xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny yn cwmpasu Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC (OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu defnyddio'r term generig “meat” gydag enw rhywogaeth yr anifail y mae'n tarddu ohono (neu dermau cyfatebol megis “pork” neu “beef”) ar gyfer cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau mamalaidd a rhywogaethau adar mewn rhestrau cynhwysion, yn ddarostyngedig i amodau penodol (rheoliadau 2, 3 a 5). Mae'r rheolau yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau ar ddynodi swmp cynhwysion neu gategorïau penodol o gynhwysion yn gymwys mewn perthynas â'r enw generig hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r enw generig hwnnw er mwyn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2002/86/EC ar gyfer bwyd sy'n cael ei werthu, ei farcio neu ei labelu cyn 1 Gorffennaf 2003 (rheoliad 4).

3.  Paratowyd arfarniad rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trawsosod yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2001/101/EC a Chyfarwyddeb 2002/86/EC i gael eu trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Ty Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.