Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 943 (Cy.124)

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU

Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Mai 2003

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(2).

Diwygio Rheoliadau 2002: dehongli

3.—(1Mewnosodir y canlynol yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002 (dehongli) —

(a)o flaen diffiniad “gwasanaeth lleol” —

ystyr “gwasanaeth coetsys domestig” (“domestic coach service”) yw gwasanaeth bysiau—

(a)

sy'n cludo teithwyr am brisiau tocyn unigol;

(b)

sy'n gweithredu rhwng dwy arosfan raglenedig (y mae rhaid i o leiaf un ohonynt fod yng Nghymru), p'un a yw'r gwasanaeth yn terfynu yn un o'r arosfannau hyn neu yn y ddwy ohonynt; ac

(c)

nad yw'n wasanaeth lleol;;

(b)ar ôl diffiniad “person anabl” —

“ystyr “pris tocyn apex” (“apex fare”), mewn perthynas â thaith, yw pris tocyn sy'n daladwy wrth brynu tocyn ar gyfer y daith honno o leiaf saith diwrnod clir cyn y dyddiad teithio, ac sy'n bris tocyn nad yw'n fwy na 90% o'r pris tocyn llawn ar gyfer oedolyn a fyddai'n daladwy wrth brynu tocyn o'r fath ar y diwrnod teithio;

(c)

ar y diwedd —

mae i “trwydded consesiwn teithio statudol” (“statutory travel concession permit”) yr un ystyr â “statutory travel concession permit” yn adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000..

Diwygio Rheoliadau 2002: rheoliad 3

4.—(1Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2002 (cymhwyster i gael grant) yn cael ei ddiwygio yn unol â'r ddarpariaeth ym mharagraffau (2) a (3).

(2Ar ddiwedd paragraff (1) mewnosodir —

(ch)gwasanaeth coetsys domestig, i'r graddau y mae ei daith yng Nghymru ac y mae'r amodau a nodir ym mharagraff (5) yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef..

(3Mewnosodir ar y diwedd—

(5) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) yw—

(a)bod y gwasanaeth yn darparu consesiynau teithio hanner-pris (ac eithrio i bersonau sy'n teithio drwy dalu pris tocyn apex) ar nid llai na 290 diwrnod y flwyddyn ac ar nid llai nag 21 diwrnod y mis (ac eithrio mis Rhagfyr) ac ar nid llai na 12 diwrnod ym mis Rhagfyr (neu nifer pro rata y diwrnodau hynny yn ôl eu trefn os yw'r gwasanaeth yn rhedeg am ran o flwyddyn neu fis yn unig; gan dalgrynnu'r nifer gofynnol i lawr, yn ôl yr angen, i'r nifer cyfan agosaf o ddiwrnodau), i'r canlynol—

(i)personau sydd wedi cyrraedd 60 oed; a

(ii)unrhyw berson y mae trwydded consesiwn teithio statudol gyfredol wedi'i dyroddi iddo, wrth i'r person hwnnw ddangos y drwydded, neu i unrhyw berson arall sy'n gallu dangos y byddai ganddo hawl i gael trwydded consesiwn teithio statudol oni bai am gytundeb o dan adran 145(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)bod y gwasanaeth yn rhedeg o leiaf unwaith yr wythnos am gyfnod heb fod yn llai na chwe wythnos yn olynol;

(c)bod y seddau sydd ar y cerbyd, a'r seddau hynny yn gyfrwng i ddarparu'r gwasanaeth, ar gael fel rheol i aelodau'r cyhoedd a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;

(ch)bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol ag amserlen; a

(d)bod trefniadau yn cael eu gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau'r cyhoedd gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r lleoedd y mae'n eu gwasanaethu..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

27 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn cwmpas gwasanaethau bysiau cymwys at ddibenion adran 154 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“Deddf 2000”), o'r un sydd wedi'i bennu gan Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2022) (Cy. 206), i gynnwys gwasanaethau coetsys penodol ar hyd lwybrau 15 milltir neu fwy a'r rheini'n wasanaethau sy'n gweithredu yn unol ag amserlen sefydlog, sydd i'w defnyddio gan y cyhoedd, ac sy'n darparu consesiynau tocynnau hanner-pris (ar delerau sydd wedi'u nodi ymhellach yn y Rheoliadau hyn) i bersonau sy'n 60 oed neu'n hŷn ac i bersonau y mae trwydded consesiwn teithio statudol wedi'i dyroddi iddynt (neu y gallai fod wedi'i dyroddi, oni bai am gytundeb amgen gydag awdurdod consesiynau teithio o dan adran 145(6) o Ddeddf 2000).