xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1996”(1) (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “cais” (“application”) yw cais a wnaed i'r awdurdod cofrestru i gofrestru ysgol annibynnol gan y perchennog yn unol ag adran 160(1)(b) o Ddeddf 2002;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw cofrestr ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3) o Ddeddf 2002;
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996; ac
ystyr “ysgol gofrestredig” (“registered school”) yw ysgol y mae cofnod o'i henw ar y gofrestr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson sy'n cyflawni gwaith y mae adran 142 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddo.
3. Rhaid i bob cais—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;
(b)datgan y dyddiad cyntaf y bydd ysgol yn bwriadu derbyn disgyblion;
(c)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen; ac
(ch)cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog bod y datganiadau a wnaed yn y cais yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.
4. Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru cyn pen tri mis ar ôl derbyn disgyblion, neu un disgybl os yw'r disgybl hwnnw o fewn adran 463(1)(b) o Ddeddf 1996, ffurflen ysgrifenedig rhaid ei bod yn cynnwys —
(a)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen; a
(b)tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.
5.—(1) Ym mhob blwyddyn ysgol rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru ffurflen flynyddol ar gyfer yr ysgol honno cyn pen mis ar ôl i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani.
(2) Rhaid i bob ffurflen flynyddol —
(a)cael ei darparu yn ysgrifenedig;
(b)bod wedi'i llenwi hyd at y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cofrestru;
(c)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen; ac
(ch)cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen flynyddol yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.
6. Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig, cyn pen pymtheng niwrnod i gais, roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth y mae'n gofyn amdani ac y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r swyddogaethau y mae'n eu harfer neu swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002, ac nad yw eisoes wedi cael ei rhoi iddo o dan Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003(2).
7. Os yw'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni bod perchennog ysgol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6, caiff dynnu'r ysgol honno o'r gofrestr.
8. Os bydd perchennog ysgol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6 bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
9. Mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2004, mae “uchafswm y disgyblion” at ddibenion adran 162 o Ddeddf 2002 i droi, ar y dyddiad hyd ato y mae ffurflen flynyddol 2004 yn cael ei llenwi, yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw.
10. Mae Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 1997(3) yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003