- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Cyfarwyddiadau” (“the Directions”) yw Cyfarwyddiadau Deddf Cymorth Gwladol 1948 (Dewis Llety) 1993(1)
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948(2);
ystyr “llety dewisol” (“preferred accommodation”) yw llety y mae'r preswylydd yn ei nodi, mewn lle y mae'r preswylydd yn ei ddewis o fewn Cymru a Lloegr, yn unol â pharagraff 2 o'r Cyfarwyddiadau;
ystyr “llety dewisol perthnasol” (“relevant preferred accommodation”) yw llety dewisol sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 3(a), (c) a (d) o'r Cyfarwyddiadau, ond lle y byddai cost darparu'r llety dewisol hwnnw i'r preswylydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol dalu mwy nag y byddai'r awdurdod hwnnw yn disgwyl ei dalu fel arfer er mwyn darparu llety Rhan 3 sy'n addas i berson sydd â'r anghenion a aseswyd i'r preswylydd hwnnw;
ystyr “preswylydd” (“resident”) yw person y mae'r awdurdod lleol wedi ei asesu o dan adran 47 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(3) fel un sydd ag angen llety yn unol ag adran 21 o'r Ddeddf (os yw'r person hwnnw wedi dechrau preswylio mewn llety o'r fath ai peidio);
ystyr “preswylydd perthnasol” (“relevant resident”) yw preswylydd—
y mae paragraff 1A o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Asesu (cyfalaf i'w ddiystyru yn ystod y 12 wythnos cyntaf) yn gymwys iddo yn ystod y cyfnod pan fydd yn gymwys, neu
sydd wedi gwneud neu sydd wedi cytuno i wneud cytundeb taliad gohiriedig â'r awdurdod lleol, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 55 o Ddeddf 2001;
ystyr “y Rheoliadau Asesu” (“the Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(4)); ac
ystyr “terfyn cyfalaf isaf” (“lower capital limit”) yw'r terfyn isaf o'r ddau faint o gyfalaf a bennir yn rheoliad 28 o'r Rheoliadau Asesu.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn ei gwneud yn ofynnol fel arall, mae cyfeiriad—
(a)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a
(b)mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Cyhoeddwyd y Cyfarwyddiadau dyddiedig 21 Ionawr 1993 gan y Swyddfa Gymreig ynghyd â Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig Rhif 12/93.
O.S. 1992/2977; Diwygiwyd O.S. 1992/2977 gan O.S. 1993/964; O.S. 1993/2230; O.S. 1994/825; O.S. 1994/2386; O.S. 1995/858; O.S. 1995/3054; O.S. 1996/602; O.S. 1997/485; O.S. 1998/497; O.S. 1998/1730 mewn perthynas â Chymru a Lloegr a gan O.S. 2001/276 (Cy.12); O.S. 2001/1409 (Cy.95); ac O.S. 2002/814(Cy.94) mewn perthynas â Chymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: