- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
11 Mai 2004
Yn dod i rym
31 Mai 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 22(1) a (2)(d) ac adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn Rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(2) (dehongli), yn y diffiniad o “proffesiynolyn gofal iechyd”, yn lle “, yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd” rhowch “neu'n seicotherapydd plant ”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mai 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau diwygio hyn yn dileu'r cyfeiriad at therapyddion lleferydd o'r diffiniad o “proffesiynolyn gofal iechyd” yn Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod therapyddion lleferydd bellach yn rhan o broffesiwn therapyddion lleferydd ac iaith, y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999 yn ymdrin ag ef fel proffesiwn sy'n cael ei reoleiddio drwy Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002 Rhif 254).
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (gweler y diffiniad o “rheoliadau” yn adran 121(1) o Ddeddf 2000). Mae “Gweinidog priodol” wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) fel y Cynulliad o ran Cymru, ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae “Cynulliad” wedi'i ddiffinio yn adran 5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2002/2935 (Cy.277), O.S. 2003/947 (Cy.128) ac O.S. 2003/1004 (Cy.144).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: