- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
14.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol—
(a)yn flynyddol, ar ôl derbyn datganiad oddi wrth y rhieni mabwysiadol ynghylch—
(i)eu hamgylchiadau ariannol;
(ii)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn;
(iii)eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a
(b)os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad a ddaw i'w sylw.
(2) Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.
(3) Caiff yr awdurdod lleol amrywio, atal neu ddod â thaliad cymorth ariannol i ben os, o ganlyniad i adolygiad, mae'n ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol amdano wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.
(4) Pan fydd y rhieni mabwysiadol yn methu â rhoi datganiad blynyddol i'r awdurdod sy'n unol â'u cytundeb o dan reoliad 10(3)(b), caiff yr awdurdod lleol gymryd bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi peidio hyd nes i ddatganiad gael ei roi.
(5) Pan fydd talu cymorth ariannol yn cael ei atal, caiff yr awdurdod ailddechrau ei dalu os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol yn teilyngu cymorth ariannol.
(6) Rhaid i'r awdurdod ddod â thalu cymorth ariannol i ben pan—
(a)bydd y plentyn yn peidio â bod â chartref gyda'r rhieni mabwysiadol (neu'r naill neu'r llall ohonynt);
(b)bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun;
(c)bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed;
(ch)daw unrhyw gyfnod y cytunwyd arno rhwng yr awdurdod lleol a'r rhieni mabwysiadol ar gyfer talu'r lwfans i ben; neu
(d)bydd y plentyn yn marw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: