Trwyddedau penodol
9.—(1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol—
(a)rhaid iddo gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a
(b)rhaid i'r drwydded fynd gydag ef ar hyd y daith.
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded arbennig, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol hynny—
(a)dangos y drwydded;
(b)caniatáu i gopi ohoni neu o ddarn ohoni gael ei wneud; ac
(c)os gofynnir hynny iddo, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(3) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny drwy gydol y symud.
(4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—
(a)sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho; a
(b)cadw'r drwydded am chwe mis a'i dangos i arolygydd os gofynnir am ei gweld.