Hysbysu personau sydd â buddiant5

1

Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'r apêl, er mwyn i'r personau a ganlyn ei gael o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, i:

a

unrhyw berson a hysbyswyd neu yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â'r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu orchymyn datblygu, yn ôl y digwydd, am yr apêl; a

b

unrhyw berson arall sydd wedi gwneud sylwadau i'r awdurdod cynllunio lleol am yr apêl.

2

Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1):

a

nodi enw'r apelydd a chyfeiriad y safle y mae'r apêl yn berthnasol iddo;

b

disgrifio'r apêl;

c

nodi'r materion a hysbyswyd i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 4;

ch

nodi yr anfonir copïau o unrhyw sylwadau a wnaethpwyd gan unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd;

d

nodi y caiff unrhyw sylwadau o'r fath eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu'r apêl oni bai i unrhyw berson a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu tynnu yn ôl o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau; ac

dd

nodi y bydd yn bosibl i sylwadau ysgrifenedig pellach gael eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.