Diwygio Rheoliadau 1999
2.—(1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4) o reoliad 1:
(a)Ar y dechrau, mewnosodwch y canlynol—
“(a)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)”.
(b)Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol—
“(b)Yn Rhan 2 o'r Atodlen, mae'r cyfeiriad at Aquila Networks plc yn gyfeiriad at gwmni ac iddo'r enw hwnnw ar 10 Mai 2002.”.
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch “Aquila Networks plc” yn lle “Midlands Electricity plc”
(1)