Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu gyda diwygiadau Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi a Apelau) 1991.

Maent yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)cynnwys hysbysiadau gorfodi a gyhoeddir o dan adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a'r wybodaeth i'w darparu gan yr awdurdodau cynllunio lleol wrth gyflwyno copïau o hysbysiadau o'r fath (Rhan 2);

(b)y gweithdrefnau i'w dilyn ynglŷn ag apelau yn erbyn hysbysiadau o'r fath ac yn erbyn hysbysiadau gorfodi adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth a ddyroddir o dan adran 38(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (Rhan 3); a

(c)cymhwyso'r Rheoliadau i hysbysiadau o'r fath a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Rhan 4).

Yn ychwanegol at ddiwygiadau mân a rhai sy'n ymwneud â drafftio, mae'r Rheoliadau yn gwneud y newidiadau canlynol o sylwedd—

(a)mae rheoliad 3(b) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol, yn ychwanegol, roi manylion am bob polisi a chynnig yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gorfodi;

(b)mae rheoliad 4 yn pennu pa faterion y dylid ymdrin â hwy yn y nodyn esboniadol a anfonir gyda'r hysbysiad gorfodi. Y ffi sydd i'w thalu am gais tybiedig am ganiatâd cynllunio a rhestr o enwau a chyfeiriadau y rhai y cyflwynwyd copi o'r hysbysiad gorfodi iddynt yw'r materion ychwanegol i'w cynnwys;

(c)mae rheoliad 6 yn cynnwys gofyniad ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol bod apêl wedi'i wneud yn erbyn yr hysbysiad gorfodi a rhoi copi o ddatganiad apêl yr apelydd i'r awdurdod cynllunio lleol;

(ch)mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol yn ychwanegol i'r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o'i ddatganiad at bob person y cyflwynwyd copi o'r hysbysiad gorfodi iddo;

(d)rhaid i ddatganiad yr awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 8 gael ei anfon o fewn 6 wythnos ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 9 neu hysbysu'r partïon bod ymchwiliad neu wrandawiad i'w gynnal, p'un bynnag yw'r diweddaraf;

(dd)mae rheoliad 9 yn cynnwys gofyniad ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol pan fo o'r farn ei fod wedi cael yr holl ddogfennau y mae eu hangen i'w alluogi i ystyried yr apêl; ac

(e)mae rheoliad 12 yn awdurdodi dogfennau sy'n cael eu hanfon yn unol â'r Rheoliadau hyn gael eu hanfon drwy gyfrwng electronig.