Search Legislation

Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 529 (Cy.74)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

5 Mawrth 2003

Yn dod i rym

7 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys i Gymru.

(3Ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) 1999 (The Land in Care Scheme (Tir Gofal) (Wales) Regulations 1999)(3).

Diwygio rheoliad 2

2.  Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau ychwaneger y paragraff canlynol:—

(4) In these Regulations, references to “hardwood” mean Welsh oak only and payments in relation to any other wood are to be made at the “softwood” rate..

Diwygio Atodlen 2

3.—(1Diwygir Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Yn lle paragraff 2 rhoddir:—

In relation to the management of heath land which is—

(a)high mountain heath and upland heath — £50 per hectare per agreement year

(b)lowland heath — £80 per hectare per agreement year.

(3Dilëir paragraff 3(b) a mewnosodir y testun canlynol:

(b)management of unimproved neutral grassland — £90 per hectare per agreement year.

(4Dilëir paragraff 3(d) a mewnosodir y testun canlynol:

(d)management of semi-improved grassland — £90 per hectare per agreement year.

(5Dilëir paragraff 4(a) a mewnosodir y testun canlynol:

(a)management of bogs — £40 per hectare per agreement year.

(6Dilëir paragraph 4(b).

(7Dilëir paragraph 5(a) a mewnosodir y testun canlynol:

(a)management of improved land which is coastal grazing marsh or floodplain grassland

(i)lightly grazed — £180 per hectare per agreement year

(ii)moderately grazed — £100 per hectare per agreement year.

Diwygiadau i Atodlen 3

4.—(1Diwygir Atodlen 3 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff 2(c), dilëir is-baragraffau (i) a (ii).

(3Ym mharagraff 2(c) yn lle is-baragraffau (iii) a (iv) rhoddir:

(iii)on neutral grassland — £110 per hectare per agreement year

(iv)on acid and limestone grassland — £130 per hectare per agreement year.

(4Yn lle is-baragraffau 3(e) ac (f) rhoddir:

(e)establishment of heathland vegetation on acid grassland or maritime cliffs and slopes — £110 per hectare per agreement year.

(5Yn lle is-baragraffau 3(h) ac (i) rhoddir:

(h)establishment of new saltmarshes and creation of reedbeds on existing saltmarshes — £230 per hectare per agreement year.

(6Dilëir paragraff 4.

Diwygio Atodlen 4

5.—(1Diwygir Atodlen 4 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Ar ôl is-baragraff 1(h) ychwanegir:

(ha)erection of post, wire and netting fencing which is made of—

  • softwood — £1.75 per metre

  • hardwood — £2.00 per metre

(3Yn is-baragraff 1(k)(ii) yn lle “£2.60” rhoddir “£2.88”.

(4Yn is-baragraff 1(l)(ii) yn lle “£11” rhoddir “£10.80”.

(5Yn is-baragraff 1(m)(i) yn lle “£110” rhoddir “£120”.

(6Yn is-baragraff 1(m)(ii) yn lle “£160” rhoddir “£144”.

(7Ym mharagraff 3 mewnosodir:

(c)heather cutting — £60 per hectare.

(8Yn lle is-baragraff 5(a) rhoddir:

(a)removal or reduction of bracken by mechanical means or tractor mounted sprayer — £50 per hectare.

(9Yn lle is-baragraff 5(b) rhoddir:

(b)removal or reduction of bracken by aerial spraying or hand held sprayer — £120 per hectare.

(10Dilëir is-baragraff 5(c).

(11Yn lle is-baragraff 8(a) rhoddir:

(a)introducing wild plants — £150 per hectare.

(12Dilëir is-baragraff (b), (c), (d) ac (e) o baragraff (8).

(13Yn lle is-baragraffau 9(a) rhoddir:

(a)creation or restoration of a pond — £2.50 per square metre and subject to a maximum of £500 per pond.

(14Dilëir is-baragraff 9(b).

(15Yn lle is-baragraff 9(c) rhoddir:

(c)installation of soil bunds — £35 per bund.

(16Yn lle is-baragraff 9(d) rhoddir:

(d)installation of a timber sluice — £140 per sluice.

(17Yn lle is-baragraff 9(f) rhoddir

(f)hard surfacing — £5 per square metre.

(18Dilëir is-baragraff 9(g).

(19Yn is-baragraff 11(a)(i) yn lle “£100” rhoddir “£120”.

(20Yn is-baragraff 11(a)(ii) yn lle “£150” rhoddir “£144”.

(21Yn is-baragraff 11(b)(i) yn lle “£110” rhoddir “£130”.

(22Yn is-baragraff 11(b)(ii) yn lle “£160” rhoddir “£156”.

(23Dilëir is-baragraff 11(m).

Symiau o Gymhorthdal

6.  Yn rheoliad 9 ychwanegir y paragraffau canlynol—

(3) Payments for capital activities in accordance with Schedule 4 are subject to the following overall limits for the duration of the Tir Gofal agreement—

(a)For farms of less than 20 hectares — £5,000;

(b)For farms of 20-50 hectares — £10,000;

(c)For farms of more than 50 hectares — £20,000.

(4) The Countryside Council may increase any payment in relation to habitats referred to in Schedule 2 or 3 by 10% where cattle have been used to achieve an environmental benefit, and by a further 10% of the original figure where Welsh Black cattle have been so used..

Darpariaethau trosianol

7.—(1Caiff y Rheoliadau hyn effaith yn syth mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal a lofnodir ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny.

(2Mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal a lofnodwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys fel a ganlyn—

(a)Yn achos paragraffau y rhoddwyd darpariaethau yn eu lle, bydd y darpariaethau hynny yn gymwys o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

(b)Yn achos paragraffau a ddilewyd, fe fydd hawl gan ddeiliad y cytundeb i barhau i gael taliadau o dan y darpariaethau a ddilewyd a oedd yn gymwys pan lofnodwyd y cytundeb Tir Gofal, yn hytrach na'r darpariaethau a fewnosodwyd gan y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tir Gofal 1999 (the Land in Care Scheme (Tir Gofal) Regulations 1999) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001. Mae'r diwygiadau yn adlewyrchu newidiadau a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o addasiadau 2001 i'r Cynllun Datblygu Gwledig. Caiff y diwygiadau yr effeithiau canlynol:—

rheoliad 2

Rhoddir ystyr mwy manwl i'r term “hardwood” pan y'i defnyddir yn y prif Reoliadau (rheoliad 2).

Atodlen 2

  • Unir y graddfeydd ar gyfer rhostir mynydd uchel a rhostir ucheldir (rheoliad 3(2));

  • ceir gwared â'r gwahaniaethu rhwng tir pori a gweirgloddiau yn yr eitemau ar gyfer rheoli tir glas (rheoliad 3(3) a (4));

  • ceir gwared â'r gwahaniaethu rhwng gorgors a chyforgors (rheoliad 3(5) a (6));

  • darperir graddfeydd gwahanol o daliadau ar gyfer rheoli tir wedi'i wella sydd yn forfa bori sy'n cael ei phori a gorlifdir glas yn dibynnu ar lefel y pori (rheoliad 3(7)).

Atodlen 3

  • Mae strwythur y taliadau ar gyfer newid tir glas wedi'i wella'n rhannol i dir glas heb ei wella yn cael ei symleiddio (rheoliad 4(2) a (3));

  • Mae dwy eitem mewn perthynas â sefydlu llystyfiant rhostirol yn cael eu huno (rheoliad 4(4));

  • Mae dwy eitem mewn perthynas â morfeydd heli yn cael eu huno (rheoliad 4(5));

  • Dilëir yr eitem mewn perthynas â rheoli parthau gwahanu (rheoliad 4(6)).

Atodlen 4

  • Newidir y taliadau mewn perthynas â ffensio a llidiartau i ddarparu graddfa unedig o daliadau pan ddefnyddir ffensio postyn a gwifren a rhwyd wifren fel rhan o'r un ymarfer ac i amrywio'r graddfeydd taliadau (rheoliad 5(2) i (6));

  • Mewnosodir eitem newydd mewn perthynas â thorri grug (rheoliad 5(7));

  • Mae eitemau mewn perthynas â rhedyn yn cael eu huno a'u gwneud yn fwy eglur (rheoliad 5(8) i (10));

  • Mae eitemau mewn perthynas â chyflwyno planhigion gwyllt yn cael eu huno (rheoliad 5(11) a (12));

  • Dilëir eitem mewn perthynas â safloeoedd o dirlun hanesyddol sydd wedi erydu (rheoliad 5(12);

  • Unir dwy eitem yn ymwneud â phyllau (rheoliad 5(13) a (14));

  • Mae eitemau mewn perthynas â byndiau a llifddorau yn cael eu gwneud yn fwy eglur (rheoliad 5(15) a (16));

  • Unir eitem mewn perthynas ag arwyneb caled (rheoliad 5(12), (17), (18) a (23)); a

  • Diwygir y graddfeydd mewn perthynas â llidiartau pren (rheoliad 5(19) i (22)).

Rheoliad 9

Cyflwynir terfynau cyfanswm newydd mewn perthynas â gweithgareddau cyfalaf a geir yn Atodlen 4 ynghyd â thaliadau uwch mewn perthynas â'r defnydd o wartheg (rheoliad 6).

Dod i rym a darpariaethau trosiannol

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Mawrth 2003 mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal newydd (rheoliadau 1(1) a 7). Darperir ar gyfer yr effaith ar ddeiliaid cytundebau sy'n bodoli eisioes hefyd yn rheoliad 7.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources