- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4. Rhaid i bob copi o hysbysiad gorfodi a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol o dan adran 172(2) o'r Ddeddf Gynllunio gael ei anfon gyda nodyn esboniadol a rhaid i hwnnw gynnwys yr hyn a ganlyn—
(a)copi o adrannau 171A, 171B a 172 hyd 177 o'r Ddeddf Gynllunio, neu grynodeb o'r adrannau hynny gan gynnwys y wybodaeth ganlynol—
(i)bod hawl apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn yr hysbysiad gorfodi hwnnw;
(ii)bod modd gwneud apêl dim ond drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o'r apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y bydd yn effeithiol arno neu drwy anfon hysbysiad o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn llythyr wedi'i gyfeirio yn gywir, y talwyd am ei gludiant ymlaen llaw, ac sydd wedi'i bostio iddo ar y fath amser fel, yn ôl gwasanaeth arferol y post, y byddai'n cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw;
(iii)ar ba seiliau y gellid gwneud apêl o dan adran 174 o'r Ddeddf Gynllunio;
(iv)y ffi i'w thalu o dan rheoliad 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989(1) am y cais tybiedig am ganiatâd cynllunio i'r datblygiad yr honnir iddo dorri'r rheolaeth gynllunio yn yr hysbysiad gorfodi;
(b)hysbysiad bod rhaid i apelydd anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai wrth roi rhybudd o apêl neu o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn anfon hysbysiad at yr apelydd yn gwneud hynny'n ofynnol, ddatganiad ysgrifenedig sy'n nodi'r seiliau y mae'r apelydd yn apelio arnynt yn erbyn yr hysbysiad gorfodi gan ddatgan yn gryno'r ffeithiau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arnynt i gefnogi pob un o'r seiliau hynny; ac
(c)rhestr o enwau a chyfeiriadau y personau y mae copi o'r hysbysiad gorfodi wedi'i gyflwyno iddynt.
O.S. 1989/193, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2735 ac y mae diwygiadau eraill iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: