Search Legislation

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2003 Rhif 931 (Cy.121)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Mawrth 2003

Yn dod i rym

7 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac adrannau 54(1), 55(7) a 64(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig(3).

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Cyfarwyddiadau” (“the Directions”) yw Cyfarwyddiadau Deddf Cymorth Gwladol 1948 (Dewis Llety) 1993(4)

ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948(5);

ystyr “llety dewisol” (“preferred accommodation”) yw llety y mae'r preswylydd yn ei nodi, mewn lle y mae'r preswylydd yn ei ddewis o fewn Cymru a Lloegr, yn unol â pharagraff 2 o'r Cyfarwyddiadau;

ystyr “llety dewisol perthnasol” (“relevant preferred accommodation”) yw llety dewisol sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 3(a), (c) a (d) o'r Cyfarwyddiadau, ond lle y byddai cost darparu'r llety dewisol hwnnw i'r preswylydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol dalu mwy nag y byddai'r awdurdod hwnnw yn disgwyl ei dalu fel arfer er mwyn darparu llety Rhan 3 sy'n addas i berson sydd â'r anghenion a aseswyd i'r preswylydd hwnnw;

ystyr “preswylydd” (“resident”) yw person y mae'r awdurdod lleol wedi ei asesu o dan adran 47 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(6) fel un sydd ag angen llety yn unol ag adran 21 o'r Ddeddf (os yw'r person hwnnw wedi dechrau preswylio mewn llety o'r fath ai peidio);

ystyr “preswylydd perthnasol” (“relevant resident”) yw preswylydd—

(a)

y mae paragraff 1A o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Asesu (cyfalaf i'w ddiystyru yn ystod y 12 wythnos cyntaf) yn gymwys iddo yn ystod y cyfnod pan fydd yn gymwys, neu

(b)

sydd wedi gwneud neu sydd wedi cytuno i wneud cytundeb taliad gohiriedig â'r awdurdod lleol, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 55 o Ddeddf 2001;

ystyr “y Rheoliadau Asesu” (“the Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(7)); ac

ystyr “terfyn cyfalaf isaf” (“lower capital limit”) yw'r terfyn isaf o'r ddau faint o gyfalaf a bennir yn rheoliad 28 o'r Rheoliadau Asesu.

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn ei gwneud yn ofynnol fel arall, mae cyfeiriad—

(a)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a

(b)mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

Taliadau Ychwanegol

3.—(1Mae rheoliad 4 yn gymwys os yw preswylydd wedi nodi ei fod am gael llety mewn llety dewisol perthnasol.

(2Nid yw rheoliad 4 yn gymwys i unrhyw drefniadau a wnaed o dan baragraff 4 o'r Cyfarwyddiadau cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety dewisol perthnasol i breswylydd yn yr amgylchiadau canlynol;

(a)os bydd trydydd parti yn cytuno i wneud y taliadau ychwanegol(8); neu

(b)yn achos preswylydd perthnasol, os bydd y taliadau ychwanegol yn cael eu gwneud gan un neu'r ddau o'r personau canlynol;

(i)trydydd parti,

(ii)y preswylydd ei hunan, o unrhyw adnodd neu gyfuniad o adnoddau a bennir ym mharagraff (2)

ac y gellid yn rhesymol ddisgwyl i bob person wneud y taliadau hynny drwy gydol cyfnod y trefniadau.

(2Yr adnoddau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b)(ii) yw—

(a)yn achos pob preswylydd perthnasol, unrhyw incwm neu gyfalaf a ddiystyrir o dan Atodlen 2, 3 neu 4 i'r Rheoliadau Asesu heblaw cyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 1A o Atodlen 4; a

(b)yn achos preswylydd sydd yn breswylydd perthnasol yn rhinwedd paragraff (a) o'r diffiniad o'r ymadrodd hwnnw yn rheoliad 2(1), (os yw'r person hefyd o fewn y diffiniad yn (b) ai peidio), cyfalaf heblaw am gyfalaf a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau Asesu a chan gynnwys cyfalaf sydd is na'r terfyn cyfalaf isaf; a,

(c)yn achos preswylydd sydd yn breswylydd perthnasol yn rhinwedd paragraff (b) o'r diffiniad, (os yw'r preswylydd hefyd o fewn y diffiniad ym mharagraff (a) ai peidio), unrhyw gyfalaf sydd uwch na'r terfyn cyfalaf isaf, a all gynnwys gwerth eiddo'r preswylydd y mae yn ei feddiannu neu a feddiannodd gynt yn brif neu yn unig gartref iddo, ar yr amod os yw unrhyw daliadau ychwanegol i gael eu gwneud o werth yr eiddo hwnnw, y byddant yn ffurfio rhan o'r cyfraniadau perthnasol o dan y cytundeb taliadau gohiriedig.

Diwygio'r Rheoliadau Asesu

5.—(1Ar ôl rheoliad 16 o'r Rheoliadau Asesu, mewnosodwch y rheoliad canlynol—

Additional Payments

16A.(1) An amount equivalent to any additional payments made or due to be made by a resident from resources specified in paragraph (2) shall be treated as part of the income of the resident.

(2) The resources specified for the purposes of paragraph (1) are the resources specified in regulation 4(2) of the National Assistance (Residential Accommodation) (Additional Payments, Relevant Contributions and Assessment of Resources) (Wales) Regulations 2003(9) (additional payments from specified resources of relevant residents), except in a case falling within sub-paragraph (c) of that regulation where the additional payments are to be made from the value of the resident’s property which he occupies or formerly occupied as his only or main home..

(2Ar ôl paragraff (3) o reoliad 28 o'r Rheoliadau Asesu, mewnosodwch y paragraff canlynol—

(4) For the purposes of paragraph (1), where a resident makes additional payments as provided for in regulation 4(2)(b) of the National Assistance (Residential Accommodation) (Additional Payments, Relevant Contributions and Assessment of Resources) (Wales) Regulations 2003(9) (additional payments from capital below the lower capital limit) the resident is to be treated as possessing capital equivalent to any additional payments..

Cyfraniadau Perthnasol

6.—(1Mae paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn gymwys mewn amgylchiadau lle y mae gan breswylydd fuddiant llesiannol mewn eiddo y mae'n ei feddiannu neu a feddiannodd gynt yn brif neu yn unig breswylfa iddo.

(2At ddibenion adran 55 o Ddeddf 2001, y cyfraniadau perthnasol yw'r rhan honno o'r taliadau y mae'r preswylydd yn atebol am eu talu i'r awdurdod lleol y gellir ei phriodoli i werth yr eiddo y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a chaiff y rhan honno ei phennu drwy gyfrifo'r gwahaniaeth rhwng—

(a)y taliadau y mae'r preswylydd yn atebol am eu talu i'r awdurdod lleol, wedi eu cyfrifo yn unol â'r Rheoliadau Asesu, a

(b)y taliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) y byddai'r preswylydd yn atebol am eu talu os na chymerwyd i ystyriaeth werth buddiant y preswylydd yn yr eiddo y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety preswyl a ddarperir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i famau sy'n disgwyl neu'n magu baban, neu i bobl 18 oed neu'n hŷn sydd, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu amgylchiadau eraill, ag angen gofal a sylw nad yw ar gael iddynt fel arall.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau ychwanegol fel y bydd unigolyn a aseswyd fel un ag angen llety o'r fath yn gallu dewis byw mewn llety sydd yn ddrutach nag y byddai'r awdurdod lleol yn talu amdano fel arfer ar gyfer rhywun sydd â'r anghenion sydd wedi eu hasesu i'r unigolyn hwnnw. Gall y taliadau ychwanegol gael eu gwneud gan drydydd parti, gan gynnwys perthynas atebol (fel y'i diffinnir yn adran 42 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948). O dan amgylchiadau penodol, sef yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 wythnos pan ddiystyrir gwerth yr eiddo neu os ceir cytundeb taliad gohiriedig rhwng y preswylydd a'r awdurdod lleol, gall y preswylydd hefyd gyfrannu peth neu'r cyfan o'r taliadau ychwanegol. Mae taliadau o'r fath gan breswylydd i'w talu o adnoddau a bennir yn rheoliad 4(2). Gall berson sy'n elwa o'r cyfnod o 12 wythnos pan ddiystyrir gwerth eiddo, yn ystod y cyfnod hwnnw, wneud taliadau ychwanegol o gyfalaf arall, gan gynnwys cyfalaf sydd yn llai na'r terfyn cyfalaf isaf. Gall berson sydd yn gwneud cytundeb taliad gohiriedig, neu sydd wedi cytuno i wneud cytundeb o'r fath, wneud taliadau ychwanegol y gellid eu cyfrif yn erbyn yr arwystl ar ei eiddo, yn ystod y cyfnod 12 wythnos ac ar ôl hynny.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 i alluogi i daliadau ychwanegol a wneir gan breswylydd o unrhyw un o'r adnoddau penodedig gael eu cymryd i ystyriaeth o dan Reoliadau 1992. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i'r ddarpariaeth sy'n ymwneud ag incwm tariff yn Rheoliadau 1992, fel y caiff taliadau ychwanegol eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo cyfalaf y preswylydd.

Mae rheoliad 6 yn disgrifio sut y pennir cyfraniadau perthnasol at ddibenion cytundeb taliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001. Mae cytundebau o'r fath yn galluogi preswylydd i ohirio talu cyfraniadau a aseswyd tuag at gost ei lety yn gyfnewid am roi arwystl i'r awdurdod lleol ar ei gartref.

(1)

1948 p.29. Mae erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1948, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Er bod adran 54 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (“Deddf 2001”) yn cwmpasu Cymru a Lloegr, gwneir y Rheoliadau hyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef yr awdurdod perthnasol sydd â'r grym i wneud rheoliadau i Gymru yn unig, gweler adran 66 o Ddeddf 2001.

(4)

Cyhoeddwyd y Cyfarwyddiadau dyddiedig 21 Ionawr 1993 gan y Swyddfa Gymreig ynghyd â Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig Rhif 12/93.

(8)

Gweler adran 54(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 am “additional payments”.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources