2003 Rhif 781 (Cy.92)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7) (a) i (j), 25(1), 34(1), 35(1), a 118 (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 20001 ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol2 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”), mewn perthynas â theulu, yw'r awdurdod lleol neu'r corff arall sy'n gyfrifol am drefnu lletya'r teulu mewn canolfan breswyl i deuluoedd;

  • ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;

  • ystyr “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yw'r cynllun a baratoir yn unol â rheoliad 13;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;

  • ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 4;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19893;

  • ystyr “y Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y ganolfan breswyl i deuluoedd;

  • ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y ganolfan breswyl i deuluoedd;

  • mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 4(2) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd —

    1. a

      os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (5) ar gyfer yr ardal y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;

    2. b

      mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “teulu” (“family”) yw plentyn a rhiant y plentyn yn cael eu lletya neu i gael eu lletya gyda'i gilydd mewn canolfan breswyl i deuluoedd, a dehonglir yr ymadrodd “aelod o'r teulu” (“member of the family”) yn unol â hynny;

  • ystyr “trigolyn” (“resident”) yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd;

  • dehonglir “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 5;

  • ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—

    1. a

      yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19774,

    2. b

      yn cyflawni gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 19975; neu

    3. c

      yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 heblaw yn unol â'r Ddeddf honno; a

  • mae i “ymholiad amddiffyn plant” (“child protection enquiry”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(3)(a).

2

Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio lle darperir fel arall, nid yw cyfeiriadau at blentyn yn cynnwys rhiant sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd sydd o dan 18 oed.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.

4

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

a

at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a

b

mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

5

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

Sefydliadau sydd wedi'u heithrio3

At ddibenion y Deddf 2000, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn ganolfan breswyl i deuluoedd —

a

os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol neu'n gartref gofal;

b

os yw'n hostel neu'n lloches rhag trais domestig; neu

c

mewn unrhyw achos arall, os darparu llety ynghyd â gwasanaethau neu gyfleusterau eraill i unigolion sydd yn oedolion yw prif ddiben y sefydliad, ac os mae'r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i brif ddiben y sefydliad.

Datganiad o Ddiben4

1

Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

2

Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio —

a

gan unrhyw berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

gan unrhyw un o'r trigolion;

c

gan unrhyw awdurdod lleol sy'n arfer unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf 1989 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

3

Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r ganolfan breswyl i deuluoedd (yr “arweiniad trigolyn”) sy'n cynnwys crynodeb o'r datganiad o ddiben, a rhaid iddo ddarparu copi ohono i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a phob rhiant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

4

Rhaid i'r person cofrestredig —

a

cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r trigolion o dan sylw, a'u diwygio os yw'n briodol; a

b

hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod ar ôl unrhyw ddiwygiad o'r fath.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.

6

Ni fydd dim ym mharagraff (5) nac yn rheoliadau 14(1) nac 21(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy —

a

unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

b

yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig5

1

Rhaid i berson beidio â rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

2

Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person —

a

yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

b

yn gorff ac —

i

bod y corff wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y ganolfan breswyl i deuluoedd; a

ii

bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

3

Dyma'r gofynion —

a

bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd; ac

c

bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn.

i

mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2:

ii

os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;

iii

ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 19996 a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 19887.

4

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

5

Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd —

a

os yw'r person hwnnw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu

b

os yw wedi cyfamodi neu wedi trefnu gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

Penodi rheolwr6

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg canolfan breswyl i deuluoedd —

a

os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd; a

b

os yw'r darparydd cofrestredig —

i

yn gorff;

ii

heb fod yn berson ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd; neu

iii

yn berson nad yw'r ganolfan breswyl i deuluoedd o dan ei ofal amser llawn o ddydd i ddydd neu nad yw'r bwriad iddo fod o dan ei ofal felly.

2

Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —

a

o enw'r person a benodwyd felly; a

b

o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.

Ffitrwydd y rheolwr7

1

Rhaid i berson beidio â rheoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

2

Nid yw person yn ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —

a

bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion —

i

bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r ganolfan; a

ii

bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny;

c

bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person —

i

mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

ii

os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;

iii

ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 19998 a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 19889.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol8

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion redeg y ganolfan neu ei rheoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

2

Os yw'r darparydd cofrestredig —

a

yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

b

os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd.

3

Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau y mae eu hangen i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Hysbysu tramgwyddau9

Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith —

a

o ddyddiad a man y collfarniad;

b

o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac

c

o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.

RHAN IIIRHEDEG CANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD

Iechyd a lles y trigolion10

1

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg yn y fath fodd ag y bydd —

a

yn hybu iechyd a lles y trigolion ac yn darparu'n briodol ar eu cyfer;

b

yn gwneud darpariaeth ar gyfer gofal, triniaeth, addysg a goruchwyliaeth y trigolion ag sy'n briodol i'w hoed a'u hanghenion;

2

Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r trigolion a'u cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd a'u lles, neu'r modd y cânt eu trin.

3

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg —

a

mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y trigolion; a

b

gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y trigolion ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.

4

Wrth gydymffurfio â'r rheoliad hwn, pryd bynnag y ceir gwrthdrawiad rhwng buddiannau aelodau o deulu, rhaid i'r person cofrestredig drin lles plant y teulu hwnnw fel y peth pwysicaf.

Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles11

1

Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod gan y trigolion gyfle i gael unrhyw gyngor neu driniaeth feddygol sy'n angenrheidiol.

2

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu'n ddiogel meddyginiaethau a dderbynnir i'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

3

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, amgylchiadau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

4

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau —

a

bod pob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd y gall y trigolion fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;

b

bod unrhyw weithgareddau y mae'r trigolion yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol; ac

c

bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y trigolion yn cael eu canfod a'u dileu i'r graddau y mae hynny'n bosibl.

5

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy hyfforddi personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd neu drwy fesurau eraill, i atal y trigolion rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.

6

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw un o'r trigolion ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y trigolyn hwnnw neu unrhyw drigolyn arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

7

Ar unrhyw achlysur pan gaiff un o'r trigolion ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

8

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg ar unrhyw blentyn neu riant o dan 18 oed sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant12

1

Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar amddiffyn plant —

a

y bwriedir iddo ddiogelu plant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

b

sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

2

Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer —

a

cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnal ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd at yr awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal;

c

rhoi gwybod i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau;

ch

cadw cofnodion ysgrifenedig o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo;

d

rhoi ystyriaeth ym mhob achos i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

dd

gofyniad bod cyflogeion y person cofrestredig yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i un o'r canlynol —

i

y person cofrestredig;

ii

swyddog heddlu;

iii

un o swyddogion swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

iv

un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal, neu

v

un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

f

gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r trigolion a'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch plant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

3

Yn y rheoliad hwn —

a

ystyr “ymholiadau amddiffyn plant yw unrhyw ymholiadau a gyflawnir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'r swyddogaethau a roddir gan neu o dan Ddeddf 1989 sy'n ymwneud ag amddiffyn plant; a

b

mae “plentyn” hefyd yn cynnwys unrhyw riant sydd o dan 18 oed.

4

Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n cynnwys yn benodol weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Lleoliadau13

1

Cyn darparu llety ar gyfer teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig lunio cynllun ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y cynllun lleoliad”), gan ymgynghori â'r awdurdod lleoli, a chan nodi yn benodol —

a

y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i gael eu darparu yn ystod y lleoliad;

b

amcanion y lleoliad a'i ganlyniad arfaethedig.

2

Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cynllun lleoliad o dan sylw a'i adolygu yn ôl yr angen.

3

Wrth baratoi neu adolygu'r cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol —

a

ofyn barn aelodau'r teulu a'i chymryd i ystyriaeth;

b

cymryd i ystyriaeth unrhyw asesiad neu adroddiad perthnasol arall sy'n ymwneud ag unrhyw aelod o'r teulu y gall yr awdurdod lleoli ei ddarparu.

4

Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cynllun lleoliad ac o unrhyw ddiwygiad iddo i'r awdurdod lleoli ac i'r rhiant yn y teulu y mae'n ymwneud ag ef

Cyfleusterau a gwasanaethau14

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer trigolion yn unol â'r datganiad o ddiben.

2

O roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd a nifer ac anghenion y trigolion, rhaid i'r person cofrestredig —

a

darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y trigolion, a gwneud trefniadau i alluogi'r trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau hynny yn breifat;

b

darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan deuluoedd, ddodrefn, dillad gwely a chelfi eraill digonol, gan gynnwys llenni, gorchuddion i'r llawr ac offer;

c

darparu cyfleusterau golchi i'r rhieni olchi, sychu a smwddio dillad a llieiniau i'w teuluoedd;

ch

darparu defnyddiau ac offer digonol ac addas ar gyfer glanhau;

d

darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer storio bwyd;

dd

darparu cyfleusterau addas i'r rhieni baratoi bwyd i'w teuluoedd, a chyfleusterau bwyta addas i'r trigolion;

e

cymryd rhagofalon digonol rhag risg damweiniau, gan gynnwys hyfforddi mewn cymorth cyntaf i bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

f

darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y trigolion gael eu hadneuo i gael eu rhoi'n ddiogel; ac

ff

darparu cyfleusterau digonol ar gyfer adloniant a hamdden.

Staffio'r ganolfan breswyl i deuluoedd15

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, o roi sylw i'r canlynol —

a

datganiad o ddiben y ganolfan breswyl i deuluoedd o'i diben, ei maint a nifer ac anghenion ei thrigolion; ac

b

yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y trigolion,

fod nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio i'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Ffitrwydd y gweithwyr16

1

Rhaid i'r person cofrestredig beidio —

a

â chyflogi person i weithio at ddibenion y ganolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person hwnnw yn ffit i weithio i ganolfan breswyl i deuluoedd; na

b

caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo weithio at ddibenion y ganolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person hwnnw yn ffit i weithio i ganolfan breswyl i deuluoedd.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw'r person cofrestredig mewn swydd lle y gallai ddod i gysylltiad yn rheolaidd â'r trigolion yn ystod ei ddyletswyddau.

3

At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —

a

bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

b

ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

c

bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 wedi'i sicrhau mewn perthynas ag ef neu hi.

4

Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i ganolfan breswyl i deuluoedd ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Cyflogi staff17

1

Rhaid i'r person cofrestredig —

a

sicrhau bod pob penodiad parhaol yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

b

rhoi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd yn amlinellu eu cyfrifoldebau.

2

Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol —

a

yn darparu ar gyfer atal cyflogai o'i swydd os yw hynny'n angenrheidiol er lles diogelwch neu les y plant yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i berson priodol yn sail dros ddechrau achos disgyblu.

3

At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw —

a

y person cofrestredig;

b

un o swyddogion swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

c

swyddog heddlu;

ch

un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal; neu

d

un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.

4

Ym mharagraff (2), mae “plentyn” hefyd yn cynnwys rhiant sydd o dan 18 oed.

5

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo —

a

yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiadau priodol; a

b

yn cael eu galluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei gyflawni.

Barn y staff ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd18

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd i'r graddau y gallai adlewyrchu iechyd neu les y trigolion.

2

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Cofnodion19

1

Rhaid i'r person cofrestredig gadw, mewn perthynas â phob teulu sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, gofnod sydd —

a

yn cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion eraill a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas ag aelodau'r teulu;

b

yn cael ei gadw yn gyfoes; ac

c

yn cael ei gadw mewn lle diogel am gyfnod o bymtheng mlynedd ar ôl dyddiad y cofnod olaf.

2

Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) gael ei gadw'n ddiogel a rhaid peidio â'i ddatgelu i neb ac eithrio yn unol â'r canlynol —

a

unrhyw ddarpariaeth mewn statud sydd yn awdurdodi gweld y cofnodion hynny odano, neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan statud felly neu yn rhinwedd statud felly; neu

b

unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi gweld cofnodion o'r fath.

3

Rhaid hefyd i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

4

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) —

a

yn cael eu cadw yn gyfoes;

b

ar gael bob amser i'w harchwilio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gan unrhyw berson a awdurdodir gan swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i'r ganolfan breswyl i deuluoedd a'i harchwilio; ac

c

yn cael eu cadw am gyfnod o nid llai na thair blynedd ar ôl dyddiad y cofnod olaf.

5

Rhaid i gofnod sy'n cael ei gadw yn unol â pharagraff (1) gael ei gadw yn y ganolfan breswyl i deuluoedd cyhyd ag y bydd y teulu y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno.

Cwynion20

1

Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn (“y weithdrefn gwynion”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan drigolyn neu gan berson sy'n gŵeithredu ar ran trigolyn.

2

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gŵ yn a wneir o dan y weithdrefn gŵ ynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.

3

Rhaid i'r person cofrestredig roi copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gŵ ynion i unrhyw drigolyn ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran trigolyn os gofynnir amdano.

4

Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gŵynion gynnwys —

a

enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, a

b

y weithdrefn (os oes un) y mae swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â chanolfannau preswyl i deuluoedd.

5

Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵ yn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gŵ yn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

6

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gŵyn neu sylw, o'r camau a gymerir mewn ymateb iddynt, ac o ganlyniad yr ymchwiliad.

7

Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd.

RHAN IVSAFLEOEDD

Ffitrwydd tir ac adeiladau21

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio tir ac adeiladau at ddibenion canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —

a

bod y tir a'r adeiladau'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a

b

bod lleoliad y tir a'r adeiladau'n briodol ar gyfer anghenion y trigolion.

2

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau —

a

bod dyluniad a chynllun ffisegol y tir ac adeiladau sydd i'w ddefnyddio fel y ganolfan breswyl i deuluoedd yn diwallu anghenion y teuluoedd;

b

bod yr adeiladau sydd i'w ddefnyddio fel y ganolfan breswyl i deuluoedd o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;

c

bod pob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;

ch

bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y teuluoedd;

d

bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan deuluoedd yn addas at eu hanghenion a bod pob teulu yn cael o leiaf un ystafell i'w defnyddio ganddyn nhw yn unig;

dd

bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r trigolion gyfarfod, yn breifat, ag unrhyw berson a awdurdodir gan swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

e

bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn yr adeiladau;

f

bod gan yr tir a'r adeiladau yr hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, wedi'i addasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu'r anghenion sy'n codi yn sgil anabledd unrhyw drigolyn sy'n anabl;

ff

bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu ar gyfer astudio preifat ar gyfer unrhyw un o'r trigolion sydd yn gofyn amdanynt;

g

bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r trigolion eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;

ng

bod awyru, gwresogi a goleuo digonol yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n cael eu defnyddio gan drigolion.

3

Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —

a

cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys —

i

cyfleusterau ar gyfer newid;

ii

cyfleusterau storio;

b

llety ar gyfer cysgu, os oes ar bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith.

Rhagofalon Tân22

1

Ar ôl ymgynghori â'r awdurdod tân, rhaid i'r person cofrestredig —

a

cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas,

b

darparu dulliau dianc digonol,

c

gwneud trefniadau digonol ar gyfer y canlynol—

i

canfod, cyfyngu a diffodd tanau;

ii

rhoi rhybuddion tân;

iii

gwacâd yr holl bersonau sydd yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a lleoli'r trigolion yn ddiogel, os digwydd tân;

iv

cynnal a chadw'r holl offer tân; a

v

adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;

ch

gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gael hyfforddiant addas mewn atal tân; a

d

sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y trigolion, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer achub bywyd.

2

Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân” yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae canolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 194710.

RHAN VRHEOLI

Adolygu ansawdd y gofal23

1

Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer —

a

adolygu ar adegau priodol, a

b

gwella,

ansawdd y gofal a ddarperir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

2

Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r trigolion.

3

Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â thrigolion.

Y sefyllfa ariannol24

1

Rhaid i'r person cofrestredig redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y ganolfan breswyl i deuluoedd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

2

Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys —

a

cyfrifon blynyddol y ganolfan breswyl i deuluoedd, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

b

tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig;

c

gwybodaeth am ariannu'r ganolfan breswyl i deuluoedd a'i hadnoddau ariannol;

ch

os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig;

d

tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.

3

Yn y rheoliad hwn mae cwmni yn gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig25

1

Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, rhaid iddo ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â'r rheoliad hwn —

a

yr unigolyn cyfrifol;

b

un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff; neu

c

cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd.

3

Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.

4

Rhaid i'r person sy'n ymweld —

a

cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r trigolion a'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y mae'n ymddangos iddo ei bod yn angenrheidiol er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

archwilio tir ac adeiladau'r ganolfan breswyl i deuluoedd, ei chofnod dyddiol o ddigwyddiadau a'i chofnodion o unrhyw gŵynion; ac

c

paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg.

5

Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c) —

a

i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

b

i'r rheolwr cofrestredig; ac

c

yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.

RHAN VIAMRYWIOL

Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill26

1

Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd —

a

marwolaeth unrhyw un o'r trigolion, gan gynnwys amgylchiadau'r farwolaeth;

b

brigiad unrhyw glefyd heintus yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am drigolion yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly;

c

unrhyw ddamwain ddifrifol, anaf difrifol neu salwch difrifol a gaiff un o'r trigolion;

ch

unrhyw ddigwyddiad difrifol yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n golygu bod rhaid galw'r heddlu i'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

d

unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy'n cynnwys unrhyw un o'r trigolion, sy'n ymwneud ag unrhyw bryder sy'n codi yn ystod y cyfnod y bydd person yn cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd;

dd

unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

2

Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

Hysbysu absenoldeb27

1

Os yw —

a

y darparydd cofrestredig os ef yw'r person sydd â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, neu

b

y rheolwr cofrestredig,

yn bwriadu bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

2

Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi o leiaf 28 diwrnod cyn i'r absenoldeb arfaethedig gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu —

a

pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;

b

y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;

c

y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb hwnnw;

ch

enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb; a

d

yn achos absenoldeb y rheolwr cofrestredig, y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.

3

Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

4

Os bydd —

a

y darparydd cofrestredig os nhw yw'r person sydd â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, neu

b

y rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).

5

Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl fel y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedi iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau28

Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd —

a

bod person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

b

bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

c

os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw;

ch

os corff yw'r darparydd cofrestredig —

i

bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid;

ii

bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd;

iii

bod unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol;

d

os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi;

dd

os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi mewn perthynas â'r darparydd cofrestredig;

e

os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu

f

bod tir neu adeiladau'r ganolfan breswyl i deuluoedd i'w gael ei newid neu ei estyn yn sylweddol, neu fod tir neu adeiladau ychwanegol yn cael ei sicrhau.

Penodi datodwyr etc.29

1

Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —

a

hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau dros ei benodi;

b

penodi rheolwr i gymryd gofal llawn-amser o ddydd i ddydd o'r ganolfan breswyl i deuluoedd mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac

c

o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn y dyfodol.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir —

a

yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig canolfan breswyl i deuluoedd;

b

yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro i gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig canolfan breswyl i deuluoedd;

c

yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd; neu

ch

yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig canolfan breswyl i deuluoedd.

Marwolaeth person cofrestredig30

1

Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig arall hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

2

Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, a mae'r person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig —

a

o'r farwolaeth yn ddi-oed; a

b

o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn y dyfodol.

3

Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas â hi —

a

am gyfnod heb fod yn hirach nag 28 diwrnod;

b

am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).

4

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ymestyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) gan gyfnod pellach, heb fod yn fwy na blwyddyn, a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt hysbysu unrhyw benderfyniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

5

Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas â hi.

Tramgwyddau31

1

Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 28 yn dramgwydd.

2

Caiff Swyddfabriodol y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith yn berson cofrestredig ond nad yw'n un mwyach, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 19.

Cydymffurfio â'r rheoliadau32

Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol i'r person cofrestredig ei wneud o dan y rheoliadau hyn, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Ffioedd33

1

Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 200211 yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

2

Yn y paragraff o dan y pennawd “Arrangement of Regulations”, ychwanegir y llinell ganlynol ar y diwedd — “11. Annual fee — residential family centres.”

3

Yn rheoliad 2(1),

a

yn y diffiniad o “establishment” ar ôl y geiriau “children’s home,” ychwanegir “residential family centres,”

b

yn y diffiniad o “statement of purpose” ychwanegir “(e) in relation to residential family centres, the written statement required to be compiled in relation to the residential family centre in accordance with regulation 4(1) of the Residential Family Centres (Wales) Regulations 2003;”.

4

Ar ôl rheoliad 10 (Annual Fee — boarding schools and colleges), mewnosodir y rheoliad canlynol —

Annual fee — residential family centres11

1

The annual fee in respect of a residential family centre which shall be paid by the registered provider shall be the sum of the amounts identified in sub-paragraphs (a) and (b) —

a

£400;

b

£50 multiplied by the relevant number, except that if the product of that multiplication is a negative number the product of the multiplication shall instead be deemed to be zero for the purposes of the summation performed under this paragraph.

2

The relevant number for the purposes of paragraph (3) in respect of a residential family centre is the number of approved places at the centre, minus the number three.

3

In the case of a residential family centre providing accommodation for any family on the date on which the Residential Family Centres (Wales) Regulations 2003 come into force the annual fee shall first be payable on 1st March 2004 and, in all other cases, on the date of the establishment of the residential family centre.

4

Thereafter the annual fee shall be payable every year on the anniversary of the date on which it was first payable.

Darpariaethau trosiannol34

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson sy'n rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd ac sy'n gwneud cais yn briodol am gofrestru cyn 31 Rhagfyr 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000 (y “darparydd anghofrestredig”).

2

Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i ddarparydd anghofrestredig mewn perthynas â'r sefydliad —

a

tan yr amser y bydd y cais yn cael ei dderbyn, naill ai yn ddi-amod neu yn ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparydd a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

b

os yw'r cais yn cael ei dderbyn yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu yn cael ei wrthod —

i

os na ddeuir ag apêl, hyd at ddiwedd y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd; neu

ii

os deuir ag apêl, hyd at ei phenderfynu neu rhoi'r gorau iddi.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

a

os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn y dylai adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 fod yn gymwys i ddarparydd anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r darparydd anghofresredig hwnnw; a

b

os yw'n ymddangos i'r ynad y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu lesiant person os na chaiff y gorchymyn ei wneud.

4

Os yw paragraff 3 yn gymwys —

a

caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;

b

bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r darparydd anghofresredig,

a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r darparydd anghofresredig, o'r adeg y caiff y gorchymyn ei wneud.

5

Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan bargaraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl fel y digwydd) wedi'i wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 a'i gymhwyso at y darparydd anghofrestredig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199812

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

Rheoliad 4(1)

1

Datganiad o nodau ac amcanion y ganolfan breswyl i deuluoedd.

2

Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau, gan gynnwys manylion y math o lety, sydd i'w darparu gan y ganolfan breswyl i deuluoedd.

3

Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac enw a chyfeiriad unrhyw reolwr cofrestredig.

4

Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig.

5

Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol.

6

Strwythur trefniadol y ganolfan breswyl i deuluoedd.

7

Ffioedd a thaliadau'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

8

Y meini prawf ar gyfer derbyniadau i'r ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys, fel y bo'n gymwys, oedran isaf ac uchaf y rhieni a'r plant a dderbynnir (os oes oedran isaf ac uchaf).

9

Disgrifiad o ethos ac athroniaeth sylfaenol y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac os yw'r rhain wedi'u seilio ar unrhyw fodel damcaniaethol neu therapiwtig, disgrifiad o'r model hwnnw.

10

Disgrifiad o unrhyw dechnegau penodol ar gyfer asesu, monitro neu therapi sydd i'w defnyddio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac o'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

11

Disgrifiad o'r cyngor, y canllawiau a'r cwnsela a ddarperir, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol.

12

Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys sy'n gysylltiedig â hwy yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

13

Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

14

Y rheolau ac amodau sy'n gymwys i drigolion, ac o dan ba amgylchiadau y gall lleoliadau gael eu terfynu.

15

Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas y trigolion.

16

Y polisi ynghylch defnyddio cyffuriau ac alcohol yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

17

Polisi cyfrinachedd y ganolfan breswyl i deuluoedd.

18

Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant.

ATODLEN 2YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CANOLFAN BRESWYL I DEULUOEDD NEU WEITHIO MEWN UN

Rheoliadau 5, 7, 16

1

Prawf adnabod cadarnhaol.

2

Naill ai —

a

os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 199713, tystysgrif record droseddol fanwl wedi'i rhoi o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

b

mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol wedi'i rhoi o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, ganlyniad gwiriadau sydd wedi'u cynnal yn unol, yn ôl fel y digwydd, ag adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno.

3

Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

4

Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

7

Gwiriad heddlu, sef adroddiad a gynhyrchir gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel y maent adeg cynhyrchu'r adroddiad, yr holl dramgwyddau troseddol —

a

yr oedd y person wedi'i euogfarnu ohonynt gan gynnwys euogfarnau sydd wedi'u disbyddu fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 197414 ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 197515; neu

b

y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN COFNODION ACHOSION

Rheoliad 19(1)(a)

1

Mewn perthynas â phob aelod o'r teulu —

a

ei enw llawn a'i gyfeiriad cartref;

b

unrhyw enw y mae wedi'i adnabod wrtho o'r blaen;

c

ei ddyddiad geni a'i ryw;

ch

ei argyhoeddiad crefyddol (os oes un); a

d

disgrifiad o'i darddiad hiliol, ei gefndir diwylliannol ac ieithyddol.

2

Enw'r awdurdod lleoli, os oes un, ac enw, cyfeiriad a Rhif ffôn cynrychiolydd i'r awdurdod hwnnw.

3

Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i unrhyw aelod o'r teulu.

4

Telerau unrhyw orchymyn llys y mae'r teulu yn cael llety yn y ganolfan breswyl i deuluoedd odano.

5

Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae aelodau'r teulu wedi'u cynnwys yn ei restr.

6

Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw ysgol, coleg neu weithle y mae unrhyw aelod o'r teulu'n eu mynychu.

7

Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw ddigwyddiad difrifol sy'n cynnwys unrhyw aelod o'r teulu, a dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau disgyblu neu ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar unrhyw aelod o'r teulu.

8

Unrhyw anghenion arbennig o ran deiet, deintyddiaeth neu unrhyw rai eraill o ran iechyd, gan gynnwys manylion unrhyw alergeddau sydd gan unrhyw aelod o'r teulu.

9

Manylion unrhyw feddyginiaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer unrhyw aelod o'r teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a manylion unrhyw feddyginiaethau a roddir i unrhyw un o'r trigolion gan berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

10

Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gaiff unrhyw aelod o'r teulu tra bo'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

11

Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac unrhyw berson perthnasol arall, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y cysylltiadau, a manylion unrhyw orchmynion llys sy'n ymwneud â chysylltiadau unrhyw berson â'r plentyn.

12

Manylion am unrhyw gyfnod pryd y bu unrhyw aelod o'r teulu yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd, ac a gafodd yr absenoldeb ei awdurdodi gan y person cofrestredig neu beidio.

13

Copi o'r cynllun lleoliad ac unrhyw adolygiad ohono.

14

Cofnod o unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuir gan unrhyw aelod o'r teulu i'w cadw'n ddiogel, ynghyd â'r dyddiad y cafodd yr arian hwnnw ei dynnu neu y cafodd unrhyw bethau gwerthfawr eu dychwelyd.

15

Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r teulu'n mynd iddo wrth ymadael â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

ATODLEN 4COFNODION ERAILL MEWN PERTHYNAS Å CHANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD

Rheoliad 19(3)

1

Copi o'r datganiad o ddiben.

2

Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos —

a

enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol pob aelod o bob teulu;

b

y dyddiad y dechreuodd breswylio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

c

y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno, a'r rheswm pam;

ch

enw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol am drefnu i'r teulu aros yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

d

enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol a gweithiwr cymdeithasol, os oes un, pob aelod o'r teulu;

dd

yn achos plentyn, unrhyw orchymyn llys y mae'n dod odano;

g

yn achos plentyn sy'n destun gorchymyn gofal, enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod lleol dynodedig a swyddog yr awdurdod sy'n gyfrifol am achos y plentyn.

3

Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff un o'r trigolion ar goll.

4

Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir tân.

5

Cofnod o bob ymarfer tân, dril neu brawf ar offer tân (gan gynnwys larymau tân) a gynhelir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a chofnod o unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.

6

Cofnod dyddiol o'r digwyddiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y bydd yn rhaid iddynt gynnwys manylion unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol a fydd yn effeithio ar drigolion —

a

unrhyw ddamwain;

b

unrhyw ddigwyddiad sy'n niweidiol i iechyd neu les trigolyn, gan gynnwys brigiad clefyd heintus;

c

unrhyw anaf neu salwch a gaiff unrhyw drigolyn;

ch

unrhyw dân;

d

unrhyw ladrad neu fyrgleriaeth.

7

Cofnod sy'n dangos mewn perthynas â phob person a gyflogir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —

a

enw llawn;

b

rhyw;

c

dyddiad geni;

d

cyfeiriad cartref;

e

cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant a'i brofiad o waith o'r fath;

f

y swydd y mae'r person hwnnw yn ei dal, a faint o oriau y bydd yn gweithio bob wythnos, ar gyfartaledd.

8

Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 25.

9

Cofnod o bob cwyn a wneir gan y trigolion neu gan bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd am sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn gweithredu, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.

10

Cofnod o'r taliadau a godir, a'r ffioedd a delir, gan bob teulu neu mewn perthynas â hwy, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau nad yw'r taliadau hynny'n eu cynnwys, a'r symiau a delir gan bob un o'r trigolion neu mewn perthynas â hwy.

11

Copi o roster dyletswyddau staff y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a chofnod o'r rosteri a gafodd eu gweithio mewn gwirionedd.

12

Cofnod o bob ymwelydd â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

13

Cofnod o bob cyfrif a gedwir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn arolygu sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu hefyd i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n llywodraethu y ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o ganolfan breswyl i deuluoedd o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw sefydliad sy'n ysbyty yn y gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol, yn gartref gofal, yn hostel neu'n lloches rhag trais domestig.

O dan reoliad 4, rhaid i bob canolfan breswyl i deuluoedd gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn atodlen 1, ac arweiniad i'r ganolfan ar gyfer y trigolion. Rhaid i'r ganolfan breswyl i deuluoedd gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan II yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac mae yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth boddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas â hwy (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae canolfannau preswyl i deuluoedd yn cael eu rhedeg, yn enwedig ynghylch iechyd a lles trigolion, amddiffyn plant a llunio cynlluniau lleoliad. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch staffio canolfannau preswyl i deuluoedd, a ffitrwydd y gweithwyr, ac ynghylch cwynion a chadw cofnodion.

Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd tir ac adeiladau, ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli canolfannau preswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu ansawdd y gofal a ddarperir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 24 yn gosod gofynion mewn perthynas â sefyllfa ariannol y ganolfan breswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd fel a ragnodir.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad. Mae rheoliad 31 yn darparu ar gyfer tramgwyddau, gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 31 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 33 yn diwygio Rheoliadau Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 drwy ragnodi'r ffi flynyddol mewn perthynas â chofrestru canolfannau preswyl i deuluoedd.