Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 860 (Cy.107)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

25 Mawrth 2003

Yn dod i rym

6 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 457(4)(b)(iii) a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002(3).

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996; ac

  • ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw yr incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(4)).

Budd-dâl neu Lwfans Rhagnodedig

3.  Mae cymorth a ddarperir i riant o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999(5) yn cael ei ragnodi ar gyfer dibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996.

Credydau Treth Rhagnodedig

4.  Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol:

(a)pan fydd gan riant hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a

(b)pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 yn gofyn bod gan ysgolion bolisi ar waith, ar gyfer peidio â chodi unrhyw dâl sydd fel arall yn daladwy mewn perthynas â bwyd a llety i ddsigyblion penodol ar deithiau preswyl. Mae'n rhaid bod y polisi peidio â chodi unrhyw dâl yn gymwys i ddisgybl y mae ei riant yn derbyn budd-dâl neu lwfans penodol, neu y mae ei riant â hawl i gredydau treth penodol, sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer dibenion yr adran.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi at ddibenion adran 457 cymorth a ddarperir o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999. Maent hefyd yn rhagnodi Gredyd Treth i Blant, ar y yr amod nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a bod y dyfarniad o credyd Treth i Blant wedi ei selio ar incwm blynyddal heb fod yn fwy n'ar swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (sef 13,320 ar hyn o bryd).

(1)

1996 p.56. (Diwygir adran 457 (4)(b) yn rhagolygol gan adran 200 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac mae i ddod i rym ar 31 Mawrth 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3185) (Cy.301) (C.107)). I gael ystyr 'prescribed' a 'regulations' gweler adran 579(1) .

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.

(4)

O.S. 2002/2006. Mae incwm blynyddol person sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â'r rheoliadau hynny yn cynnwys incwm partner y person hwnnw os oes cais ar y cyd i dderbyn Credyd Treth i Blant.

(6)

£13,230 yw'r swm a bennwyd mewn perthynas a Credyd Treth i Blant o 6 Ebrill 2003 ymlaen, yn sgil rheoliad 3(3) o Reoliadau Credydau Treth (Trothwyau Incwm a Phennu Cyfraddau) 2002 (O.S. 2002/2008).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources