Hysbysu newidiadau
28. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd —
(a)bod person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;
(b)bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;
(c)os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw;
(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig —
(i)bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid;
(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd;
(iii)bod unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol;
(d)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi;
(dd)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi mewn perthynas â'r darparydd cofrestredig;
(e)os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu
(f)bod tir neu adeiladau'r ganolfan breswyl i deuluoedd i'w gael ei newid neu ei estyn yn sylweddol, neu fod tir neu adeiladau ychwanegol yn cael ei sicrhau.