xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3225 (Cy.307)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

11 Rhagfyr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.

Diwygio Rheoliadau 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (4) o reoliad 1:

(a)Ar y dechrau, mewnosodwch y canlynol—

(a)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b).

(b)Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol—

(b)Yn Rhan 2 o'r Atodlen, mae'r cyfeiriad at Aquila Networks plc yn gyfeiriad at gwmni ac iddo'r enw hwnnw ar 10 Mai 2002..

(3Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch “Aquila Networks plc” yn lle “Midlands Electricity plc”

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Er mwyn sicrhau bod hereditamentau penodol i gyd yn cael eu hardrethu'n ganolog gyda'i gilydd, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau o dan adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Yn y rheoliadau hynny, caiff ddynodi person a rhagnodi un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig mewn perthynas â'r person hwnnw. I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r pŵer hwn wedi cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Y prif Reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddibynnu ar y pŵer hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn effeithiol o ran unrhyw restr ardrethu canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy roi Aquila Networks plc fel person dynodedig mewn perthynas â hereditamentau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau darparwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion atodol, yn lle Midlands Electricity plc o 1 Tachwedd 2001.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).