xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 543 (Cy.77)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

5 Mawrth 2003

Yn dod i rym

17 Mawrth 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Reholiadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 17 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person a gyflogir mewn ysgol yn unol â Rhan III o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;

ystyr “athro neu athrawes gyflenwi” (“supply teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o oruchwylio neu ddysgu disgyblion nad yw eu hathro neu athrawes reolaidd ar gael i'w dysgu;

mae i “athro neu athrawes gymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3);

ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person a gyflogir mewn ysgol yn unol â Rhan II o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999(4));

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

mae “blwyddyn ysgol” (“school year”) yn cynnwys blwyddyn academaidd coleg chweched dosbarth;

ystyr “coleg chweched dosbarth” (“sixth form college”) yw sefydliad addysg bellach sy'n ymwneud yn bennaf â darparu addysg lawn-amser sy'n addas at ofynion personau nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed;

mae i “corff llywodraethu” mewn perthynas â choleg chweched dosbarth yr un ystyr ag sydd i “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5);

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw corff priodol o dan reoliad 4;

mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys awdurdod, corff llywodraethu neu berson arall sy'n cymryd person ymlaen (neu'n gwneud trefniadau i'w gymryd ymlaen) er mwyn darparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” (“employed”), “cyflogaeth” (“employment”) ac unrhyw ymadroddion sy'n ymwneud â therfyn cyflogaeth yn unol â hynny;

mae i “cyfnod allweddol” yr un ystyr ag sydd i “key stage” yn adran 355(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn;

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(6);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw am ddydd Sadwrn, ddydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 1971(8));

ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) mewn perthynas ag ysgol yw unrhyw ddiwrnod pan fo sesiwn ysgol yn yr ysgol honno;

mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth coleg chweched dosbarth;

ystyr “pwnc craidd” (“core subject”) yw pwnc y cyfeirir ato yn adran 354(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “pwnc sylfaen” (“foundation subject”) yw pwnc y cyfeirir ato yn adran 354(1) neu (2) o Ddeddf 1996;

ystyr “Rheolidau Ymsefydlu Lloegr” (“England’s Induction Regulations”) yw rheoliadau a wneir o bryd i'w gilydd o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(9) mewn perthynas ag athrawon yn Lloegr;

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw ysgol berthnasol, ysgol annibynnol neu goleg chweched dosbarth lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn, yn ôl y cyd-destun;

mae i “sesiwn ysgol” (“school session”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000(10);

mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys tymor coleg chweched dosbarth;

mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr ag sydd i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 1996 (11);

ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nad ydyw'n ysgol arbennig gymunedol nac ychwaith yn ysgol arbennig sefydledig;

mae i “ysgol berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant school” gan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

(a)reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; ac

(c)is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.

Torri terfynau amser

3.  Ni fydd methiant ar ran unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a nodir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r dyletswydd hwnnw.

Corff priodol

4.  At ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)y corff priodol mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir (ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998) yw'r awdurdod sy'n ei chynnal;

(b)y corff priodol mewn perthynas ag ysgol arbennig nas cynhelir yw'r awdurdod ar gyfer yr ardal y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi;

(c)y corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol yw —

(i)awdurdod, neu

(ii)unrhyw bersonau neu gorff y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu, a bydd y personau hynny neu'r corff hwnnw yn cynnwys cynrychiolydd awdurdod fel aelod; a

(ch)y corff priodol mewn perthynas â choleg chweched dosbarth yw awdurdod.

Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu

5.  Yn ddarostyngedig i'r eithriadau yn Atodlen 1, nid oes unrhyw berson i gael ei gyflogi ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol oni bai fod y person hwnnw wedi cwblhau'n foddhaol gyfnod ymsefydlu yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth y mae rheoliad 6(1) yn cyfeirio atynt.

Yr ysgolion lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn y canlynol y gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu —

(a)ysgol berthnasol yng Nghymru ac eithrio ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig sydd wedi ei sefydlu mewn ysbyty; neu

(b)o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (3) ysgol annibynnol yng Nghymru; neu

(c)o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (4) goleg chweched dosbarth yng Nghymru; neu

(ch)ysgol neu goleg chweched dosbarth yn Lloegr y gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu ynddi neu ynddo o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

(2Ni ellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu —

(a)mewn ysgol yng Nghymru y mae'r amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 15(6)(a) i (c) o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas â hwy, oni bai —

(i)bod y person dan sylw wedi dechrau ei gyfnod ymsefydlu neu wedi cael ei gyflogi fel athro neu athrawes raddedig neu athro neu athrawes gofrestredig yn yr ysgol ar adeg pan nad oedd amgylchiadau o'r fath yn gymwys, neu

(ii)bod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi ardystio yn ysgrifenedig ei fod yn fodlon bod yr ysgol yn addas at y diben o ddarparu goruchwyliaeth a hyfforddiant ymsefydlu; na

(b)mewn uned cyfeirio disgyblion.

(3Dyma'r amgylchiadau pan gaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol —

(a)yn achos person sy'n cael ei gyflogi i addysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol tri neu bedwar, bod cwricwlwm yr ysgol ar gyfer disgyblion y cyfnodau allweddol hynny yn cynnwys yr holl bynciau craidd a phynciau sylfaen eraill a nodwyd mewn perthynas â chyfnodau allweddol tri a phedwar yn adran 354(3) o Ddeddf 1996 y mae'r person hwnnw wedi'i gyflogi i'w addysgu; a

(b)ym mhob achos, bod y cwricwlwm ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig yng nghyfnodau allweddol un a dau yn bodloni holl ofynion adran 353 o Ddeddf 1996 (y Cwricwlwm Cenedlaethol), heblaw am ofynion paragraff (c) o'r adran honno (trefniadau asesu); ac

(c)ym mhob achos, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau bod perchennog yr ysgol a naill ai awdurdod neu'r personau neu'r corff a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 4(c) yn cytuno bod yr awdurdod neu'r personau neu'r corff, fel y digwydd, i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r ysgol.

(4Gall person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn coleg chweched dosbarth yng Nghymru os yw corff llywodraethu'r coleg ac awdurdod wedi cytuno cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau bod yr awdurdod i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r coleg.

(5Yn y rheoliad hwn, mae “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yn cynnwys rhan o gyfnod ymsefydlu.

Hyd cyfnod ymsefydlu

7.—(1Hyd y cyfnod ymsefydlu ar gyfer person sy'n gweithio'n llawn-amser fel athro neu athrawes yw —

(a)yn achos cyfnod ymsefydlu a wasanaethir yn gyfan gwbl mewn ysgol, coleg chweched dosbarth neu mewn dau neu fwy sefydliad o'r fath lle mae blwyddyn ysgol yn cynnwys tri thymor ysgol, tri thymor ysgol;

(b)yn achos cyfnod ymsefydlu a wasanaethir yn gyfan gwbl mewn ysgol, coleg chweched dosbarth neu mewn dau neu fwy sefydliad o'r fath lle mae'r flwyddyn ysgol yn cynnwys pedwar tymor ysgol, pedwar tymor ysgol;

(c)yn achos cyfnod ymsefydlu a wasanaethir yn gyfan gwbl mewn ysgol, coleg chweched dosbarth neu mewn dau neu fwy sefydliad o'r fath lle mae'r flwyddyn ysgol yn cynnwys pum tymor ysgol, pum tymor ysgol; ac

(ch)ym mhob achos arall, blwyddyn.

(2Hyd y cyfnod ymsefydlu ar gyfer person sy'n gweithio'n rhan-amser fel athro neu athrawes mewn ysgol, neu mewn dwy ysgol neu fwy, yw'r cyfnod amser y cymer i'r person hwnnw yn unol â'i gontract cyflogaeth neu amodau ei gymryd ymlaen i gwblhau 380 sesiwn ysgol.

(3Hyd y cyfnod ymsefydlu ar gyfer person sy'n gweithio'n rhan amser fel athro neu athrawes mewn coleg chweched dosbarth, mewn dau goleg chweched dosbarth neu fwy neu mewn cyfuniad o un neu fwy o ysgolion ac un neu fwy o golegau chweched dosbarth, yw'r cyfnod amser y byddai'n cymryd yn unol â'r contract cyflogaeth neu'r amodau cymryd y person hwnnw ymlaen iddo gwblhau 190 diwrnod gwaith o fewn amser tymor.

(4Bydd person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu at ddibenion y Rheoliadau hyn pan fo'r person hwnnw wedi gwasanaethu —

(a)cyfnod ymsefydlu o'r hyd a bennir ym mharagraff (1) neu (2) neu (3) (fel y digwydd) heb gynnwys cyfnodau cyflogaeth nad ydynt yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan reoliad 8; a

(b)unrhyw gyfnod estynedig o dan reoliad 9.

(5Pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi mewn dwy ysgol neu fwy ar yr un pryd, mae hyd ei gyfnod ymsefydlu i'w benderfynu yn unol â pharagraff (2).

(6Pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi mewn dau goleg chweched dosbarth neu fwy ar yr un pryd neu mewn cyfuniad o un neu fwy o ysgolion ac un neu fwy o golegau chweched dosbarth ar yr un pryd, mae hyd ei gyfnod ymsefydlu i'w benderfynu yn unol â pharagraff (3).

Cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae unrhyw gyfnod cyflogaeth o ddim llai nag un tymor ysgol o hyd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes gymwys mewn ysgol yng Nghymru y mae rheoliad 6(1) yn gymwys iddi yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae unrhyw gyfnod cyflogaeth o ddim llai nag un tymor o hyd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes gymwys mewn coleg chweched dosbarth yng Nghymru y mae rheoliad 6(1) yn gymwys iddo yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

(3Nid oes unrhyw gyfnod o gyflogaeth fel athro neu athrawes gyflenwi yng Nghymru yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu oni bai fod pennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth yn cytuno i hynny cyn i gyfnod o'r fath ddechrau.

(4Mae unrhyw gyfnod cyflogaeth ar neu ar ôl 1 Medi 2003 mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth yn Lloegr yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu os byddai'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

(5Heblaw fel y darperir ar gyfer hynny ym mharagraff (1), (2) neu (4) nid oes unrhyw gyfnod o gyflogaeth fel athro neu athrawes yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn absennol o'i waith am gyfanswm o dri deg diwrnod ysgol neu fwy rhaid ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn ôl cyfanswm cyfnod ei absenoldeb.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo menyw yn absennol o'i gwaith oherwydd cyfnod o absenoldeb mamolaeth a nodwyd yn rheoliad 7(1) o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999(12) oni bai ei bod yn dewis hynny.

(3Pan fo pum mlynedd neu fwy wedi mynd heibio ers i berson gychwyn ar ei gyfnod ymsefydlu, ac nad yw'r person hwnnw wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu, gall gyda chytundeb y corff priodol ddewis ymestyn y cyfnod ymsefydlu —

(a)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n llawn-amser yn unol â chyfnod o ddim llai nag un tymor ond nad yw'n hwy na'r cyfnod priodol a nodwyd yn rheoliad 7(1); neu

(b)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan amser yn unol â chyfnod o ddim llai nag un tymor ond nad yw'n hwy na'r cyfnod a nodwyd yn rheoliad 7(2) neu (3).

(4Pan fo cyfnod ymsefydlu yn cael ei ymestyn o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr ac mae'r person sydd yn gwasanaethu'r cyfnod ymsefydlu yn symud i gyflogaeth mewn sefydliad addysg yng Nghymru, mae'r cyfnod ymsefydlu i gael ei drin fel petai wedi'i ymestyn o dan y rheoliad hwn.

(5Heblaw fel y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwn ni ellir ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn iddo gael ei gwblhau.

Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu

10.  Heblaw fel y darperir yn rheoliad 14 neu 17, ni all unrhyw berson wasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu.

Goruchwyliaeth a hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymsefydlu

11.—(1Bydd pennaeth ysgol neu goleg chweched dosbarth yng Nghymru lle mae person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu a'r corff priodol mewn perthynas â'r ysgol honno neu goleg chweched dosbarth yn gyfrifol am oruchwyliaeth a hyfforddiant y person hwnnw yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

(2Bydd dyletswyddau a neilltuir i berson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu, goruchwyliaeth y person hwnnw a'r amodau y mae ef yn gweithio oddi tanynt yn rhai a fydd yn hwyluso'r broses o asesu ei ymddygiad a'i effeithlonrwydd fel athro neu athrawes yn deg ac yn effeithlon.

(3Os yw person yn symud o un ysgol neu goleg chweched dosbarth i ysgol neu goleg chweched dosbarth arall yn ystod cyfnod ymsefydlu, rhaid i bennaeth yr ysgol neu'r coleg y mae'r person yn symud ohoni neu ohono,

(a)os yw'n gwybod enw'r ysgol neu'r coleg newydd, o fewn deg diwrnod gwaith o'r person yn symud o'r ysgol neu'r coleg, anfon ati neu ato bob dogfen neu adroddiad sy'n ymwneud ag ymsefydlu'r person hwnnw; neu

(b)os nad yw'n gwybod enw'r ysgol neu'r coleg newydd anfon i'r ysgol neu'r coleg newydd bob dogfen neu adroddiad sy'n ymwneud ag ymsefydlu'r person hwnnw o fewn deg diwrnod gwaith o gael cais gan yr ysgol honno neu'r coleg hwnnw.

Cyfrifoldeb am gyfnod ymsefydlu a wasanaethir gan athro neu athrawes mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd

12.—(1Pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd, rhaid i benaethiaid pob un o'r sefydliadau gytuno pa un ohonynt sydd i weithredu fel y pennaeth arweiniol.

(2Y pennaeth arweiniol sydd i fod yn gyfan gwbl gyfrifol am weithredu swyddogaethau'r pennaeth a nodwyd yn rheoliad 14(2) i (4) a chyn gwneud hynny rhaid iddo neu iddi ystyried yr holl ddeunyddiau perthnasol sy'n ymwneud ag ymsefydlu person sydd wedi eu rhoi gan unrhyw sefydliad arall lle mae'r person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu.

(3Mae'n rhaid i bennaeth sefydliad nad yw'n bennaeth arweiniol roi i'r pennaeth arweiniol unrhyw ddeunyddiau sy'n ymwneud ag ymsefydlu person y gall yn rhesymol fod eu hangen ar y pennaeth arweiniol i weithredu'r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 14(2) i (4).

(4Y corff priodol mewn perthynas ag ysgol y pennaeth arweiniol neu goleg chweched dosbarth sydd i fod yn yn gyfan gwbl gyfrifol am weithredu swyddogaethau'r corff priodol a nodwyd yn rheoliad 9(3) a 14.

Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol

13.  Gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y safonau ar gyfer asesu person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn eu herbyn at y diben o benderfynu a yw'r person hwnnw wedi cwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn foddhaol, a gall benderfynu ar safonau gwahanol mewn perthynas â chategorïau gwahanol o bobl.

Cwblhau cyfnod ymsefydlu

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu, os —

(a)ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu, cyflogir y person hwnnw mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth yng Nghymru, neu

(b)ar ddiwedd cyfnod ymsefydlu a wasanaethir mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd, mae sefydliad y pennaeth arweiniol yng Nghymru.

(2O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan gwblhawyd y cyfnod ymsefydlu —

(a)rhaid i bennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth lle mae person yn cael ei gyflogi ar ddiwedd cwblhau y cyfnod ymsefydlu wneud argymhelliad ysgrifenedig i'r corff priodol a yw'r person wedi cyflawni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13, a

(b)os argymhelliad ydyw nad yw'r safonau wedi eu cyflawni, gall y pennaeth argymell ymestyn y cyfnod ymsefydlu a hyd ymestyniad o'r fath, a

(c)rhaid i'r pennaeth anfon copi ar yr un pryd o'r argymhelliad at y person dan sylw ac,

(i)yn achos ysgol berthnasol neu goleg chweched dosbarth, at gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle mae'r person yn cael ei gyflogi, neu

(ii)yn achos ysgol annibynnol, at y perchennog.

(3Os yw person wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn mwy nag un sefydliad addysg, rhaid i'r pennaeth wrth wneud argymhelliad o dan baragraff (2) gymryd i ystyriaeth unrhyw ddogfennau neu adroddiadau a gyflwynwyd o dan reoliad 11(3).

(4Cyn gwneud argymhelliad o dan baragraff (2), rhaid i'r pennaeth ei drafod gyda'r person o dan sylw.

(5Rhaid i'r corff priodol o fewn ugain diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) benderfynu —

(a)a yw'r person sydd wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu wedi cyflawni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13 ac felly wedi cwblhau'n foddhaol ei gyfnod ymsefydlu; neu

(b)a ddylid ymestyn ei gyfnod ymsefydlu yn unol ag unrhyw gyfnod ag y bydd yn ei benderfynu ond

(i)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n llawn-amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod priodol a nodwyd yn rheoliad 7(1); neu

(ii)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod a nodwyd yn rheoliad 7(2) neu (3); neu

(c)a yw'r person wedi methu â chwblhau'n foddhaol ei gyfnod ymsefydlu.

(6Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (5) bydd y corff priodol yn cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd oddi wrth y person dan sylw o fewn cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y person hwnnw argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) (c).

(7Rhaid i'r corff priodol o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaeth y penderfyniad o dan baragraff (5) —

(a)roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad —

(i)i'r person dan sylw,

(ii)yn achos ysgol berthnasol neu goleg chweched dosbarth, i gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle mae'r person yn cael ei gyflogi,

(iii)yn achos ysgol annibynnol, i'r perchennog,

(iv)i bennaeth yr ysgol neu'r coleg chweched dosbarth yr oedd yn cael ei gyflogi ynddi neu ynddo ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu,

(v)os nad yw'r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, i'w gyflogwr (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysiad o dan baragraff (ii) neu (iii) uchod), a

(vi)i'r Cyngor; a

(b)os gwnaeth y corff priodol benderfyniad sy'n dod o fewn paragraff (5)(b) neu (c), roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person dan sylw o —

(i)ei hawl i apelio i'r Cyngor yn erbyn y penderfyniad,

(ii)cyfeiriad y Cyngor, a

(iii)y cyfnod amser ar gyfer apelio.

(8Gellir rhoi hysbysiad o dan baragraff (7) i berson drwy ffacsimili, post electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, ac ystyrir bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o'r fath wedi cael ei roi pan gaiff ei dderbyn mewn ffurf ddarllenadwy

Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad corff priodol neu'r Cyngor

15.—(1Mae Rheoliadau 6, 8 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn wedi iddo gael ei gwblhau drwy benderfyniad corff priodol o dan reoliad 14 neu'r Cyngor o dan reoliad 17 fel y mae'r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod ymsefydlu cychwynnol.

(2Mae Rheoliadau 6, 8 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 hefyd yn gymwys mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn, wedi iddo gael ei gwblhau, o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr os yw'r person hwnnw wedyn yn cael ei gyflogi mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth yng Nghymru fel y mae'r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â chyfnod ymsefydlu cychwynnol.

Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol

16.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, boed yng Nghymru neu yn Lloegr.

(2Rhaid i gyflogwr person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sicrhau bod cyflogaeth y person hwnnw fel athro neu athrawes yn cael ei derfynu os —

(a)nad ydyw'n apelio i'r Cyngor yn erbyn penderfyniad y corff priodol; neu

(b)yw ei apêl i'r Cyngor, neu i'r corff apelio o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr, yn cael ei wrthod.

(3Rhaid i gyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei derfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) yn cael ei derfynu fel bo'r terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau gyda'r dyddiad pan —

(a)fo'r cyflogwr yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth berson o'r fath nad oedd yn fwriad ganddo i apelio i'r Cyngor; neu

(b)bod y terfyn amser ar gyfer apelio a osodwyd gan baragraff 2(1) o Atodlen 2 wedi dirwyn i ben.

(4Rhaid i'r cyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei derfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(b) yn cael ei derfynu fel bo'r terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y cyflogwr hysbysiad o ganlyniad y gwrandawiad apêl.

(5Nid oes rheidrwydd ar gyflogwr person —

(a)y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, a

(b)sy'n apelio i'r Cyngor yn erbyn penderfyniad y corff priodol neu sy'n apelio i'r corff apelio o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr,

sicrhau bod cyflogaeth person o'r fath fel athro neu athrawes yn cael ei derfynu tra'n aros am ganlyniad yr apêl honno ar yr amod bod y cyflogwr yn sicrhau mai dim ond dyletswyddau cyfyngedig ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu penderfynu y bydd y person hwnnw yn ymgymryd â hwy.

Apelau

17.—(1Pan fo'r corff priodol yn penderfynu o dan reoliad 14—

(a)y dylid ymestyn cyfnod ymsefydlu person; neu

(b)bod person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu yn foddhaol,

gall y person hwnnw apelio i'r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae gan Atodlen 2 effaith mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn.

(3Pan fo person yn apelio yn erbyn penderfyniad i ymestyn cyfnod ymsefydlu, gall y Cyngor —

(a)ganiatáu'r apêl;

(b)wrthod yr apêl; neu

(c)osod cyfnod gwahanol o estyniad yn ei le ond

(i)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n llawn-amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod priodol a nodwyd yn rheoliad 7(1); neu

(ii)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod a nodwyd yn rheoliad 7(2) neu (3).

(4Pan fo person yn apelio yn erbyn penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, gall y Cyngor —

(a)ganiatáu'r apêl;

(b)wrthod yr apêl; neu

(c)ymestyn y cyfnod ymsefydlu gan y fath gyfnodag y gwêl yn ddoeth ond

(i)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n llawn-amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod priodol a nodwyd yn rheoliad 7(1); neu

(ii)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod a nodwyd yn rheoliad 7(2) neu (3).

Swyddogaethau eraill y corff priodol

18.  Gall y corff priodol ddarparu —

(a)cyfarwyddyd, cefnogaeth a chymorth i ysgolion a cholegau chweched dosbarth; a

(b)hyfforddiant ar gyfer athrawon,

mewn perthynas â darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth ac asesu ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn.

Taliadau

19.  Gall corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol neu goleg chweched dosbarth godi tâl rhesymol (nad yw'n fwy na chost darparu'r gwasanaeth) ar gorff llywodraethu ysgol neu goleg chweched dosbarth y mae'n gorff priodol iddynt mewn perthynas ag unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Cyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol

20.  Rhaid i berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfarwyddyd sy'n cael ei roi gan y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd ynghylch arfer y swyddogaeth honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003

Rheoliad 5

ATODLEN 1ACHOSION PAN ELLIR CYFLOGI PERSON FEL ATHRO NEU ATHRAWES MEWN YSGOL BERTHNASOL AG YNTAU HEB GWBLHAU CYFNOD YMSEFYDLU YN FODDHAOL

1.  Person sydd ar 1 Ebrill 2003 yn athro neu athrawes gymwysedig.

2.  Person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu (gan gynnwys cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn cyn iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 9 neu ar ôl iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 14 neu 17).

3.  Person sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol ac y mae cyfyngiad ar ei gyflogaeth o dan reoliad 16(5) tra'n aros am ganlyniad apêl.

4.  Person sydd wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi os yw'r cyfnod neu gyfnodau cyflogaeth, ym mhob achos, yn llai nag un tymor, ac os nad yw'r cyfnod ers i'r person gael ei gyflogi am y tro cyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi (gan unrhyw gyflogwr) yn hirach nag un flwyddyn ysgol ac un tymor.

5.  Person nad yw'n athro neu athrawes gymwysedig ond sy'n cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol trwy rinwedd rheoliadau sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218(1)(a) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(14).

6.  Person sydd wedi cwblhau'n foddhaol gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

7.  Person sydd wedi cael, neu sy'n gymwys i gael, ei gofrestru'n llawn fel athro neu athrawes addysg gynradd ac uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

8.  Person —

(a)sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus y cyfnod ymsefydlu ar gyfer addysg athrawon yng Ngogledd Iwerddon, neu,

(b)a gyflogwyd fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon ar unrhyw adeg cyn i gyfnod ymsefydlu hyfforddiant athrawon gael ei gyflwyno yng Ngogledd Iwerddon.

9.  Person sydd, mewn perthynas â'r proffesiwn athrawon ysgol, yn dod o fewn Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC(15) ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol, fel y cafodd ei hymestyn gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(16) fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(17).

10.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.

11.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Rhaglen Ymsefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

12.  Person a gymeradwywyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person a gwblhaodd yn llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon.

13.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.

14.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Rhaglen Ymsefydlu ysgolion Addysg Plant y Lluoedd yn yr Almaen neu yng Nghyprus.

15.  Person ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —

(a)a gyflogwyd fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai —

(i)a gwblhaodd yn llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban, neu

(ii)a gofrestrwyd fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

16.  Person ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —

(a)a gyflogwyd fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai —

(i)a gwblhaodd yn llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon, neu

(ii)a dderbyniodd gadarnhad ei fod yn cael ei gydnabod fel athro neu athrawes mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei gyflwyno.

17.  Person sy'n athro neu athrawes gymwys trwy rinwedd paragraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(18).

18.  Person sy'n athro neu athrawes gymwys trwy rinwedd paragraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.

19.  Person y gellir ei gyflogi o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr ag yntau heb gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

Rheoliad 17

ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon —

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy'n dwyn apêl yn unol â rheoliad 17 yn erbyn penderfyniad corff priodol o dan reoliad 14;

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw'r corff priodol a wnaeth y penderfyniad sy'n destun apêl;

ystyr “penderfyniad sy'n cael ei herio” (“disputed decision”) yw'r mater y mae'r apelydd yn apelio i'r Cyngor mewn perthynas ag ef; a

“swyddog priodol” (“proper officer”) yw person a benodir gan y Cyngor i gyflawni dyletswyddau swyddog priodol o dan yr Atodlen hon.

Yr amser a'r dull ar gyfer gwneud apêl

2.—(1Gwneir apêl drwy anfon hysbysiad apêl i'r swyddog priodol fel ei fod yn cael ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 14(7) (a) o'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

(2Gall y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1), p'un a ydyw eisoes wedi dod i ben ai peidio, ond ni chaiff wneud hynny oni bai ei fod yn fodlon y byddai peidio ag ymestyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.

(3Pan fo'r apelydd yn ystyried ei bod hi'n debygol y caiff hysbysiad apêl ei dderbyn y tu hwnt i'r terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) gellir cyflwyno gyda'r hysbysiad apêl ddatganiad o'r rhesymau y dibynnwyd arnynt i gyfiawnhau'r oedi a mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath wrth benderfynu a ydyw am ymestyn y terfyn amser ai peidio.

Yr hysbysiad apêl

3.—(1Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi —

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;

(b)enw a chyfeiriad yr ysgol lle cafodd yr apelydd ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu;

(c)enw a chyfeiriad cyflogwr yr apelydd, os o gwbl, ar ddyddiad yr apêl;

(ch)y rhesymau am yr apêl;

(d)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os o gwbl) sy'n cynrychioli'r apelydd, a ph'un a ddylai'r Cyngor anfon dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl at y cynrychiolydd yn hytrach na'r apelydd; a

(dd)a yw'r apelydd am i'r apêl gael ei phenderfynu mewn gwrandawiad llafar.

(2Rhaid i'r apelydd lofnodi'r hysbysiad apêl.

(3Rhaid i'r apelydd gyflwyno fel atodiad i'r hysbysiad gopi o'r —

(a)hysbysiad a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol o dan reoliad 14(7) (a) sy'n ymwneud â'r penderfyniad sy'n cael ei herio;

(b)unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau am ei benderfyniad; a

(c)pob dogfen arall y mae'r apelydd yn dibynnu arni at ddibenion yr apêl.

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ei ôl

4.—(1Gall yr apelydd ar unrhyw adeg cyn derbyn hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11 —

(a)anfon copïau o'r dogfennau ychwanegol hynny y bydd yn dymuno dibynnu arnynt at ddiben yr apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu'r apêl yn ôl, neu unrhyw ran ohono; neu

(c)diwygio neu dynnu yn ei ôl unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i gefnogi'r apêl.

(2Gall yr apelydd ar unrhyw adeg gymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Pan fo apelydd yn tynnu apêl yn ôl ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

(4Gellir diwygio neu dynnu apêl yn ei ôl drwy anfon hysbysiad apêl wedi'i ddiwygio neu hysbysiad yn datgan bod yr apêl yn cael ei dynnu'n ôl, fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod a hysbysu am yr apêl

5.—(1Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor yr hysbysiad apêl —

(a)anfon cydnabyddiaeth ei fod wedi'i dderbyn i'r apelydd;

(b)anfon copi o'r hysbysiad apêl ac unrhyw ddogfennau sy'n mynd gydag ef i'r corff priodol;

(c)os caiff person neu gorff heblaw am y corff priodol eu henwi fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad apêl, anfon copi o'r hysbysiad apêl at y person neu gorff hwnnw; ac

(ch)anfon copi o'r hysbysiad apêl at bennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu.

(2O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor oddi wrth yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, rhesymau diwygiedig am yr apêl, dogfennau wedi'u diwygio a gyflwynwyd i gefnogi'r apêl neu hysbysiad bod apêl yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi i'r corff priodol.

Cais am ddeunydd pellach

6.—(1Pan fo'r Cyngor yn ystyried y gellid penderfynu ar yr apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai'r apelydd yn darparu deunydd pellach, gall anfon at yr apelydd hysbysiad yn gwahodd yr apelydd i gyflenwi'r deunydd erbyn diwedd y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(2Pan fo'r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol ar yr un pryd hysbysu'r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(3Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor ddeunydd pellach o dan is-baragraff (1) anfon copi ohono at y corff priodol.

Ateb gan y corff priodol

7.—(1Rhaid i'r corff priodol anfon ateb i'r swyddog priodol sydd yn bodloni gofynion paragraff 8 fel ei fod yn cael ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y corff priodol gopi o'r hysbysiad apêl.

(2Gall y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) p'un a ydyw eisoes wedi dod i ben ai peidio.

(3Rhaid i'r Cyngor ganiatáu'r apêl pan fo'r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd, nad yw'n bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio, a rhaid gwneud hynny o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

Cynnwys yr ateb

8.—(1Rhaid i'r ateb ddatgan —

(a)enw a chyfeiriad y corff priodol;

(b)p'un a yw'r corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad dadleuol; ac

(c)mewn achosion pan fo'r corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio —

(i)ateb y corff priodol i bob un o'r rhesymau am yr apêl a roddwyd gan yr apelydd

(ii)p'un a ydyw'r corff priodol yn gwneud cais am wrandawiad llafar ai peidio, a

(iii)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os o gwbl) sy'n cynrychioli'r corff priodol, a ph'un a ddylai'r Cyngor anfon dogfennau ynghylch yr apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at y corff priodol.

(2Rhaid i'r corff priodol atodi gyda'r ateb —

(a)gopi o unrhyw ddogfen y mae am ddibynnu arni at ddiben gwrthwynebu'r apêl; a

(b)pan nad yw'r apelydd wedi anfon at y swyddog priodol gopi o ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau am ei benderfyniad, datganiad yn rhoi rhesymau am y penderfyniad.

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ei ôl

9.—(1Gall y corff priodol ar unrhyw adeg cyn ei fod yn derbyn hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11 —

(a)anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae am ddibynnu arnynt at ddibenion gwrthwynebu'r apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu ei ateb yn ôl, neu unrhyw ran ohono;

(c)diwygio neu dynnu yn ôl unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i gefnogi'r ateb.

(2Gall y corff priodol ar unrhyw adeg gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Gellir diwygio neu dynnu ateb yn ei ôl drwy anfon ateb wedi'i ddiwygio neu hysbysiad yn datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu'n ôl, fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod a hysbysu am yr ateb

10.—(1Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor yr ateb —

(a)anfon cydnabyddiaeth ei fod wedi'i dderbyn i'r corff priodol; a

(b)anfon copi o'r ateb ac unrhyw ddogfennau sy'n mynd gydag ef at yr apelydd.

(2O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor gan y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i gefnogi ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at yr apelydd.

Pŵer i benderfynu'r apêl heb wrandawiad

11.—(1Pan nad yw naill ai'r apelydd na'r corff priodol ar ôl i'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb ddirwyn i ben, wedi gwneud cais am wrandawiad llafar, ac nad yw'r Cyngor yn ystyried bod gwrandawiad llafar yn angenrheidiol, gall y Cyngor benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar.

(2Pan fo'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb o'i fewn wedi dirwyn i ben ac nad yw corff priodol wedi gwneud hynny, gall y Cyngor ganiatáu apêl heb wrandawiad llafar.

(3Os bydd y Cyngor yn penderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad fel sy'n ofynnol o dan baragraff 17 fel bod yr apelydd a'r corff priodol yn ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan ddaeth y terfyn amser ar gyfer anfon ateb i ben.

Gwrandawiad apêl

12.  Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys pan fo'r apêl i gael ei benderfynu ar sail gwrandawiad llafar.

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad

13.—(1Rhaid i'r Cyngor —

(a)o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth yr amser ar gyfer anfon ateb i ben; a

(b)nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad pan ddaeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben,

bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

(2Rhaid i'r swyddog priodol ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad —

(a)yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad apêl;

(b)yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys i'r gwrandawiad;

(c)yn eu hysbysu o ganlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; ac

(ch)yn eu hysbysu am eu hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.

(3Ni all y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.

Y camau i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl derbyn hysbysiad am y gwrandawiad

14.—(1O fewn deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad —

(a)rhaid i'r apelydd a'r corff priodol hysbysu'r swyddog priodol p'un a ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad;

(b)rhaid i'r apelydd a'r corff priodol hysbysu'r swyddog priodol pa dystion, os o gwbl, y maent yn bwriadu eu galw yn y gwrandawiad;

(c)gall yr apelydd a'r corff priodol, os nad ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad anfon at y swyddog priodol unrhyw sylwadau ysgrifenedig i gefnogi'r deunydd a anfonwyd eisoes at y swyddog priodol.

(2Rhaid i'r swyddog priodol o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbynnir sylwadau anfon at y naill ochr a'r llall gopi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd gan y swyddog priodol oddi wrth yr ochr arall o dan y paragraff hwn.

Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad

15.—(1Gall y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau y bydd yn eu hystyried yn briodol, ar yr amod nad yw'r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na'r dyddiad gwreiddiol.

(2Pan fo'r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad rhaid i'r swyddog priodol anfon hysbysiad i'r apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o'r newid. Rhaid iddo wneud hynny yn ddi-oed a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaed y newid.

Y weithdrefn yn y gwrandawiad

16.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.

(2Rhaid i wrandawiad yr apêl gael ei gynnal yn gyhoeddus oni bai fod y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg ac yn rhesymol i'r gwrandawiad neu unrhyw ran ohono gael ei gynnal yn breifat.

(3Gall yr apelydd a'r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.

(4Os yw'r apelydd neu'r corff priodol yn methu â mynychu'r gwrandawiad, gall y Cyngor wrando, ac ar yr amod ei fod wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan yr ochr dan sylw o dan baragraff 14, gall benderfynu, ar yr apêl yn absenoldeb yr ochr honno.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) gall yr apelydd a'r corff priodol roi tystiolaeth, alw tystion, ofyn cwestiynau i unrhyw dystion ac annerch y Cyngor ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar destun yr apêl.

(6Gall y Cyngor ar unrhyw adeg yn y gwrandawiad gyfyngu ar hawliau'r naill ochr a'r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod ei fod wedi'i fodloni na fyddai gwneud hynny yn atal yr apêl rhag cael ei benderfynu'n deg.

(7Gall y Cyngor ohirio'r gwrandawiad, ond ni chaiff wneud hynny oni bai ei fod wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny fel bod modd penderfynu ar yr apêl yn deg.

(8Rhaid cyhoeddi amser a lleoliad gwrandawiad sy'n cael ei ohirio naill ai cyn y gohiriad neu rhoid i'r Cyngor anfon yn ddi-oed, a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith gan ddechrau â dyddiad y gohiriad, hysbysiad i'r apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig.

Penderfyniad y Cyngor

17.—(1Gellir gwneud a chyhoeddi penderfyniad y Cyngor ar ddiwedd y gwrandawiad, ond beth bynnag fo'r achos, p'un a fu gwrandawiad ai peidio, rhaid ei gofnodi yn union pan gaiff ei wneud mewn dogfen y mae'n rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac y mae'n rhaid ei lofnodi a'i ddyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.

(2Rhaid i'r Cyngor o fewn pum diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaed y penderfyniad —

(a)anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) at yr apelydd, y corff priodol a phennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi pan gafodd y cyfnod ymsefydlu ei gwblhau; a

(b)os caiff person neu gorff heblaw'r corff priodol eu henwi fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad apêl, hysbysu'r corff neu'r person hwnnw o'i benderfyniad.

Afreoleidd-dra

18.—(1Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Atodlen hon cyn i'r Cyngor gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn dirymu'r achos.

(2Pan ddaw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r Cyngor, gall, a rhaid iddo os yw'n ystyried fod y naill ochr neu'r llall wedi'u rhagfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi unrhyw gyfarwyddiadau sydd yn ei farn ef yn gyfiawn, cyn dod i'w benderfyniad, i unioni neu anwybyddu'r afreoleidd-dra.

Dogfennau

19.—(1Gall unrhywbeth y mae'n ofynnol ei anfon at berson at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon —

(a)gael ei drosglwyddo i'r person hwnnw yn bersonol; neu

(b)gael ei anfon i'r person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy'r post; neu

(c)gael ei anfon ato drwy ffacsimili neu bost electronig neu ddulliau tebyg eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, ac os felly ystyrir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan gaiff ei derbyn ar ffurf ddarllenadwy.

(2Cyfeiriad priodol person yw'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad apêl neu'r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall a gaiff ei hysbysu wedi hynny i'r swyddog priodol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i bersonau sy'n cymhwyso fel athrawon gwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu cyn iddynt gael eu cyflogi mewn “ysgol berthnasol” yng Nghymru. Trwy rinwedd adran 43(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, mae hyn yn cynnwys personau a gymerir ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth mewn ysgol o'r fath.

“Ysgol berthnasol” yw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol, ac ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly.

Gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol berthnasol (heblaw ysgol mewn ysbyty), neu ysgol annibynnol y mae'i chwricwlwm yn bodloni gofynion penodol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu goleg chweched dosbarth. Ni ellir ei wasanaethu mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol sy'n ddarostyngedig i “fesurau arbennig”, oni bai fod y person dan sylw yn cwblhau cyfnod ymsefydlu sydd eisoes wedi cychwyn yn yr ysgol neu fod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ardystio bod yr ysgol yn addas i ddarparu'r ymsefydliad. Bydd cyfnod o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at ymsefydlu o dan reoliadau ymsefydlu cyfatebol yn Lloegr yn cyfrif tuag at ymsefydlu yng Nghymru.

Fel arfer hyd y cyfnod ymsefydlu yw tri thymor ysgol ar gyfer athro neu athrawes llawn-amser a'r hyd cyfatebol ar gyfer athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan-amser.

Mae eithriadau i'r gofyn i wasanaethu cyfnod ymsefydlu: mae'r prif eithriadau ar gyfer athrawon sydd wedi cymhwyso cyn y daw'r Rheoliadau i rym, athrawon sydd wedi'u heithrio o'r gofyn i fod yn athrawon cymwysedig, athrawon sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnodau ymsefydlu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac athrawon y mae Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd wedi iddynt gwblhau cyfnod o o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol yn gymwys iddynt.

Mae'r Rheoliadau yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod safonau ar gyfer asesu athrawon sy'n gwasanaethu cyfnodau ymsefydlu yn eu herbyn er mwyn penderfynu a ydynt wedi cwblhau eu cyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus.

Ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu mae pennaeth yr ysgol cyflogir yr athro neu athrawes ynddi yn gwneud argymhelliad i'r corff sy'n asesu athrawon sy'n cael eu hymsefydlu (fel arfer yr awdurdod addysg lleol). Mae'r corff hwnnw yn penderfynu p'un a yw'r athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r ymsefydliad yn llwyddiannus, a ddylid ymestyn y cyfnod ymsefydlu neu a ydyw wedi methu â chwblhau'r ymsefydlu yn foddhaol. Gall person y mae ei gyfnod ymsefydlu yn cael ei ymestyn neu sy'n methu â chwblhau ei ymsefydliad yn foddhaol apelio i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

(1)

1998 p.30; gweler adran 43(1) am ystyr “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddywd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwlyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

1988 p.40. Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2187 (Cy. 18)), a ddiwygiwyd gan O.S 2002/2938 (Cy.279) ac O.S 2003/140 (Cy.12).

(9)

Y rheoliadau a oedd mewn grym ar gyfer Lloegr ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgyfnerthiad) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/2897) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3938 ac O.S. 2002/2063.

(11)

Mae adran 337(1) yn cael ei diwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(12)

O.S. 1999/3312 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/4010.

(13)

1998 p.38.

(14)

Y Rheoliadau mewn grym ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817) (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S 2002/2938 (Cy.279) a O.S. 2003/140 (Cy.12).

(15)

O.J. Rhif L19, 24.1.89, t.16.

(16)

Gorch. 2073.

(17)

Gorch. 2183.