xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN VIAMRYWIOL

Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd —

(a)marwolaeth unrhyw un o'r trigolion, gan gynnwys amgylchiadau'r farwolaeth;

(b)brigiad unrhyw glefyd heintus yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am drigolion yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly;

(c)unrhyw ddamwain ddifrifol, anaf difrifol neu salwch difrifol a gaiff un o'r trigolion;

(ch)unrhyw ddigwyddiad difrifol yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n golygu bod rhaid galw'r heddlu i'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

(d)unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy'n cynnwys unrhyw un o'r trigolion, sy'n ymwneud ag unrhyw bryder sy'n codi yn ystod y cyfnod y bydd person yn cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd;

(dd)unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

Hysbysu absenoldeb

27.—(1Os yw —

(a)y darparydd cofrestredig os ef yw'r person sydd â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, neu

(b)y rheolwr cofrestredig,

yn bwriadu bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

(2Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi o leiaf 28 diwrnod cyn i'r absenoldeb arfaethedig gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu —

(a)pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;

(b)y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb hwnnw;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb; a

(d)yn achos absenoldeb y rheolwr cofrestredig, y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.

(3Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(4Os bydd —

(a)y darparydd cofrestredig os nhw yw'r person sydd â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, neu

(b)y rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl fel y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedi iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau

28.  Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd —

(a)bod person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

(c)os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw;

(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig —

(i)bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid;

(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd;

(iii)bod unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol;

(d)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi;

(dd)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi mewn perthynas â'r darparydd cofrestredig;

(e)os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu

(f)bod tir neu adeiladau'r ganolfan breswyl i deuluoedd i'w gael ei newid neu ei estyn yn sylweddol, neu fod tir neu adeiladau ychwanegol yn cael ei sicrhau.

Penodi datodwyr etc.

29.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —

(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau dros ei benodi;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn-amser o ddydd i ddydd o'r ganolfan breswyl i deuluoedd mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac

(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn y dyfodol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir —

(a)yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig canolfan breswyl i deuluoedd;

(b)yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro i gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig canolfan breswyl i deuluoedd;

(c)yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd; neu

(ch)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig canolfan breswyl i deuluoedd.

Marwolaeth person cofrestredig

30.—(1Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig arall hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

(2Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, a mae'r person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig —

(a)o'r farwolaeth yn ddi-oed; a

(b)o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn y dyfodol.

(3Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas â hi —

(a)am gyfnod heb fod yn hirach nag 28 diwrnod;

(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).

(4Gall y Cynulliad Cenedlaethol ymestyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) gan gyfnod pellach, heb fod yn fwy na blwyddyn, a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt hysbysu unrhyw benderfyniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

(5Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas â hi.

Tramgwyddau

31.—(1Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 28 yn dramgwydd.

(2Caiff Swyddfabriodol y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith yn berson cofrestredig ond nad yw'n un mwyach, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 19.

Cydymffurfio â'r rheoliadau

32.  Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol i'r person cofrestredig ei wneud o dan y rheoliadau hyn, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Ffioedd

33.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(1) yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff o dan y pennawd “Arrangement of Regulations”, ychwanegir y llinell ganlynol ar y diwedd — “11. Annual fee — residential family centres.”

(3Yn rheoliad 2(1),

(a)yn y diffiniad o “establishment” ar ôl y geiriau “children’s home,” ychwanegir “residential family centres,”

(b)yn y diffiniad o “statement of purpose” ychwanegir “(e) in relation to residential family centres, the written statement required to be compiled in relation to the residential family centre in accordance with regulation 4(1) of the Residential Family Centres (Wales) Regulations 2003;”.

(4Ar ôl rheoliad 10 (Annual Fee — boarding schools and colleges), mewnosodir y rheoliad canlynol —

Annual fee — residential family centres

11.(1) The annual fee in respect of a residential family centre which shall be paid by the registered provider shall be the sum of the amounts identified in sub-paragraphs (a) and (b) —

(a)£400;

(b)£50 multiplied by the relevant number, except that if the product of that multiplication is a negative number the product of the multiplication shall instead be deemed to be zero for the purposes of the summation performed under this paragraph.

(2) The relevant number for the purposes of paragraph (3) in respect of a residential family centre is the number of approved places at the centre, minus the number three.

(3) In the case of a residential family centre providing accommodation for any family on the date on which the Residential Family Centres (Wales) Regulations 2003 come into force the annual fee shall first be payable on 1st March 2004 and, in all other cases, on the date of the establishment of the residential family centre.

(4) Thereafter the annual fee shall be payable every year on the anniversary of the date on which it was first payable..

Darpariaethau trosiannol

34.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson sy'n rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd ac sy'n gwneud cais yn briodol am gofrestru cyn 31 Rhagfyr 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000 (y “darparydd anghofrestredig”).

(2Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i ddarparydd anghofrestredig mewn perthynas â'r sefydliad —

(a)tan yr amser y bydd y cais yn cael ei dderbyn, naill ai yn ddi-amod neu yn ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparydd a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os yw'r cais yn cael ei dderbyn yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu yn cael ei wrthod —

(i)os na ddeuir ag apêl, hyd at ddiwedd y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd; neu

(ii)os deuir ag apêl, hyd at ei phenderfynu neu rhoi'r gorau iddi.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn y dylai adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 fod yn gymwys i ddarparydd anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r darparydd anghofresredig hwnnw; a

(b)os yw'n ymddangos i'r ynad y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu lesiant person os na chaiff y gorchymyn ei wneud.

(4Os yw paragraff 3 yn gymwys —

(a)caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;

(b)bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r darparydd anghofresredig,

a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r darparydd anghofresredig, o'r adeg y caiff y gorchymyn ei wneud.

(5Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan bargaraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl fel y digwydd) wedi'i wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 a'i gymhwyso at y darparydd anghofrestredig.

(1)

O.S. 2002/921 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Ysgolion Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3161).