Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1996”2 (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “cais” (“application”) yw cais a wnaed i'r awdurdod cofrestru i gofrestru ysgol annibynnol gan y perchennog yn unol ag adran 160(1)(b) o Ddeddf 2002;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw cofrestr ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3) o Ddeddf 2002;
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996; ac
ystyr “ysgol gofrestredig” (“registered school”) yw ysgol y mae cofnod o'i henw ar y gofrestr.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson sy'n cyflawni gwaith y mae adran 142 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddo.
Cais am gofrestru ysgol annibynnol3
Rhaid i bob cais—
a
cael ei wneud yn ysgrifenedig;
b
datgan y dyddiad cyntaf y bydd ysgol yn bwriadu derbyn disgyblion;
c
cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen; ac
ch
cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog bod y datganiadau a wnaed yn y cais yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.
Cyflwyno ffurflen cyn pen y tri mis cyntaf o weithredu4
Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru cyn pen tri mis ar ôl derbyn disgyblion, neu un disgybl os yw'r disgybl hwnnw o fewn adran 463(1)(b) o Ddeddf 1996, ffurflen ysgrifenedig rhaid ei bod yn cynnwys —
a
yr wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen; a
b
tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.
Ffurflen flynyddol5
1
Ym mhob blwyddyn ysgol rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru ffurflen flynyddol ar gyfer yr ysgol honno cyn pen mis ar ôl i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani.
2
Rhaid i bob ffurflen flynyddol —
a
cael ei darparu yn ysgrifenedig;
b
bod wedi'i llenwi hyd at y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cofrestru;
c
cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen; ac
ch
cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen flynyddol yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.
Adroddiadau ar gamymddwyn6
Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig, cyn pen pymtheng niwrnod i gais, roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth y mae'n gofyn amdani ac y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r swyddogaethau y mae'n eu harfer neu swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002, ac nad yw eisoes wedi cael ei rhoi iddo o dan Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 20033.
Tynnu ysgol o'r gofrestr7
Os yw'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni bod perchennog ysgol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6, caiff dynnu'r ysgol honno o'r gofrestr.
Tramgwydd8
Os bydd perchennog ysgol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6 bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Uchafswm ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn bodoli9
Mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2004, mae “uchafswm y disgyblion” at ddibenion adran 162 o Ddeddf 2002 i droi, ar y dyddiad hyd ato y mae ffurflen flynyddol 2004 yn cael ei llenwi, yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw.
Dirymu10
Mae Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 19974 yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.