xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
20 Ionawr 2004
Yn dod i rym
31 Ionawr 2004
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994 (3) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), rhoddir y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision”—
““the Commission Decision” means Commission Decision 88/234/EEC(4)) authorising methods for grading pig carcases in the United Kingdom as amended by Commission Decision 88/478/EEC (5), Commission Decision 92/557/EEC(6)), Commission Decision 93/445/EEC(7), Commission Decision 94/336/EEC(8) and Commission Decision 2003/750/EC(9)).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Ionawr 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac maent yn diwygio darpariaethau Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994. Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi cyfundrefn y Gymuned ar gyfer graddio carcasau moch ac a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3220/84 (OJ Rhif L301, 20.11.84, t.1) fel y'i diwygiwyd. Ceir y rheolau manwl yn Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2976/85 (OJ Rhif L285, 25.10.85, t.39) a Phenderfyniad y Comisiwn 88/234/EEC (OJ Rhif L105, 26.4.88, t.15), fel y'u diwygiwyd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi dull newydd o raddio cyfansoddiad carcasau moch drwy ddefnyddio offer a elwir yn “graddio carcasau'n gwbl awtomatig drwy ddulliau uwchsain” (“AUTOFOM”) ac yn tynnu'n ôl yr awdurdodiad ar gyfer defnyddio offer a elwir yn “Ultra-FOM”. Mae defnyddio AUTOFOM yn ychwanegol at y dulliau eraill a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 88/234/EEC, fel y'i diwygiwyd.
Paratowyol Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Bwyd a Datblygu Amaethyddol, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OJ Rhif L105, 26.4.88, t.15.
OJ Rhif L234, 24.8.88, t.11.
OJ Rhif L358, 8.12.92, t.22.
OJ Rhif L208, 19.8.93, t.36.
OJ Rhif L150, 16.6.94, t.34.
OJ Rhif L271, 22.10.03, t.24.