Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad
13.—(1) Rhaid i'r Cyngor —
(a)o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth yr amser ar gyfer anfon ateb i ben; a
(b)nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben,
bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.
(2) Rhaid i'r swyddog priodol ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad —
(a)yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad apêl;
(b)yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys i'r gwrandawiad;
(c)yn eu hysbysu o ganlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; ac
(ch)yn eu hysbysu am eu hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.
(3) Ni all y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.