ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL

Afreoleidd-dra18

1

Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Atodlen hon cyn i'r Cyngor gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn dirymu'r achos.

2

Pan ddaw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r Cyngor, gall, a rhaid iddo os yw'n ystyried fod y naill ochr neu'r llall wedi'u rhagfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi unrhyw gyfarwyddiadau sydd yn ei farn ef yn gyfiawn, cyn dod i'w benderfyniad, i unioni neu anwybyddu'r afreoleidd-dra.