xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 542 (Cy.76)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

5 Mawrth 2003

Yn dod i rym

31 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 15, 15A a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diddymu

2.  Diddymir rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000(3) a rheoliad 28 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(4)).

Dehongli

3.  Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn —

Adroddiadau gan gyflogwr

4.  Pan—

(a)fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm —

(i)nad yw'r person yn gymwys i weithio â phlant;

(ii)sy'n ymwneud â chamymddygiad y person; neu

(iii)sy'n ymwneud â iechyd y person os yw mater perthnasol yn codi; neu

(b)y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm o'r fath pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,

rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol.

5.—(1Pan —

(a)fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol; neu

(b)y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,

rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cyngor.

(2Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

Adroddiadau gan asiant

6.  Pan —

(a)fo asiant wedi terfynu trefniadau am reswm —

(ii)nad yw'r gweithiwr yn gymwys i weithio â phlant;

(ii)sy'n ymwneud â chamymddygiad y gweithiwr; neu

(iii)sy'n ymwneud â iechyd y gweithiwr os yw mater perthnasol yn codi;

(b)y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu

(c)y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,

rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r gweithiwr i'r Cynulliad Cenedlaethol.

7.—(1Pan—

(a)fo asiant wedi terfynu trefniadau i weithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig gyflawni gwaith am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol;

(b)y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu

(c)y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,

rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu athrawes gofrestredig i'r Cyngor.

(2Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

Llofnodwyd a ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003

YR ATODLEN

RHAN 1Gwybodaeth sydd i'w chyflenwi gan gyflogwr perthnasol

1.  Datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person.

2.  Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.

3.  Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.

4.  Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan y cyflogwr a roddwyd i berson mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau, ac atebion neu gynrychioliadau'r person mewn perthynas â hynny.

5.  Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth eraill a gyflwynwyd gan berson i'r cyflogwr mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau.

6.  Llythyr yn hysbysu bwriad person i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau.

7.  Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae'r cyflogwr yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.

RHAN IIGWYBODAETH I'W CHYFLENWI GAN ASIANT

1.  Datganiad o'r rhesymau dros derfynu'r trefniadau.

2.  Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â therfynu'r trefniadau neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.

3.  Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.

4.  Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan asiant a roddwyd i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu'r trefniadau, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, ac atebion y gweithiwr neu gynrychioliadau mewn perthynas â hynny.

5.  Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth a gyflwynwyd gan berson i'r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd.

6.  Llythyr gan y gweithiwr yn terfynu trefniadau neu yn peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio.

7.  Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn yr asiant yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gellid ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon ac eraill y mae eu gwaith yn ymwneud â darparu addysg ac i asiantaethau cyflenwi roi adroddiadau ar achosion o gamymddygiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), ac achosion o anghymwysedd i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”).

Rhaid i gyflogwyr roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol os ydynt yn rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person ar sail penodedig, neu os y gallent fod wedi gwneud pe na bai'r person hwnnw eisoes wedi peidio â darparu ei wasanaethau. Y seiliau penodedig yw anasddrwydd person i weithio â phlant, camymddygiad person ac iechyd person os yw'n ymwneud â diogelwch a lles plant. Os yw'r sail yn ymwneud ag anghymwysedd athro neu athrawes gofrestredig, rhaid rhoi'r adroddiad i'r Cyngor.

Rhaid i asiantau roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol os ydynt wedi trefnu i weithiwr gyflawni gwaith ar ran awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu berchennog ysgol annibynnol ac y maent yn terfynu'r trefniadau hynny ar sail penodedig, neu y gallent fod wedi gwneud pe na bai'r person hwnnw eisoes wedi terfynu'r trefniadau neu wedi peidio â bod ar gael i weithio. Y seiliau penodedig yw anasddrwydd person i weithio â phlant, camymddygiad person ac iechyd person os yw'n ymwneud â diogelwch a lles plant. Os yw'r sail yn ymwneud ag anghymwysedd athro neu athrawes gofrestredig, rhaid rhoi'r adroddiad i'r Cyngor.

Mae'r Atodlen yn nodi'r wybodaeth sydd i'w darparu yn yr adroddiadau.

(1)

1998 p.30. Mae Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â'r Cyngor yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Amnewidir adran 15 a mewnosodir adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Adddysg 2002 (p.32). Am ystyr “prescribed” gweler adran 43(1) o Ddeddf 1998.

(2)

Gweler adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).