a enwir yn unig. 3. Rhaid i gyfanswm y braster yn y bwyd beidio â bod yn fwy na 15%. |
6. Luncheon meat Luncheon X, lle rhoddir yn lle'r “X” enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu. | 67% | 55% | 62% | Dim gofynion ychwanegol |
7. Meat pie
| 1. Os defnyddir yr enw “Melton Mowbray pie”, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod yn gig o foch yn unig. | |||
Melton Mowbray pie Game pie | ||||
| Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | 12.5% | 12.5% | 12.5% | |
| Ond os yw'r bwyd yn pwyso — | ||||
| dim mwy na 200 g. a dim llai na 100 g. | 11% | 11% | 11% | |
| llai na 100 g. | 10% | 10% | 10% | |
8. Scottish pie neu Scotch pie | Dim gofynion ychwanegol | |||
| Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | 10% | 10% | 10% | |
9. Yr enw “pie” neu “pudding” wedi'i oleddfu gan y geiriau “meat” neu “cured meat” neu gan enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu ac wedi'i oleddfu hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi'i halltu — | Dim gofynion ychwanegol | |||
| Lle bo'r goleddfiad cyntaf (sy'n ymwneud â chig) yn dod o flaen yr olaf | 7% | 7% | 7% | |
| Lle bo'r goleddfiad olaf (nad yw'n ymwneud â chig) yn dod o flaen y cyntaf | 6% | 6% | 6% | |
| Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | ||||
10. Pasty neu Pastie
| Dim gofynion ychwanegol | |||
| Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | 6% | 6% | 6% | |
11. Sausage (heb gynnwys yr enw “sausage” pan oleddfir ef gan y geiriau “liver” neu “tongue” neu'r ddau), link, chipolata neu sausage meat. | Dim gofynion ychwanegol | |||
| Os goleddfir yr enw gan yr enw “pork” ond nid gan enw unrhyw fath arall o gig | 42% | Ddim yn gymwys | Ddim yn gymwys | |
| Ym mhob achos arall | 32% | 26% | 30% | |
Rheoliad 5(2)(b)
1. Unrhyw ychwanegyn.
2. Unrhyw halen halltu.
3. Unrhyw gynhwysyn a ddefnyddiwyd yn unig fel garnis neu gaenen addurnol.
4. Unrhyw gynhwysyn (nad yw'n ychwanegyn) a ychwanegir yn unig er mwyn rhoi arogl neu flas neu'r ddau.
5. Unrhyw halen, perlysieuyn neu sbeis a ddefnyddir fel sesnin.
6. Unrhyw startsh a ychwanegir at ddiben technolegol yn unig.
7. Unrhyw brotein (naill ai'n deillio o anifeiliaid neu o lysiau) a ychwanegir at ddiben technolegol yn unig.
8. Unrhyw siwgr a ychwanegir yn unig er mwyn rhoi blas melys.
9. Yn achos cig (boed wedi'i goginio neu heb ei goginio) neu gig wedi'i halltu wedi'i goginio, dwr ychwanegol nad yw'n ffurfio dim mwy na 5% o bwysau'r cynnyrch.
10. Yn achos cig wedi'i halltu heb ei goginio, dwr ychwanegol nad yw'n ffurfio dim mwy na 10% o bwysau'r cynnyrch.
Nodiadau:
At ddibenion eitem 1 o'r Atodlen hon, ystyr “ychwanegyn” yw unrhyw sylwedd a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn bwyd gan Reoliadau lliwiau mewn Bwyd 1995(8), Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992(9), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(10) neu Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(11)).
At ddibenion eitemau 6 a 7 o'r Atodlen hon, ystyr “diben technolegol” yw unrhyw ddiben o fewn ystyr “technological purposes” ym mhwynt 4 o Bennod V o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach ryng-gymunedol mewn cynhyrchion cig, fel y'i diwygiwyd a'i diweddaru gan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC(12) ac fel y'i diwygiwyd ymhellach gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/76/EC(13).
Rheoliad 9(c)
Regulation 23(2)(c)
1. Sandwiches, filled rolls and similar products, which are ready for consumption without further processing, other than products containing meat which are sold under a name, whether or not qualified by other words, included in the items “burger”, “economy burger” or “hamburger” in Schedule 2 (reserved descriptions) to the Meat Products (Wales) Regulations 2004.
2. Pizzas and similar topped products.
3. Any food for which the name is “broth”, “gravy” or “soup”, whether or not qualified by other words.
4. A food consisting of an assemblage of two or more ingredients, which has not been subjected to any processing or treatment once it has been assembled, and which is sold to the ultimate consumer as an individual portion intended to be consumed without further processing or treatment.”.
OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.
OJ Rhif L37, 13.2.93, t.8.
OJ Rhif L289, 24.11.93, t.3.
OJ Rhif L143, 7.6.91, t.11.
OJ Rhif L263, 22.10.93, t.12.
OJ Rhif L244, 12.10.95, t.60.
OJ Rhif L134, 5.6.96, t.9.
O.S.1995/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1799(Cy.124), 2001/3909(Cy.321).
O.S.1992/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1486, 1996/1499.
O.S.1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1440(Cy.102), 1787(Cy.128), 2679(Cy.220), 3909(Cy.321), 2002/329(Cy.42).
O.S.1995/3123; diwygiwyd gan O.S. 1996/1477, 1997/814 a 1999/982, 2001/2679(Cy.220).
OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1.
OJ Rhif L10, 16.1.98, t.25.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: