2003 Rhif 3211 (Cy.304)
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi1 sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru 2:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
2
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.
Diwygio Rheoliadau 19922
O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
a
ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” rhoddir “0.998”; a
b
yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
YR ATODLEN
SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
Prescribed figure
Blaenau Gwent
52,800
Bridgend
99,400
Caerphilly
129,200
Carmarthenshire
137,000
Cardiff
238,900
Ceredigion
62,500
Conwy
87,500
Denbighshire
73,400
Flintshire
114,900
Gwynedd
91,900
Isle of Anglesey
53,000
Merthyr Tydfil
42,500
Monmouthshire
65,700
Neath Port Talbot
104,900
Newport
104,400
Pembrokeshire
88,000
Powys
99,700
Rhondda Cynon Taf
177,200
Swansea
176,100
Torfaen
69,200
Vale of Glamorgan (The)
91,200
Wrexham
100,700
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)