2003 Rhif 411 (Cy.58)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.

2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 20012.

Diwygio'r Prif Reoliadau2

1

Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 5(2), dilëir paragraff (ch).

3

Yn rheoliad 8(1) yn lle “30 diwrnod” rhoddir “60 diwrnod”.

4

Yn rheoliad 8(2), dilëir paragraff (ch).

5

Yn rheoliad 8(3) yn lle “ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ” rhoddir “yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 7(2) uchod”.

6

Yn rheoliad 11(1) yn lle “30 diwrnod” rhoddir “60 diwrnod”.

7

Yn rheoliad 11(3) yn lle “ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ” rhoddir “yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 10(2) uchod”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Fe sefydlwyd cyfundrefn apelau amaethyddol ar gyfer Cymru gan Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001.

Mae'r Rheoliadau presennol yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy ddileu'r gofyniad i geiswyr roi rhesymau am eu cais am adolygiad yng nghamau 1 a 2 o'r broses apelau.

Maent hefyd yn estyn y cyfnod i wneud cais yng nghamau 2 a 3 o'r broses o 30 diwrnod i 60 diwrnod ac yn cynnwys elfen o hyblygrwydd i'r cyfeiriad ar gyfer anfon cais.