- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny yn cwmpasu Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC (OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu defnyddio'r term generig “meat” gydag enw rhywogaeth yr anifail y mae'n tarddu ohono (neu dermau cyfatebol megis “pork” neu “beef”) ar gyfer cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau mamalaidd a rhywogaethau adar mewn rhestrau cynhwysion, yn ddarostyngedig i amodau penodol (rheoliadau 2, 3 a 5). Mae'r rheolau yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau ar ddynodi swmp cynhwysion neu gategorïau penodol o gynhwysion yn gymwys mewn perthynas â'r enw generig hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r enw generig hwnnw er mwyn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2002/86/EC ar gyfer bwyd sy'n cael ei werthu, ei farcio neu ei labelu cyn 1 Gorffennaf 2003 (rheoliad 4).
3. Paratowyd arfarniad rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trawsosod yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2001/101/EC a Chyfarwyddeb 2002/86/EC i gael eu trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Ty Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: