Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2004 Rhif 1312 (Cy.138)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

11 Mai 2004

Yn dod i rym

31 Mai 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995(2).

Diwygio Rheoliadau 1995

3.  Mae Rheoliadau 1995 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

(a)hepgorir Rheoliad 4(2)(d);

(b)hepgorir Rheoliad 7(1)(e).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Mai 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi yn rhoi'r pŵ er i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Prisio. I'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Y prif reoliadau i Gymru, a wnaed o dan y pwerau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 (“Rheoliadau 1995”) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”). Mae'r Rheoliadau presennol hyn yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 1995 yn gwneud darpariaethau ynghylch bod yn aelod o Dribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru. Mae Rheoliad 4(2)(d) yn darparu y bydd aelod o dribiwnlys yn peidio â dal swydd pan fydd yn cyrraedd 72 oed.

Mae Rheoliad 7(1)(e) o Reoliadau 1995 yn darparu y caiff aelod ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod os yw'n 72 oed neu'n hŷn.

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 fel bod Rheoliadau 4(2)(d) a 7(1)(e) yn cael eu hepgor. Effaith y diwygiad hwn yw na fydd aelod o Dribiwnlys Prisio yng Nghymru yn peidio â dal swydd neu'n cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod ar ôl cyrraedd 72 oed.

(1)

1988 p.41. Diwygiwyd Adran 143(2) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd Paragraff 1 a 5 o Atodlen 11 gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraffau 88(1), (3) a (13) o Atodlen 13 iddi gydag effaith mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 1993. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau a'r atodlen uchod, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.

(2)

O.S. 1995/3056 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1439 (Cy.101).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources