2003 Rhif 3119 (Cy.297)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701 (o'i darllen ynghyd â rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau ac Esemptiadau Trosiannol a Dilynol) (Lloegr a Chymru) 20002 ac erthyglau 2 a 6 o Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 20023) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru4), ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd5 a chan ei fod wedi'i ddynodi6) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19727 mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno a grybwyllwyd ddiwethaf (i'r graddau nad oes modd gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennwyd uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: