- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
4.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (5) isod ar y dyddiad cofrestru.
(2) Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.
(3) Yr ail amod yw bod y person —
(a)yn ddinesydd Prydeinig;
(b)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(1);
(c)yn ffoadur, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath;
(ch)yn berson sydd —
(i)wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo aros yn y Deyrnas Unedig er na fernir ei fod yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur;
(ii)wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a
(iii)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,
neu, ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu
(d)yn berson nad yw'n dod o fewn paragraffau (a) i (ch) ond ei fod yn wladolyn un o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath.
(4) Y trydydd amod yw bod y person naill ai —
(a)yn preswylio yng Nghymru; neu
(b)yn preswylio y tu allan i Gymru dros dro ond yn preswylio fel arfer yng Nghymru (oni bai bod rheoliad 10 yn gymwys).
(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol(2).
1971 p.77; diwygiwyd ei fod a mewnosodwyd is-adran (2A), gan Ddedf Cenedligrwydd 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.
Yn unol â swyddogaethau'r awdurdodau rheoleiddio mewn perthynas â chymwysterau allanol ac yn unol â pholisi cenedlaethol, cyhoeddir y fframwaith cymwysterau cenedlaethol ar y cyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cyricwlwm ac Asesu Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chyricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor Cyricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir cael y fframwaith ar www.accac.org.uk.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: