- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Os yw apêl wedi'i wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac at unrhyw berson y mae copi o'r hysbysiad gorfodi wedi'i gyflwyno iddo, ddatganiad sy'n dangos y cyflwyniadau y mae'n bwriadu rhoi gerbron ynglŷn â'r apêl, gan gynnwys—
(a)crynodeb o ymateb yr awdurdod i bob sail i'r apêl y mae'r apelydd yn ei wneud; a
(b)datganiad sy'n dweud a fyddai'r awdurdod yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio i'r materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri'r rheolaeth gynllunio, neu roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth i'r gwaith y mae'r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn berthnasol iddo, yn ôl y digwydd, ac, os felly, yn rhoi manylion am yr amodau, os oes rhai, y byddai am eu gorfodi ar y caniatâd neu'r cydsyniad.
(2) Rhaid i unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol ei anfon o dan baragraff (1) gyrraedd o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “dyddiad dechrau” yw dyddiad—
(a)hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 9; neu
(b)hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Rheolau a wnaed o dan adran 9 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 sy'n hysbysu'r apleydd a'r awdurdod cynllunio lleol bod ymchwiliad neu wrandawiad, yn ôl y digwydd, i'w gynnal, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: