Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid o fewn ardal heintiedig ac allan ohoni

6.—(1Mae symud anifail, y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo, gan unrhyw berson allan o ardal sydd wedi'i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei wahardd, ac eithrio —

(a)o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol; neu

(b)os yw'r anifail yn teithio drwy'r ardal ar drên neu mewn cerbyd ar hyd y llwybr byrraf sydd ar gael gan ddefnyddio traffyrdd neu brif ffyrdd a hynny heb gael ei ddadlwytho.

(2Mae symud anifail, y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo, gan unrhyw berson oddi ar unrhyw safle mewn ardal sydd wedi'i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei wahardd, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.