- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Rhaid i awdurdod lleol, ar gais oedolyn neu blentyn a bennir yn yr Atodlen, asesu ei anghenion o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(2) Caiff awdurdod lleol, ar gais unrhyw berson arall, gynnal asesiad o'i anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu.
(3) Pan fydd awdurdod lleol yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod, cyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan rheoliad 7(2)(e) o Reoliadau 1983, asesu anghenion y plentyn o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(4) Pan fydd awdurdod lleol yn cynnig lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda ddarpar fabwysiadwr, rhaid i'r awdurdod, cyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan reoliad 9(1) o Reoliadau 1983, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(5) Os digwydd y canlynol —
(a)bod awdurdod lleol yn adolygu lleoliad plentyn i'w fabwysiadu o dan reoliad 12(2)(k) o Reoliadau 1983; a
(b)nid yw wedi cynnal asesiad yn unol â pharagraff (4) o ran pob aelod o'r teulu mabwysiadol,
rhaid iddo, cyn cwblhau'r adolygiad, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(6) Pan fydd awdurdod lleol (“yr awdurdod lleoli”) yn ystyried lleoli plentyn sydd o dan ofal gyda ddarpar fabwysiadwr sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod adennill”), rhaid i'r awdurdod lleoli ymgynghori yn ysgrifenedig â'r awdurdod adennill am y lleoliad ac am ganlyniadau'r gwaith asesu a wnaed yn unol â pharagraffau (3) a (4) ac yn enwedig am allu'r asiantaethau yn ardal yr awdurdod adennill i ddarparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu a nodwyd.
(7) Rhaid i'r awdurdod adennill yng Nghymru ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a wnaed yn unol â pharagraff (6) cyn pen wyth niwrnod ar hugain ar ôl ei gael.
(8) Pan fydd awdurdod adennill wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a wnaed yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r sylwadau ysgrifenedig hyn gael eu hystyried gan y panel mabwysiadu wrth ystyried lleoli plentyn yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau 1983 a chan yr asiantaeth fabwysiadu wrth ystyried ei benderfyniad yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 1983.
(9) Pan fydd cais y person o dan baragraff (1) neu (2) yn ymwneud â gwasanaeth penodol a bennir yn rheoliad 3(1), neu os ymddengys i'r awdurodd lleol fod modd asesu anghenion y person am wasanaethau cymorth mabwysiadu drwy gyfeirio at wasanaeth penodol a bennir felly, caiff yr awdurdod gynnal yr asesiad drwy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw yn unig.
(10) Nid oes rhaid i'r awdurdod lleol o dan baragraff (1) asesu anghenion person oni bai —
(a)bod paragraff (11) yn gymwys;
(b)bod paragarff (12) yn gynmwys a bod y person yn gofyn am gael ei asesu —
(i)cyn pen blwyddyn ar ôl dyddiad y gorchymyn mabwysiadu; neu
(ii)cyn pen tair blynedd ar ôl y dyddiad pan leolwyd y plentyn mabwysiadol gyda'r rhieni mabwysiadol; neu
(c)nad yw is-baragraffau (a) a (b) yn gymwys ac mae'r person yn byw yn ardal yr awdurdod lleol.
(11) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol —
(a)o dan ofal yr awdurdod lleol; neu
(b)heb ei fabwysiadu ond wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod lleol.
(12) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol —
(a)wedi cael ei fabwysiadu gan ei rieni mabwysiadol; a
(b)cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda'r rhieni mabwysiadol gan yr awdurdod lleol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: