- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i'r asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadu gael ei gynnal gan berson a chanddo'r cymwysterau a'r profiad addas, ynghyd â'r sgiliau angenhreidiol at ddibenion yr asesiad.
(2) Wrth asesu, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried y canlynol—
(a)anghenion y person;
(b)anghenion teulu mabwysiadol y person;
(c)o ran plentyn mabwysiadol a leolwyd i'w fabwysiadu, yr amgylchiadau a arweiniodd at leoli'r plentyn i'w fabwysiadu;
(ch)unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn mabwysiadol sy'n codi oherwydd —
(i)bod y plentyn wedi bod o dan ofal yr awdurdod lleol;
(ii)bod y plentyn wedi preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain;
(iii)bod y rhiant mabwysiadol yn berthynas i'r plentyn.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol, pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny—
(a) cyfweld â'r person ac os bydd y person yn blentyn mabwysiadol, ei rieni mabwysiadol;
(b)llunio adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol, gan ystyried yr asesiad, benderfynu—
(a)a oes ar y person angen gwasanaethau cymorth mabwysiadu; a
(b)os felly, a oes angen darparu'r gwasanaethau hynny iddo,
ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'r penderfyniad yn ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), yn ogystal â'r rhesymau drosto.
(5) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gael ei roi —
(a)pan fydd y person yn oedolyn, i'r person hwnnw;
(b)pan fydd y person yn blentyn ac—
(i)ymddengys i'r awdurdod lleol fod y plentyn yn ddigon hen a'i fod yn deall digon iddi fod yn briodol rhoi'r hysbysiad hwnnw iddo; a
(ii)o ystyried popeth, nid ymddengys yn amhriodol gwneud hynny,
i'r plentyn;
(c)mewn unrhyw achos arall pan fydd y person yn blentyn, i—
(i)y person y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i'r plentyn;
(ii)y person y lleolwyd y plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;
(iii) y person sydd wedi mabwysiadu'r plentyn; neu
os nad yw person yn dod o fewn penawdau (i) i (iii) o'r is-baragraff hwn, y person sy'n bwriadu mabwysiadu'r plentyn.
(6) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud â darparu gwybodaeth yn unig, ni fydd y gofyniad ym mharagraff (4) i roi hysbysiad yn gymwys pan na fydd yr awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol rhoi hysbysiad.
(7) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud ag angen person am gymorth ariannol, rhaid rhoi'r hysbysiad a roddir mewn perthynas â phenderfyniad yr awdurod lleol ynghylch darparu cymorth ariannol yn ychwanegol at unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â rheoliadau 12 a 13.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: