Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 4(3)(c);

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle sef—

(a)

gwerthiant,

(b)

sioe neu arddangosfa,

(c)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu

(ch)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,

ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;

mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac

ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 (1) sydd o'r cryfder sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.

(1)

O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru O.S. 2001/641 (Cy.31).