xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person.
2. Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.
3. Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.
4. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan y cyflogwr a roddwyd i berson mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau, ac atebion neu gynrychioliadau'r person mewn perthynas â hynny.
5. Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth eraill a gyflwynwyd gan berson i'r cyflogwr mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau.
6. Llythyr yn hysbysu bwriad person i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau.
7. Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae'r cyflogwr yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.
1. Datganiad o'r rhesymau dros derfynu'r trefniadau.
2. Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â therfynu'r trefniadau neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.
3. Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.
4. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan asiant a roddwyd i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu'r trefniadau, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, ac atebion y gweithiwr neu gynrychioliadau mewn perthynas â hynny.
5. Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth a gyflwynwyd gan berson i'r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd.
6. Llythyr gan y gweithiwr yn terfynu trefniadau neu yn peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio.
7. Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn yr asiant yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gellid ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.