ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad13

1

Rhaid i'r Cyngor —

a

o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth yr amser ar gyfer anfon ateb i ben; a

b

nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben,

bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

2

Rhaid i'r swyddog priodol ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad —

a

yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad apêl;

b

yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys i'r gwrandawiad;

c

yn eu hysbysu o ganlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; ac

ch

yn eu hysbysu am eu hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.

3

Ni all y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.