xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 17

ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon —

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy'n dwyn apêl yn unol â rheoliad 17 yn erbyn penderfyniad corff priodol o dan reoliad 14;

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw'r corff priodol a wnaeth y penderfyniad sy'n destun apêl;

ystyr “penderfyniad sy'n cael ei herio” (“disputed decision”) yw'r mater y mae'r apelydd yn apelio i'r Cyngor mewn perthynas ag ef; a

“swyddog priodol” (“proper officer”) yw person a benodir gan y Cyngor i gyflawni dyletswyddau swyddog priodol o dan yr Atodlen hon.

Yr amser a'r dull ar gyfer gwneud apêl

2.—(1Gwneir apêl drwy anfon hysbysiad apêl i'r swyddog priodol fel ei fod yn cael ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 14(7) (a) o'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

(2Gall y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1), p'un a ydyw eisoes wedi dod i ben ai peidio, ond ni chaiff wneud hynny oni bai ei fod yn fodlon y byddai peidio ag ymestyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.

(3Pan fo'r apelydd yn ystyried ei bod hi'n debygol y caiff hysbysiad apêl ei dderbyn y tu hwnt i'r terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) gellir cyflwyno gyda'r hysbysiad apêl ddatganiad o'r rhesymau y dibynnwyd arnynt i gyfiawnhau'r oedi a mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath wrth benderfynu a ydyw am ymestyn y terfyn amser ai peidio.

Yr hysbysiad apêl

3.—(1Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi —

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;

(b)enw a chyfeiriad yr ysgol lle cafodd yr apelydd ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu;

(c)enw a chyfeiriad cyflogwr yr apelydd, os o gwbl, ar ddyddiad yr apêl;

(ch)y rhesymau am yr apêl;

(d)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os o gwbl) sy'n cynrychioli'r apelydd, a ph'un a ddylai'r Cyngor anfon dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl at y cynrychiolydd yn hytrach na'r apelydd; a

(dd)a yw'r apelydd am i'r apêl gael ei phenderfynu mewn gwrandawiad llafar.

(2Rhaid i'r apelydd lofnodi'r hysbysiad apêl.

(3Rhaid i'r apelydd gyflwyno fel atodiad i'r hysbysiad gopi o'r —

(a)hysbysiad a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol o dan reoliad 14(7) (a) sy'n ymwneud â'r penderfyniad sy'n cael ei herio;

(b)unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau am ei benderfyniad; a

(c)pob dogfen arall y mae'r apelydd yn dibynnu arni at ddibenion yr apêl.

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ei ôl

4.—(1Gall yr apelydd ar unrhyw adeg cyn derbyn hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11 —

(a)anfon copïau o'r dogfennau ychwanegol hynny y bydd yn dymuno dibynnu arnynt at ddiben yr apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu'r apêl yn ôl, neu unrhyw ran ohono; neu

(c)diwygio neu dynnu yn ei ôl unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i gefnogi'r apêl.

(2Gall yr apelydd ar unrhyw adeg gymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Pan fo apelydd yn tynnu apêl yn ôl ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

(4Gellir diwygio neu dynnu apêl yn ei ôl drwy anfon hysbysiad apêl wedi'i ddiwygio neu hysbysiad yn datgan bod yr apêl yn cael ei dynnu'n ôl, fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod a hysbysu am yr apêl

5.—(1Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor yr hysbysiad apêl —

(a)anfon cydnabyddiaeth ei fod wedi'i dderbyn i'r apelydd;

(b)anfon copi o'r hysbysiad apêl ac unrhyw ddogfennau sy'n mynd gydag ef i'r corff priodol;

(c)os caiff person neu gorff heblaw am y corff priodol eu henwi fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad apêl, anfon copi o'r hysbysiad apêl at y person neu gorff hwnnw; ac

(ch)anfon copi o'r hysbysiad apêl at bennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu.

(2O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor oddi wrth yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, rhesymau diwygiedig am yr apêl, dogfennau wedi'u diwygio a gyflwynwyd i gefnogi'r apêl neu hysbysiad bod apêl yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi i'r corff priodol.

Cais am ddeunydd pellach

6.—(1Pan fo'r Cyngor yn ystyried y gellid penderfynu ar yr apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai'r apelydd yn darparu deunydd pellach, gall anfon at yr apelydd hysbysiad yn gwahodd yr apelydd i gyflenwi'r deunydd erbyn diwedd y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(2Pan fo'r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol ar yr un pryd hysbysu'r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(3Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor ddeunydd pellach o dan is-baragraff (1) anfon copi ohono at y corff priodol.

Ateb gan y corff priodol

7.—(1Rhaid i'r corff priodol anfon ateb i'r swyddog priodol sydd yn bodloni gofynion paragraff 8 fel ei fod yn cael ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y corff priodol gopi o'r hysbysiad apêl.

(2Gall y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) p'un a ydyw eisoes wedi dod i ben ai peidio.

(3Rhaid i'r Cyngor ganiatáu'r apêl pan fo'r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd, nad yw'n bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio, a rhaid gwneud hynny o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

Cynnwys yr ateb

8.—(1Rhaid i'r ateb ddatgan —

(a)enw a chyfeiriad y corff priodol;

(b)p'un a yw'r corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad dadleuol; ac

(c)mewn achosion pan fo'r corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio —

(i)ateb y corff priodol i bob un o'r rhesymau am yr apêl a roddwyd gan yr apelydd

(ii)p'un a ydyw'r corff priodol yn gwneud cais am wrandawiad llafar ai peidio, a

(iii)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os o gwbl) sy'n cynrychioli'r corff priodol, a ph'un a ddylai'r Cyngor anfon dogfennau ynghylch yr apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at y corff priodol.

(2Rhaid i'r corff priodol atodi gyda'r ateb —

(a)gopi o unrhyw ddogfen y mae am ddibynnu arni at ddiben gwrthwynebu'r apêl; a

(b)pan nad yw'r apelydd wedi anfon at y swyddog priodol gopi o ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau am ei benderfyniad, datganiad yn rhoi rhesymau am y penderfyniad.

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ei ôl

9.—(1Gall y corff priodol ar unrhyw adeg cyn ei fod yn derbyn hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11 —

(a)anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae am ddibynnu arnynt at ddibenion gwrthwynebu'r apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu ei ateb yn ôl, neu unrhyw ran ohono;

(c)diwygio neu dynnu yn ôl unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i gefnogi'r ateb.

(2Gall y corff priodol ar unrhyw adeg gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Gellir diwygio neu dynnu ateb yn ei ôl drwy anfon ateb wedi'i ddiwygio neu hysbysiad yn datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu'n ôl, fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod a hysbysu am yr ateb

10.—(1Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor yr ateb —

(a)anfon cydnabyddiaeth ei fod wedi'i dderbyn i'r corff priodol; a

(b)anfon copi o'r ateb ac unrhyw ddogfennau sy'n mynd gydag ef at yr apelydd.

(2O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor gan y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i gefnogi ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at yr apelydd.

Pŵer i benderfynu'r apêl heb wrandawiad

11.—(1Pan nad yw naill ai'r apelydd na'r corff priodol ar ôl i'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb ddirwyn i ben, wedi gwneud cais am wrandawiad llafar, ac nad yw'r Cyngor yn ystyried bod gwrandawiad llafar yn angenrheidiol, gall y Cyngor benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar.

(2Pan fo'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb o'i fewn wedi dirwyn i ben ac nad yw corff priodol wedi gwneud hynny, gall y Cyngor ganiatáu apêl heb wrandawiad llafar.

(3Os bydd y Cyngor yn penderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad fel sy'n ofynnol o dan baragraff 17 fel bod yr apelydd a'r corff priodol yn ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan ddaeth y terfyn amser ar gyfer anfon ateb i ben.

Gwrandawiad apêl

12.  Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys pan fo'r apêl i gael ei benderfynu ar sail gwrandawiad llafar.

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad

13.—(1Rhaid i'r Cyngor —

(a)o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth yr amser ar gyfer anfon ateb i ben; a

(b)nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben,

bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

(2Rhaid i'r swyddog priodol ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad —

(a)yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad apêl;

(b)yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys i'r gwrandawiad;

(c)yn eu hysbysu o ganlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; ac

(ch)yn eu hysbysu am eu hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.

(3Ni all y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.

Y camau i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl derbyn hysbysiad am y gwrandawiad

14.—(1O fewn deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad —

(a)rhaid i'r apelydd a'r corff priodol hysbysu'r swyddog priodol p'un a ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad;

(b)rhaid i'r apelydd a'r corff priodol hysbysu'r swyddog priodol pa dystion, os o gwbl, y maent yn bwriadu eu galw yn y gwrandawiad;

(c)gall yr apelydd a'r corff priodol, os nad ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad anfon at y swyddog priodol unrhyw sylwadau ysgrifenedig i gefnogi'r deunydd a anfonwyd eisoes at y swyddog priodol.

(2Rhaid i'r swyddog priodol o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbynnir sylwadau anfon at y naill ochr a'r llall gopi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd gan y swyddog priodol oddi wrth yr ochr arall o dan y paragraff hwn.

Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad

15.—(1Gall y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau y bydd yn eu hystyried yn briodol, ar yr amod nad yw'r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na'r dyddiad gwreiddiol.

(2Pan fo'r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad rhaid i'r swyddog priodol anfon hysbysiad i'r apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o'r newid. Rhaid iddo wneud hynny yn ddi-oed a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaed y newid.

Y weithdrefn yn y gwrandawiad

16.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.

(2Rhaid i wrandawiad yr apêl gael ei gynnal yn gyhoeddus oni bai fod y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg ac yn rhesymol i'r gwrandawiad neu unrhyw ran ohono gael ei gynnal yn breifat.

(3Gall yr apelydd a'r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.

(4Os yw'r apelydd neu'r corff priodol yn methu â mynychu'r gwrandawiad, gall y Cyngor wrando, ac ar yr amod ei fod wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan yr ochr dan sylw o dan baragraff 14, gall benderfynu, ar yr apêl yn absenoldeb yr ochr honno.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) gall yr apelydd a'r corff priodol roi tystiolaeth, alw tystion, ofyn cwestiynau i unrhyw dystion ac annerch y Cyngor ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar destun yr apêl.

(6Gall y Cyngor ar unrhyw adeg yn y gwrandawiad gyfyngu ar hawliau'r naill ochr a'r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod ei fod wedi'i fodloni na fyddai gwneud hynny yn atal yr apêl rhag cael ei benderfynu'n deg.

(7Gall y Cyngor ohirio'r gwrandawiad, ond ni chaiff wneud hynny oni bai ei fod wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny fel bod modd penderfynu ar yr apêl yn deg.

(8Rhaid cyhoeddi amser a lleoliad gwrandawiad sy'n cael ei ohirio naill ai cyn y gohiriad neu rhoid i'r Cyngor anfon yn ddi-oed, a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith gan ddechrau â dyddiad y gohiriad, hysbysiad i'r apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig.

Penderfyniad y Cyngor

17.—(1Gellir gwneud a chyhoeddi penderfyniad y Cyngor ar ddiwedd y gwrandawiad, ond beth bynnag fo'r achos, p'un a fu gwrandawiad ai peidio, rhaid ei gofnodi yn union pan gaiff ei wneud mewn dogfen y mae'n rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac y mae'n rhaid ei lofnodi a'i ddyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.

(2Rhaid i'r Cyngor o fewn pum diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaed y penderfyniad —

(a)anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) at yr apelydd, y corff priodol a phennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi pan gafodd y cyfnod ymsefydlu ei gwblhau; a

(b)os caiff person neu gorff heblaw'r corff priodol eu henwi fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad apêl, hysbysu'r corff neu'r person hwnnw o'i benderfyniad.

Afreoleidd-dra

18.—(1Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Atodlen hon cyn i'r Cyngor gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn dirymu'r achos.

(2Pan ddaw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r Cyngor, gall, a rhaid iddo os yw'n ystyried fod y naill ochr neu'r llall wedi'u rhagfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi unrhyw gyfarwyddiadau sydd yn ei farn ef yn gyfiawn, cyn dod i'w benderfyniad, i unioni neu anwybyddu'r afreoleidd-dra.

Dogfennau

19.—(1Gall unrhywbeth y mae'n ofynnol ei anfon at berson at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon —

(a)gael ei drosglwyddo i'r person hwnnw yn bersonol; neu

(b)gael ei anfon i'r person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy'r post; neu

(c)gael ei anfon ato drwy ffacsimili neu bost electronig neu ddulliau tebyg eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, ac os felly ystyrir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan gaiff ei derbyn ar ffurf ddarllenadwy.

(2Cyfeiriad priodol person yw'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad apêl neu'r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall a gaiff ei hysbysu wedi hynny i'r swyddog priodol.