- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. O ran y Rheoliadau hyn —
(a)eu henw yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004;
(b)maent yn gymwys i Gymru yn unig;
(c)deuant i rym ar 31 Mai 2004.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd yng Nghymru a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yw awdurdod iechyd porthladd am ar ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd(2) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC(3);
mae i “cig wedi'i adfer yn fecanyddol” yr ystyr a roddir i “mechanically recovered meat” yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC;
ystyr “cig wedi'i halltu” (“cured meat”) yw bwyd sy'n cynnwys cig a halen halltu, p'un a yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysyn arall neu beidio;
mae i “cynhwysyn” yr ystyr a briodolir i “ingredient” gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996;
ystyr “cynnyrch cig” (“meat product”) yw unrhyw fwyd, heblaw un a bennir yn Atodlen 1, sy'n gig neu sy'n cynnwys cynhwysyn, neu fel cynhwysion unrhyw rai o'r canlynol: cig; cig wedi'i adfer yn fecanyddol; neu, o unrhyw rywogaeth famalaidd neu adarol y cydnabyddir ei fod yn ffit i'w fwyta gan bobl, calon, tafod, cyhyrau'r pen (heblaw maseterau), carpws, tarsws, neu'r gynffon;
mae i “defnyddiwr olaf” yr ystyr a briodolir i “ultimate consumer” gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny; a
ystyr “halen halltu” (“curing salt”) yw sodiwm clorid, potasiwm clorid, sodiwm nitrad, potasiwm nitrad, sodiwm nitrid neu botasiwm nitrid, boed wrtho'i hun neu mewn unrhyw gyfuniad, ac eithrio y bernir bod sodiwm clorid neu botasiwm clorid ei hun neu gymysgedd o sodiwm clorid a photasiwm clorid ei hun yn halen halltu pan ddefnyddir ef mewn cynnyrch cig ond yn unig os defnyddir digon ohono i gael effaith cyffeithiol ar y cynnyrch cig;
“ mae i “sefydliad arlwyo” yr ystyr a briodolir i “catering establishment” gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996(4);
ystyr “wedi'i goginio” (“cooked”), mewn perthynas â bwyd, yw bwyd a fu drwy broses goginio drwy'r bwyd cyfan fel y gwerthir y bwyd i'w fwyta gan bobl heb ei goginio ymhellach, a dehonglir “heb ei goginio” (“uncooked”) yn unol â hynny.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w gyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
(2) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd —
(a)na fwriedir ei werthu ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu
(b)sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu gan ddynodi'n eglur y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta gan fabanod neu blant bach yn unig.
(3) Ni fydd Rheoliad 4 (cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd —
(a)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —
(i)o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu
(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig,
lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu
(b)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —
(i)o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu
(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig,
lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.
(4) At ddibenion paragraff (3) —
ystyr “Gwladwriaeth EEA” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (5) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(6) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Gwladwriaeth sy'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd.
4.—(1) At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu cynnyrch cig fel enw'r bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio —
(a)onid yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu
(b) oni ddefnyddir yr enw yn unol â pharagraff (2).
(2) Ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai'n bendant neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai —
(a)(i)bod y cynnyrch hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd, a
(ii)bod y cynnyrch hwnnw wedi cydymffurfio, ar adeg paratoi'r bwyd, â'r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu
(b)(i)bod yr enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd am y bwyd hwnnw yn enw sydd yn ymddangos yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, a
(ii)bod y bwyd yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno.
(3) Ni chaiff neb werthu bwyd os defnyddir enw ar ei label yn groes i baragraffau (1) neu (2).
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio enw yn groes i baragraffau (1) neu (2) wrth hysbysebu bwyd ar werth.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn gwerthu unrhyw gynnyrch cig sy'n ymddangos yn ddarn, rhan, tafell, cyfran neu garcas o gig neu o gig wedi'i halltu (ac ym mhob achos, boed wedi'i goginio neu heb ei goginio), bydd y rheoliad hwn yn gymwys.
(2) At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, rhaid i'r enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd wrth labelu unrhyw gynnyrch cig y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys rhywbeth i ddynodi —
(a)unrhyw gynhwysyn ychwanegol sy'n deillio o anifeiliaid, onid yw'r cynnyrch cig yn cynnwys cig o'r rhywogaeth y deilliodd y cynhwysyn ychwanegol hwnnw ohono; a
(b)unrhyw gynhwysyn ychwanegol nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo heblaw cynhwysyn a bennir yn Atodlen 3.
(3) At ddibenion paragraff (1), ni chymerir i ystyriaeth bresenoldeb unrhyw sesno, garnisio neu sylweddau gelatin sydd yn neu ar y cynnyrch cig, neu unrhyw ddeunyddiau pecynnu am gynnyrch cig.
(4) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys lle defnyddir enw fel enw'r bwyd sy'n enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio neu i fwyd yr ymddengys ei fod yn friwgig heb ei goginio a gafodd ei siapio.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu cynnyrch cig heb ei goginio y defnyddiwyd unrhyw ran a bennir ym mharagraff (2) o'r carcas o unrhyw rywogaeth famalaidd fel cynhwysyn wrth ei baratoi.
(2) Dyma'r rhannau a bennir o'r carcas: ymennydd, traed, coluddyn mawr, coluddyn bach, ysgyfaint, oesoffagws, rectwm, madruddyn cefn, dueg, stumog, ceilliau a chadair neu bwrs.
(3) Ni fydd y gwaharddiad sydd ym mharagraff (1) yn cynnwys defnyddio'r coluddyn mamalaidd mawr neu fach ond fel croen selsig yn unig.
(4) Yn y rheoliad hwn mae'r gair “selsig” yn cynnwys chipolata, frankfurter, dolen, salami ac unrhyw gynnyrch tebyg.
7.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5(2) neu 6(1) o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i bob awdurdod bwyd or fodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â bwyd a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.
8. Bydd darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau am fod bai ar berson arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno);
(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);
(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);
(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (h);
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
9. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 2(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “liqueur wine” mewnosoder y diffiniad canlynol —
““meat product” has the meaning assigned to it by the Meat Products (Wales) Regulations 2004;”;
(b)yn rheoliad 23 (bwyd nad yw wedi'i ragbacio a bwyd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi), ym mharagraff (2) —
(i)dileer y gair “and” ar ddiwedd is-baragraff (a), a
(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder y canlynol —
“and
in the case of a meat product other than one listed in Schedule 4A the particulars required by regulation 5(bA) in respect of those of its ingredients being meat, within the meaning assigned to it by Directive 2000/13/EC of the European Parliament and the Council on the approximation of the laws of the Member States relating to the labelling, presentation and advertising of foodstuffs, as amended by Commission Directive 2001/101/EC,”;
(c)Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
10. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —
(a)(i)bod y weithred wedi ei chyflawni cyn 1 Awst 2004; a
(ii)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(7) fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; neu
(b)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi digwydd mewn perthynas ag ef —
(i)wedi'i fwriadu i'w allforio ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth ddomestig y wlad sy'n mewnforio sy'n berthnasol i'r tramgwydd a honnir; neu
(ii)lle bo achos o dramgwydd o dan reoliad 4 neu 5, ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio a'i fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 1 Awst 2004.
11. I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mai 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: