xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi ei ailargraffu i gywiro'r hyn a gafodd ei hepgor o'r tabl gorchmynion cychwyn yn y nodyn esboniadol ac fe'i dosberthir yn rhad ac am ddim i bawb y mae'n hysbys iddynt ei dderbyn.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 939 (Cy.123) (C.50)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

26 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel y “Ddeddf”.

(3Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y diwrnod penodedig

2.  1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mawrth 2003

Erthygl 2

ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2003

Darpariaethau'r DdeddfPwnc
Adran 53Diystyru adnoddau wrth benderfynu'r angen am lety preswyl
Adran 54 i'r graddau na chafodd ei dwyn i rym eisoes gan adran 70(2)Preswylydd a.y.y.b. yn ariannu llety drutach
Adran 55Pŵer i awdurdodau lleol arwystlo tir yn lle cymryd cyfraniadau

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (y “Ddeddf”) mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2003 fydd y diwrnod y mae adrannau canlynol y Ddeddf yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn caniatáu newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn codi tâl am lety preswyl o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae adran 53 yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau i benderfynu pa ran o adnoddau person a gaiff eu diystyru wrth benderfynu a oes angen llety arno neu beidio.

Mae adran 54 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n galluogi i daliadau ychwanegol gael eu gwneud, gan neu ar ran preswylydd, ar gyfer llety sy'n costio mwy nag a fyddai awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei dalu.

Mae adran 55 yn caniatáu i awdurdod lleol wneud cytundeb (“cytundeb talu gohiriedig”) â pherson y mae angen llety arno i adael i'r person hwnnw beidio â gwneud taliadau am y llety ond i gronni dyled a gaiff ei sicrhau drwy arwystl ar gartref y person hwnnw.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y DdarpariaethDyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 31 Gorffennaf 2002 (yn rhannol)2002/1475
Adran 51 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 111 Rhagfyr 20022002/1475
Adran 1317 Mawrth 20032003/713
Adran 1626 Awst 20022002/1919
Adran 19 — 261 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 2726 Awst 20022002/1919
Adran 28 — 391 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 41 — 431 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 493 Rhagfyr 2001 (yn rhannol)2001/3807
Adran 50(1)8 Ebrill 20022001/3752
Adran 50 (2) i (10)19 Rhagfyr 20012001/3807
Adran 518 Tachwedd 20012001/3752
Adran 528 Tachwedd 20012001/3752
Adran 67(1) ac Atodlen 51 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol)2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919
Adran 67(2) ac Atodlen 61 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol)2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919
Atodlen 21 Gorffennaf 20022002/1475
Atodlen 31 Gorffennaf 20022002/1475

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36) ac O.S. 2002/2363 (C.77).