xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 5 yn gymwys os—
(a)oes ar y safle ardal i anifeiliaid ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol, a
(b)os yw'r ardal i anifeiliaid wedi'i glanhau a'i diheintio, a bod unrhyw ddeunydd gwastraff ar yr ardal i'r anifeiliaid wedi cael ei symud a'i waredu, yn unol â'r erthygl hon.
(2) O ran y gwaith glanhau a diheintio—
(a)rhaid peidio â chychwyn arno hyd nes bydd yr holl anifeiliaid wedi'u symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid a lanheir ac a ddiheintir, a
(b)rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig.
(3) Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill —
(a)a'u distrywio,
(b)eu trin fel nad oes perygl o drosglwyddo clefyd, neu
(c)eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
(4) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(5) Yn dilyn y tro olaf y cafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, os bydd yn cael ei baeddu â charthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid, yna mae'n rhaid glanhau a diheintio'r ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi'u baeddu yn y modd hwn, a rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd gwastraff, yn unol â'r erthygl hon, cyn crynhoi anifeiliaid yno.