Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2004 Rhif 1396 (Cy.141)

BWYD, CYMRU

CYFANSODDIAD A LABELU

Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

19 Mai 2004

Yn dod i rym

31 Mai 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ac ar ôl ystyried cyngor perthnasol yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  O ran y Rheoliadau hyn —

(a)eu henw yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004;

(b)maent yn gymwys i Gymru yn unig;

(c)deuant i rym ar 31 Mai 2004.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd yng Nghymru a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4), yw awdurdod iechyd porthladd am ar ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd(5) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC(6);

mae i “cig wedi'i adfer yn fecanyddol” yr ystyr a roddir i “mechanically recovered meat” yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC;

ystyr “cig wedi'i halltu” (“cured meat”) yw bwyd sy'n cynnwys cig a halen halltu, p'un a yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysyn arall neu beidio;

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a briodolir i “ingredient” gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996;

ystyr “cynnyrch cig” (“meat product”) yw unrhyw fwyd, heblaw un a bennir yn Atodlen 1, sy'n gig neu sy'n cynnwys cynhwysyn, neu fel cynhwysion unrhyw rai o'r canlynol: cig; cig wedi'i adfer yn fecanyddol; neu, o unrhyw rywogaeth famalaidd neu adarol y cydnabyddir ei fod yn ffit i'w fwyta gan bobl, calon, tafod, cyhyrau'r pen (heblaw maseterau), carpws, tarsws, neu'r gynffon;

mae i “defnyddiwr olaf” yr ystyr a briodolir i “ultimate consumer” gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny; a

ystyr “halen halltu” (“curing salt”) yw sodiwm clorid, potasiwm clorid, sodiwm nitrad, potasiwm nitrad, sodiwm nitrid neu botasiwm nitrid, boed wrtho'i hun neu mewn unrhyw gyfuniad, ac eithrio y bernir bod sodiwm clorid neu botasiwm clorid ei hun neu gymysgedd o sodiwm clorid a photasiwm clorid ei hun yn halen halltu pan ddefnyddir ef mewn cynnyrch cig ond yn unig os defnyddir digon ohono i gael effaith cyffeithiol ar y cynnyrch cig;

“ mae i “sefydliad arlwyo” yr ystyr a briodolir i “catering establishment” gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996(7);

ystyr “wedi'i goginio” (“cooked”), mewn perthynas â bwyd, yw bwyd a fu drwy broses goginio drwy'r bwyd cyfan fel y gwerthir y bwyd i'w fwyta gan bobl heb ei goginio ymhellach, a dehonglir “heb ei goginio” (“uncooked”) yn unol â hynny.

Cwmpas

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w gyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

(2Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd —

(a)na fwriedir ei werthu ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu

(b)sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu gan ddynodi'n eglur y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta gan fabanod neu blant bach yn unig.

(3Ni fydd Rheoliad 4 (cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd —

(a)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —

(i)o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig,

lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu

(b)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —

(i)o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig,

lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.

(4At ddibenion paragraff (3) —

ystyr “Gwladwriaeth EEA” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (8) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(9) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Gwladwriaeth sy'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol

4.—(1At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu cynnyrch cig fel enw'r bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio —

(a)onid yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu

(b) oni ddefnyddir yr enw yn unol â pharagraff (2).

(2Ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai'n bendant neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai —

(a)(i)bod y cynnyrch hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd, a

(ii)bod y cynnyrch hwnnw wedi cydymffurfio, ar adeg paratoi'r bwyd, â'r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu

(b)(i)bod yr enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd am y bwyd hwnnw yn enw sydd yn ymddangos yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, a

(ii)bod y bwyd yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno.

(3Ni chaiff neb werthu bwyd os defnyddir enw ar ei label yn groes i baragraffau (1) neu (2).

(4Ni chaiff neb ddefnyddio enw yn groes i baragraffau (1) neu (2) wrth hysbysebu bwyd ar werth.

Enw'r bwyd ar gyfer cynhyrchion cig penodol

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn gwerthu unrhyw gynnyrch cig sy'n ymddangos yn ddarn, rhan, tafell, cyfran neu garcas o gig neu o gig wedi'i halltu (ac ym mhob achos, boed wedi'i goginio neu heb ei goginio), bydd y rheoliad hwn yn gymwys.

(2At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, rhaid i'r enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd wrth labelu unrhyw gynnyrch cig y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys rhywbeth i ddynodi —

(a)unrhyw gynhwysyn ychwanegol sy'n deillio o anifeiliaid, onid yw'r cynnyrch cig yn cynnwys cig o'r rhywogaeth y deilliodd y cynhwysyn ychwanegol hwnnw ohono; a

(b)unrhyw gynhwysyn ychwanegol nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo heblaw cynhwysyn a bennir yn Atodlen 3.

(3At ddibenion paragraff (1), ni chymerir i ystyriaeth bresenoldeb unrhyw sesno, garnisio neu sylweddau gelatin sydd yn neu ar y cynnyrch cig, neu unrhyw ddeunyddiau pecynnu am gynnyrch cig.

(4Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys lle defnyddir enw fel enw'r bwyd sy'n enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio neu i fwyd yr ymddengys ei fod yn friwgig heb ei goginio a gafodd ei siapio.

Rhannau o'r carcas mewn cynhyrchion cig heb eu coginio

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu cynnyrch cig heb ei goginio y defnyddiwyd unrhyw ran a bennir ym mharagraff (2) o'r carcas o unrhyw rywogaeth famalaidd fel cynhwysyn wrth ei baratoi.

(2Dyma'r rhannau a bennir o'r carcas: ymennydd, traed, coluddyn mawr, coluddyn bach, ysgyfaint, oesoffagws, rectwm, madruddyn cefn, dueg, stumog, ceilliau a chadair neu bwrs.

(3Ni fydd y gwaharddiad sydd ym mharagraff (1) yn cynnwys defnyddio'r coluddyn mamalaidd mawr neu fach ond fel croen selsig yn unig.

(4Yn y rheoliad hwn mae'r gair “selsig” yn cynnwys chipolata, frankfurter, dolen, salami ac unrhyw gynnyrch tebyg.

Cosbau a gorfodi

7.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5(2) neu 6(1) o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i bob awdurdod bwyd or fodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

(3Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â bwyd a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990

8.  Bydd darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau am fod bai ar berson arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno);

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (h);

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

9.  Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 2(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “liqueur wine” mewnosoder y diffiniad canlynol —

“meat product” has the meaning assigned to it by the Meat Products (Wales) Regulations 2004;;

(b)yn rheoliad 23 (bwyd nad yw wedi'i ragbacio a bwyd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi), ym mharagraff (2) —

(i)dileer y gair “and” ar ddiwedd is-baragraff (a), a

(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder y canlynol —

  • and

    (c)

    in the case of a meat product other than one listed in Schedule 4A the particulars required by regulation 5(bA) in respect of those of its ingredients being meat, within the meaning assigned to it by Directive 2000/13/EC of the European Parliament and the Council on the approximation of the laws of the Member States relating to the labelling, presentation and advertising of foodstuffs, as amended by Commission Directive 2001/101/EC,;

(c)Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

10.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)(i)bod y weithred wedi ei chyflawni cyn 1 Awst 2004; a

(ii)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(10) fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; neu

(b)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi digwydd mewn perthynas ag ef —

(i)wedi'i fwriadu i'w allforio ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth ddomestig y wlad sy'n mewnforio sy'n berthnasol i'r tramgwydd a honnir; neu

(ii)lle bo achos o dramgwydd o dan reoliad 4 neu 5, ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio a'i fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 1 Awst 2004.

Dirymu

11.  I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mai 2004

Rheoliad 2

ATODLEN 1BWYDYDD NAD YDYNT YN GYNHYRCHION CIG AT DDIBENION Y RHEOLIADAU HYN

1.  Cig amrwd nad ychwanegwyd unrhyw gynhwysyn ato, nac unrhyw gynhwysyn heblaw ensymau proteolytig.

2.  Cig dofednod o fewn cwmpas Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90(12) ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 317/93(13) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 3204/93(14) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1538/91(15)) sy'n cyflwyno rheolau manwl i weithredu Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2891/93(16), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2390/95(17)) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1000/96(18).

3.  Unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys braster unrhyw aderyn neu anifail ond ddim unrhyw gig arall.

Rheoliad 4(1) a (2)

ATODLEN 2DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Enw'r BwydGofynion Cynnwys Cig neu Gig wedi'i HalltuGofynion Ychwanegol
Nodyn: Cyfrifir y gofynion ar gynnwys cig neu gig wedi'i halltu a bennir yn yr Atodlen hon yn ôl pwysau. Mewn perthynas ag eitemau 1 i 6 a 11 seilir hwy, yn ddarostyngedig i reoliad 4(2)(a)(ii), ar bwysau'r bwyd o dan sylw fel y mae wedi'i labelu neu, yn ôl y digwydd, wedi'i hysbysebu.
Rhaid i'r bwyd gynnwys dim llai na'r ganran o gig a ddynodir, pan fydd y cynhwysyn sy'n gig yn cynnwys y canlynol:
Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o foch yn unigCig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o adar yn unig, cwningod yn unig, neu gyfuniad o adar chwningod yn unigCig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o rywogaeth arall neu gymysgeddau eraill o gig

1.  Burger — boed yn rhan o air arall neu beidio, ond gan eithrio unrhyw enw sy'n dod o fewn eitemau 2 neu 3 o'r Atodlen hon.

67%55%62%

1.  Os defnyddir yr enw “hamburger”, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod yn gig eidion, porc neu gymysgedd o'r ddau.

2.  Os goleddfir yr enwau “burger” neu “economy burger” gan enw ar fath o gig wedi'i halltu, rhaid i'r bwyd gynnwys canran o gig o'r math y paratoir y cig wedi'i halltu ohono sydd o leiaf yn hafal i'r lleiafswm o gynnwys cig sy'n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3.  Os goleddfir unrhyw un o'r enwau “burger”, “economy burger” neu “hamburger” gan enw ar fath o gig, rhaid i'r bwyd gynnwys canran o'r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i'r lleiafswm o gynnwys cig sy'n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

4.  Os defnyddir unrhyw un o'r enwau “burger”, “economy burger” neu “hamburger” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy'n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i'r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai'r cymysgedd cig yn gynnyrch cig y defnyddiwyd ei enw fel enw'r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

2.  Economy Burger — p'un a yw “burger” yn ffurfio rhan o air arall neu beidio.

50%41%47%

3.  Hamburger — p'un a yw'n ffurfio rhan o air arall neu beidio.

67%Ddim yn gymwys62%

4.  Chopped X, os rhoddir yn lle'r “X” yr enw “meat” neu “cured meat” neu enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu, p'un a chynhwysir yr enw ar y math o gig neu beidio.

75%62%70%Dim gofynion ychwanegol

5.  Corned X, os rhoddir yn lle'r “X” yr enw “meat” neu enw ar fath o gig, oni oleddfir yr enw gan eiriau sy'n cynnwys enw bwyd heblaw cig.

120%120%120%

1.  Rhaid i'r bwyd gynnwys cig a gyffeithiwyd yn unig.

2.  Os bydd enw'r bwyd yn cynnwys enw ar fath o gig, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod o'r math a enwir yn unig.

3.  Rhaid i gyfanswm y braster yn y bwyd beidio â bod yn fwy na 15%.

6.  Luncheon meat

Luncheon X, lle rhoddir yn lle'r “X” enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu.

67%55%62%Dim gofynion ychwanegol

7.  Meat pie

  • Meat pudding

  • Yr enw “pie” neu “pudding” wedi'i oleddfu gan enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu oni oleddfir ef hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi'i halltu

1.  Os defnyddir yr enw “Melton Mowbray pie”, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod yn gig o foch yn unig.

Melton Mowbray pie

Game pie

Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio12.5%12.5%12.5%
Ond os yw'r bwyd yn pwyso —
dim mwy na 200 g. a dim llai na 100 g.11%11%11%
llai na 100 g.10%10%10%

8.  Scottish pie neu

Scotch pie

Dim gofynion ychwanegol
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio10%10%10%

9.  Yr enw “pie” neu “pudding” wedi'i oleddfu gan y geiriau “meat” neu “cured meat” neu gan enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu ac wedi'i oleddfu hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi'i halltu —

Dim gofynion ychwanegol
Lle bo'r goleddfiad cyntaf (sy'n ymwneud â chig) yn dod o flaen yr olaf7%7%7%
Lle bo'r goleddfiad olaf (nad yw'n ymwneud â chig) yn dod o flaen y cyntaf6%6%6%
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio

10.  Pasty neu Pastie

  • Bridie

  • Sausage roll

Dim gofynion ychwanegol
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio6%6%6%

11.  Sausage (heb gynnwys yr enw “sausage” pan oleddfir ef gan y geiriau “liver” neu “tongue” neu'r ddau), link, chipolata neu sausage meat.

Dim gofynion ychwanegol
Os goleddfir yr enw gan yr enw “pork” ond nid gan enw unrhyw fath arall o gig42%Ddim yn gymwysDdim yn gymwys
Ym mhob achos arall32%26%30%

Rheoliad 5(2)(b)

ATODLEN 3CYNHWYSION YCHWANEGOL NAD OES ANGEN EU DYNODI YN ENW'R BWYD MEWN ACHOS CYNNYRCH CIG Y MAE RHEOLIAD 5 YN GYMWYS IDDO

1.  Unrhyw ychwanegyn.

2.  Unrhyw halen halltu.

3.  Unrhyw gynhwysyn a ddefnyddiwyd yn unig fel garnis neu gaenen addurnol.

4.  Unrhyw gynhwysyn (nad yw'n ychwanegyn) a ychwanegir yn unig er mwyn rhoi arogl neu flas neu'r ddau.

5.  Unrhyw halen, perlysieuyn neu sbeis a ddefnyddir fel sesnin.

6.  Unrhyw startsh a ychwanegir at ddiben technolegol yn unig.

7.  Unrhyw brotein (naill ai'n deillio o anifeiliaid neu o lysiau) a ychwanegir at ddiben technolegol yn unig.

8.  Unrhyw siwgr a ychwanegir yn unig er mwyn rhoi blas melys.

9.  Yn achos cig (boed wedi'i goginio neu heb ei goginio) neu gig wedi'i halltu wedi'i goginio, dwr ychwanegol nad yw'n ffurfio dim mwy na 5% o bwysau'r cynnyrch.

10.  Yn achos cig wedi'i halltu heb ei goginio, dwr ychwanegol nad yw'n ffurfio dim mwy na 10% o bwysau'r cynnyrch.

  • Nodiadau:

  • At ddibenion eitem 1 o'r Atodlen hon, ystyr “ychwanegyn” yw unrhyw sylwedd a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn bwyd gan Reoliadau lliwiau mewn Bwyd 1995(19), Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992(20), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(21) neu Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(22)).

  • At ddibenion eitemau 6 a 7 o'r Atodlen hon, ystyr “diben technolegol” yw unrhyw ddiben o fewn ystyr “technological purposes” ym mhwynt 4 o Bennod V o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach ryng-gymunedol mewn cynhyrchion cig, fel y'i diwygiwyd a'i diweddaru gan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC(23) ac fel y'i diwygiwyd ymhellach gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/76/EC(24).

Rheoliad 9(c)

ATODLEN 4ATODLEN I'W MEWNOSOD, I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS I GYMRU, YN RHEOLIADAU LABELU BWYD 1996

Regulation 23(2)(c)

SCHEDULE 4AMEAT PRODUCTS NOT REQUIRED TO BEAR AN INDICATION OF THE QUANTITY OF AN INGREDIENT OR CATEGORY OF INGREDIENTS WHEN SOLD NOT PREPACKED OR PREPACKED FOR DIRECT SALE

1.  Sandwiches, filled rolls and similar products, which are ready for consumption without further processing, other than products containing meat which are sold under a name, whether or not qualified by other words, included in the items “burger”, “economy burger” or “hamburger” in Schedule 2 (reserved descriptions) to the Meat Products (Wales) Regulations 2004.

2.  Pizzas and similar topped products.

3.  Any food for which the name is “broth”, “gravy” or “soup”, whether or not qualified by other words.

4.  A food consisting of an assemblage of two or more ingredients, which has not been subjected to any processing or treatment once it has been assembled, and which is sold to the ultimate consumer as an individual portion intended to be consumed without further processing or treatment..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mewn perthynas â Chymru mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli yn rhannol, Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984 (O.S. 1984/1566, fel y'i diwygiwyd) sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr (rheoliad 11).

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diffinio amryw o ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau (rheoliad 2);

(b)yn pennu cwmpas y Rheoliadau (rheoliad 3);

(c)yn gwahardd defnyddio enwau penodol wrth labelu neu hysbysebu cynhyrchion cig os nad yw'r cynhyrchion yn bodloni gofynion penodol yn eu cyfansoddiad a gwerthu bwyd wedi'i labelu yn groes i'r gwaharddiad hwnnw (rheoliad 4 a Atodlen 2);

(ch)yn rhagnodi, ac eithrio mewn achosion a bennir, lle gwerthir cynhyrchion cig o ymddangosiad penodol bod yn rhaid i'r enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd wrth labelu cynhyrchion gynnwys rhywbeth sy'n dynodi unrhyw gynhwysion ychwanegol sy'n deillio o anifeiliaid ac unrhyw gynhwysion ychwanegol na ddeuant i gategorïau penodedig (rheoliad 5 a Atodlen 3);

(d)yn ddarostyngedig i eithriad, yn gwahardd gwerthu cynhyrchion cig heb eu coginio sy'n cynnwys ymysg eu cynhwysion rannau penodedig o garcas unrhyw rywogaeth anifail mamalaidd (rheoliad 6);

(dd)yn rhagnodi cosbau am dorri'r Rheoliadau a dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer eu gorfodi a'u gweithredu (rheoliad 7);

(e)yn ddarostyngedig i addasiad, yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau rheoliad 8);

(f)yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499 fel y'u diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru —

(i)drwy ychwanegu diffiniad o “meat product” at reoliad 2(1) (dehongli), a

(ii)yn rheoliad 23 (bwyd nad yw wedi'i ragbacio a bwyd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi) gan ychwanegu, fel eithriad i'r rheoliad hwnnw, baragraff 2(c) newydd sy'n darparu, yn achos cynhyrchion cig heblaw y rhai a bennwyd, na chawsant eu rhagbacio neu a gawsant eu rhagbacio i'w gwerthu'n uniongyrchol, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, bod angen datganiad yn unol â rheoliad 5(bA) o Reoliadau 1996 o ran pa faint o gynhwysion penodol neu gategorïau o gynhwysion a geir (rheoliad 9); ac

(ff)yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â thramgwyddau o dan y Rheoliadau a gyflawnwyd cyn 1 Awst 2004 ac amddiffyniad mewn perthynas â bwyd a fwriadwyd ei allforio (rheoliad 10).

Mae Arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi cael ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (“Deddf 1990”), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (“Deddf 1999”) (p.28). Diwygiwyd adrannau 16(1) a 48(1) o Ddeddf 1990 gan Ddeddf 1999, Atodlen 5, diwygiwyd paragraff 8 ac adran 26(3) gan Ddeddf 1999, Atodlen 6.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

(5)

OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29.

(6)

OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.

(7)

O.S.1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483.

(8)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.

(9)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.

(11)

1998 p.38.

(12)

OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.

(13)

OJ Rhif L37, 13.2.93, t.8.

(14)

OJ Rhif L289, 24.11.93, t.3.

(15)

OJ Rhif L143, 7.6.91, t.11.

(16)

OJ Rhif L263, 22.10.93, t.12.

(17)

OJ Rhif L244, 12.10.95, t.60.

(18)

OJ Rhif L134, 5.6.96, t.9.

(20)

O.S.1992/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1486, 1996/1499.

(23)

OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1.

(24)

OJ Rhif L10, 16.1.98, t.25.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources